Plant a phobl ifanc

Plant a phobl ifanc

Mae gan dreftadaeth rôl hanfodol i'w chwarae o ran cyfoethogi bywydau plant a phobl ifanc, gan greu cymdeithas fwy cynhwysol.

Ers 1994, rydym yn falch o fod wedi buddsoddi dros £60miliwn ledled y DU mewn prosiectau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys y rhaglen Tynnu'r Llwch gwerth £10m.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi ymrwymo i wneud treftadaeth yn fwy cynhwysol a hygyrch i ystod ehangach o bobl ac mae hyn yn cynnwys y cenedlaethau iau. Gwyddom y gall plant a phobl ifanc chwarae rhan bwysig wrth greu prosiectau treftadaeth arloesol a chyffrous sy'n siarad â hwy mewn gwirionedd. 

Archwiliwch rywfaint o'n gwaith isod a dewch o hyd i ysbrydoliaeth ar gyfer eich prosiect, yna darganfyddwch a yw eich syniad yn gymwys i gael cyllid.

Long green grass and rushes surrounding water at Woodwalton Fen
Woodwalton Fen.

Projects

Peatland Progress: Gweledigaeth Newydd ar gyfer y Fens

Rydym wedi dyfarnu mwy nag £8 miliwn i'r prosiect arloesol hwn sy'n mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, allyriadau carbon, colli bioamrywiaeth ac iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc.