Cynllun Cyhoeddi

Cynllun Cyhoeddi

See all updates
Nod y cynllun cyhoeddi yw rhoi trosolwg o'r sefydliad a'r wybodaeth rydym yn ei chadw a'i chyhoeddi.

Ynglŷn â'r cynllun cyhoeddi hwn

Fel corff cyhoeddus rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn rhwydd ac yn hawdd ei deall. Mae'r ddogfen hon yn cynnwys gwybodaeth sydd ar ein gwefan.

Os ydych chi'n chwilio am wybodaeth nad yw wedi'i chynnwys yn y cynllun cyhoeddi yma, gallwch wneud cais Rhyddid Gwybodaeth. Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni lunio Cynllun Cyhoeddi. Mae'r cynllun cyhoeddi yn ddogfen sy'n disgrifio'r wybodaeth a gyhoeddir gennym fel mater o drefn, lle gallwch ddod o hyd iddi, ac a ydym yn codi tâl amdani. Nid yw'n rhestr o'n cyhoeddiadau: mae'n disgrifio'r mathau o wybodaeth a gyhoeddir gennym.

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Sefydlwyd y Loteri Genedlaethol – a chyda arian loteri ar gyfer achosion da fel treftadaeth, y celfyddydau, chwaraeon ac elusennau – ym 1994.

Rhoddwyd cyfrifoldeb am ddosbarthiad y DU gyfan o enillion y Loteri Genedlaethol a ddyrannwyd i dreftadaeth i Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (CGDG). Daeth cangen dosbarthu'r Loteri CGDG yn adnabyddus fel Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (Y Gronfa)

Heddiw rydym yn gorff cyhoeddus anadrannol sy'n atebol i'r Senedd drwy'r Adran Dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS). Mae hyn yn golygu, er nad ydym yn un o adrannau'r llywodraeth, fod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn cyhoeddi cyfarwyddiadau ariannol a pholisi i ni, ac rydym yn adrodd i'r Senedd drwy'r adran. Mae ein penderfyniadau am geisiadau grant unigol a'n polisïau yn gwbl annibynnol ar y Llywodraeth.

O dan ein strategaeth Treftadaeth 2033, rydym yn darparu'r rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, yr ydym yn ei ddefnyddio i ariannu ehangder llawn treftadaeth yn y DU a helpu sefydliadau treftadaeth i ffynnu.

Rydym yn gweithredu ledled y DU gyda swyddfeydd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gennym swyddfeydd yn Lloegr sy'n gweithio yn y de-ddwyrain, y de-orllewin, Llundain, dwyrain Lloegr, dwyrain canolbarth Lloegr, gorllewin canolbarth Lloegr, Swydd Efrog a'r Humber, y gogledd ddwyrain a'r gogledd orllewin.

Mae pob un o'n gwledydd a'n hardaloedd ledled y DU yn cael eu harwain gan Gyfarwyddwr a Phennaeth Buddsoddi a Phennaeth Ymgysylltu yn eu Hardal/Gwlad. Maent hefyd yn gyfrifol am allgymorth a gweithgareddau eraill yn eu cenedl neu eu hardal, ac yn gwneud penderfyniadau ar geisiadau grant hyd at £250,000.

Mae ein Tîm Gweithredol yn goruchwylio ein gweithgareddau o ddydd i ddydd ac yn sicrhau bod ein fframwaith strategol yn cael ei weithredu. Cadeirir y Tîm Gweithredol gan ein Prif Weithredwr, Eilish McGuinness.

Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

Mae grantiau o dros £5 miliwn ac mewn perthynas â'n hymgyrchoedd ledled y DU yn cael eu gwneud gan ein Bwrdd Ymddiriedolwyr. Mae grantiau rhwng £250,000 a £5 miliwn wedi'u dirprwyo i'n Pwyllgorau ar gyfer y DU gyfan. Mae grantiau o dan £250,000 wedi'u dirprwyo i Benaethiaid Buddsoddi ar gyfer pob gwlad ac ardal.

Cyhoeddir rhestr o benderfyniadau a chofnodion ein Bwrdd Ymddiriedolwyr a'n Pwyllgorau a'n Penaethiaid Rhanbarth ar ein gwefan 20 diwrnod gwaith ar ôl i'r cyfarfod gael ei gynnal.

Mae'r canllawiau ymgeisio ar gyfer pob lefel cais yn rhestru'r meini prawf a'r canlyniadau y bydd prosiect yn cael eu barnu yn eu herbyn.

Yr hyn a wariwn a sut yr ydym yn ei wario

Mae Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (CGDG) yn gronfa pan fetho popeth arall i arbed eitemau o bwysigrwydd eithriadol i dreftadaeth y genedl sydd naill ai mewn perygl neu sydd â chymeriad coffa amlwg. Rhoddir cymorth grant i'r Gronfa gan lywodraeth ganolog er mwyn creu cofeb i'r rhai sydd wedi rhoi eu bywydau i'r Deyrnas Unedig.

Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw cangen dosbarthu loteri CGDG.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y grantiau yr ydym wedi'u gwneud yma. Rydym hefyd wedi cyhoeddi Data Agored am ein grantiau. 

Gwybodaeth am dendrau, contractau dros £10,000, ystadegau talu anfonebau a threuliau staff uwch

Beth yw ein blaenoriaethau a pha gynnydd rydym yn ei wneud

Fel ariannwr treftadaeth mwyaf y Deyrnas Unedig, ein gweledigaeth yw gwerthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.

Mae ein cyfrifon blynyddol yn cynnwys gwybodaeth am yr ystod o dreftadaeth y mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi helpu i'w hachub drwy gydol y blynyddoedd

Ein polisïau a'n gweithdrefnau.

Mae’r polisïau a’r gweithdrefnau a ganlyn ar gael ar ein gwefan:

Rhestrau a chofrestrau

Rydym yn cyhoeddi buddiannau ein Hymddiriedolwyr ac Aelodau'r Pwyllgor. Mae ein cyfrifon blynyddol yn cynnwys unrhyw drafodion partïon cysylltiedig sydd wedi digwydd dros y flwyddyn.

Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig.