Bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Bwlch cyflog rhwng y rhywiau

See all updates
Mae'n ofynnol i bob sefydliad sydd â 250 neu fwy o weithwyr gyhoeddi data ar eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau (y gwahaniaeth mewn tâl yr awr rhwng gweithwyr gwrywaidd a benywaidd) bob blwyddyn.

Mae'r Gronfa Treftadaeth wedi ymrwymo i ddatblygu cydraddoldeb o fewn y sefydliad a chwrdd â'n cyfrifoldebau statudol. Isod ac yn y PDF sydd ynghlwm rydym yn rhannu gwybodaeth am ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer 2021-2022. Mae'r gwaith hwn yn bwysig i ni ac rydym yn defnyddio gwasanaethau arbenigwr allanol, XpertHR, i gefnogi ein dadansoddiad o ddata.

Fel gyda chyflogwyr eraill, cymerir ein data o 'giplun' o'r gweithlu ym mis Mawrth 2022, yr adroddir arno blwyddyn wedyn.

Gallwch lawrlwytho adroddiadau sy'n mynd yn ôl i 2016–2017 o'r dudalen hon.

Bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer 2021–2022

Ein bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau yw 8.45%, gostyngiad sylweddol o 4.65% ers y cyfnod blaenorol.

Ein bwlch cyflog cymedr rhwng y rhywiau yw 12.2%, gostyngiad o 13.7% ers ein hadroddiad bwlch cyflog rhwng y rhywiau diwethaf. 

Mae'n bwysig cofio nad yw'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yr un fath â thâl cyfartal. Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn edrych ar y gwahaniaeth mewn tâl cyfartalog rhwng yr holl ddynion a menywod yn y gweithlu. Mae tâl cyfartal yn ymwneud â gwahaniaethau mewn tâl rhwng dynion a menywod sy'n gwneud yr un gwaith neu waith cyfwerth.

Bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau y Gronfa Treftadaeth

Blwyddyn

Bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau

2018–2019

17.4%

2019–2020

12.1%

2020–2021

13.1%

2021–2022

8.45%

Cyfrifir tâl ar sail rhywedd drwy asesu gwahaniaethau rhwng chwartelau tâl rhwng dynion a menywod. Yn y Gronfa Treftadaeth mae gennym anghydbwysedd rhywedd yn ein gweithlu (mae dros 75% o'n pobl yn fenywod), sy'n cyfrannu'n fawr at ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau. 

Canran y dynion/merched yn ein gweithlu yn ôl chwartel tâl

Chwartel

Dynion

Menywod

Isaf

14.77%

85.23%

Canol isaf

25%

75%

Canol uchaf

27.27%

72.37%

Uchaf

37.93%

62.07%

Gwahaniaethau cyflog rhwng y rhywiau rhwng dynion/menywod yn ôl chwartel tâl

Chwartel

Gwahaniaeth

Dynion/menywod yn derbyn llai

Isaf

0%

-

Canol isaf

5.06%

Dynion

Canol uchaf

0.3%

Dynion

Uchaf

1%

Menywod

Data pellach

Ceir mwy o fanylion am y data a gasglwyd gennym, a sut y defnyddir cyfartaleddau canolrifol a chymedr i fesur y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, yn y PDF 2021–2022 ar y dudalen hon.

Ymdrin â'n bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Rydym yn cydnabod na ddylai fod gennym fwlch cyflog rhwng y rhywiau a'n bod yn ymrwymedig i archwilio, dadansoddi a thaclo'r ffactorau niferus sy'n ei achosi.

Ers ein hadroddiad diwethaf - ochr yn ochr ag amrywiaeth o newidiadau fel rhan o'n gwaith ehangach i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad – rydym wedi:

  • ffocysu ein dyfarniad cyflog 2021–2022 i gefnogi dilyniant o ran tâl, yn enwedig i unigolion ar chwartelau tâl is ac mewn amrediadau is
  • penodi swydd newydd Arweinydd Cydraddoldeb a Diwylliant y Gweithlu i siapio a gyrru ein gweithredoedd yn well

Yn y flwyddyn i ddod, byddwn yn ceisio lleihau ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau ymhellach drwy flaenoriaethu:

  • creu gweithgor bwlch cyflog rhwng y rhywiau newydd i fynd ati i nodi, dadansoddi, deall a thaclo ffactorau sy'n achosi gwahaniaethau cyflog
  • yn amodol ar gyfyngiadau tâl y sector cyhoeddus, parhau i ffocysu dyfarniadau cyflog yn y dyfodol i gefnogi ein pobl ar chwartelau is ac mewn amrediadau cyflog is
  • parhau i ddadansoddi data'r gweithlu'n rheolaidd er mwyn helpu i wella ein gwaith monitro a gwneud penderfyniadau