Cytundeb Fframwaith gyda DCMS
Mae dogfen fframwaith Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol 2024–2027 bellach ar gael yn adran dogfennau fframwaith DCMS ar GOV.UK.
Mae’r cytundeb hwn yn disodli’r Cytundeb Rheoli a oedd gennym yn flaenorol gyda DCMS. Mae’n rhan o raglen drawslywodraethol i ddiweddaru’r cytundebau sy’n llywodraethu’r berthynas rhwng cyrff hyd braich (CHB) a’u rhiant-adrannau. Mae Swyddfa'r Cabinet bellach yn ei gwneud yn ofynnol i bob CHB gael Cytundeb Fframwaith rhwng y rhiant-adran a'r CHB i lywodraethu'r berthynas rhwng y CHB, yr adran noddi a gweddill y llywodraeth. Mae'r Cytundebau Fframwaith hyn wedi'u safoni i raddau helaeth ar draws CHB.
Mae’r Cytundeb yn nodi yn yr un lle y gofynion llywodraethu, goruchwylio ac adrodd rhyngom ni a DCMS. Ei nod yw sicrhau a fframio ein perthynas â DCMS ond nid yw'n newid sut rydym yn gweithio nac yn ymgysylltu â'n gilydd o ddydd i ddydd. Nid yw’n newid ein cyfarwyddiadau polisi nac yn disodli deddfwriaeth sylfaenol ond mae’n ddefnyddiol i'n hatgoffa am y gwaith adrodd rheolaidd a wnawn ar gyfer DCMS a sut rydym yn gweithio gyda nhw ar draws y sefydliad.