Arbed safleoedd treftadaeth mewn perygl diolch i gefnogaeth y Loteri Genedlaethol
Mae Cofrestr Risg Historic England yn rhoi cipolwg blynyddol ar safleoedd treftadaeth mwyaf gwerthfawr Lloegr sydd mewn perygl o gael eu colli o ganlyniad i esgeulustod, pydredd neu ddatblygiad amhriodol. Mae 175 o safleoedd wedi'u hychwanegu at y Gofrestr eleni.
Ond nid yw'n newyddion drwg i gyd gan fod y Gofrestr hefyd yn tynnu sylw at y safleoedd hanesyddol sydd wedi eu hachub diolch i ymyrraeth cymunedau lleol, elusennau, perchnogion a chynghorau. Yn 2022, mae 233 o enghreifftiau rhyfeddol sydd wedi'u tynnu oddi ar y gofrestr.
Mae mor galonogol gweld cymaint o safleoedd treftadaeth sylweddol yn cael eu tynnu o'r Gofrestr Treftadaeth mewn Perygl.
Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Cymorth gan y Loteri Genedlaethol
Mae nifer o'r safleoedd sydd wedi eu hachub wedi derbyn cefnogaeth hollbwysig gennym.
Dywedodd Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Mae mor galonogol gweld cymaint o safleoedd treftadaeth arwyddocaol yn cael eu tynnu o'r Gofrestr Treftadaeth mewn Perygl, ac yn cael bywyd newydd fel rhan o'u cymunedau a'u lleoedd lleol.
"Mae gwarchod ac arbed treftadaeth mewn perygl i'r genhedlaeth nesaf ei fwynhau yn greiddiol i'n pwrpas, ac rydym yn hynod falch bod y Gronfa Treftadaeth wedi gallu cefnogi'r gwaith i wneud y newyddion gwych hwn yn bosibl."
Pyllau Cleveland, Caerfaddon
Fe lwyddodd prosiect cadwraeth gwerth miliynau o bunnoedd i achub lido hynaf Prydain i gwblhau'n llwyddiannus eleni. Ym mis Medi cafodd nofwyr eu croesawu yn ôl i Byllau Cleveland am y tro cyntaf mewn 40 mlynedd.
Diolch i'r gwaith cadwraeth medrus a gosod system wresogi dŵr cynaliadwy newydd dan arweiniad Cleveland Pools Trust, gellir mwynhau'r lido am genedlaethau lawer i ddod.
Mur Hadrian – Steel Rigg, Northumberland, a Phorth Carlisle, Cumbria
Mae 2022 yn nodi 1900 mlynedd ers Mur Hadrian – y system enfawr a chymhleth o amddiffynfeydd ar gyfer ymyl ogleddol yr Ymerodraeth Rufeinig.
Er bod y rhan fwyaf o'r Wal mewn cyflwr da dyw'r 170 o henebion cofrestredig sy'n rhan o'r safle ddim bob amser wedi aros cystal.
Mae'r henebion cofrestredig yn Port Carlisle yn Cumbria a Steel Rigg yn Northumberland wedi'u diogelu trwy waith cadwraeth, diolch i gydweithrediad rhwng Historic England a Phrosiect Archaeoleg Gymunedol Wal Hadrian (WallCAP) ym Mhrifysgol Newcastle.
Eglwys y Seintiau Peter, Paul a St Philomena, New Brighton, Cilgwri
Adeiladwyd yr eglwys ym 1933, ac mae'n nodwedd amlwg o wybren Cilgwri. Mae ei gromen werdd unigryw wedi cael ei adnabod fel 'The Dome of Home' ers canol yr 20g pan fyddai morwyr yn sbïo'r to o Afon Merswy wrth iddynt agosáu at adref. Mae'r eglwys yn un o'r adeiladau Art Deco eiconig olaf i oroesi'r ailddatblygiad yn New Brighton.
Coventry Charterhouse
Yn un o ddim ond naw mynachlog Carthusaidd yn Lloegr, mae'r Charterhouse yn un o adeiladau canoloesol gorau Coventry.
Yn ddiweddarach rhoddwyd yr adeilad rhestredig Gradd I o'r 14eg ganrif i bobl Coventry. Mae bellach yn mynd trwy brosiect adfer mawr i'w drawsnewid yn atyniad treftadaeth fel rhan o Ddinas Diwylliant y DU 2021.
Ein cefnogaeth i adeiladau a henebion hanesyddol
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ers 1994 mae dros £3biliwn wedi'i ddyfarnu i fwy na 9,000 o brosiectau adeiladu a heneb hanesyddol ledled y DU. Yn ogystal â mannau diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, mae'r prosiectau hyn yn cefnogi cyflogaeth a thwf economaidd ac yn gallu meithrin ymdeimlad o lesiant yn y gymuned leol.