Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth
Sut i ofyn am wybodaeth gennym ni
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi’r hawl i chi weld gwybodaeth gofnodedig a ddelir gennym.
Mae rhywfaint o'r wybodaeth a ddelir gennym eisoes ar gael yn gyhoeddus. Cyn i chi wneud cais am wybodaeth dylech:
- chwilio ein gwefan am yr wybodaeth
- gwirio ein cynllun cyhoeddi
Os hoffech wneud cais, gyrrwch e-bost i foi@heritagefund.org.uk
Rhaid i'ch cais nodi eich enw llawn. Rhowch gymaint o fanylder ag y gallwch am yr wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani. Byddwn yn cydnabod eich cais ac mae'n rhaid i ni ddarparu ateb cyflawn o fewn 20 niwrnod gwaith.
Os ydych wedi gofyn am wybodaeth sy’n ymwneud â thrydydd parti, efallai y bydd angen i ni ymgynghori â phartïon o’r fath er mwyn penderfynu a ellir rhyddhau’r wybodaeth. Wrth ymgynghori â thrydydd partïon bydd hunaniaeth y sawl sy'n gwneud y cais yn aros yn gyfrinachol ac ni chaiff ei ddatgelu.