Local Places for Nature
Creodd Cyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn fannau gwyrdd croesawgar a hygyrch yn ardaloedd preswyl y dref. Mae’r rhain yn cynnwys:
- perllan gymunedol wedi'i phlannu â choed ffrwythau a llwyni brodorol
- parc chwarae eco i blant
- gardd synhwyraidd ac ymwybyddiaeth ofalgar gymunedol
- mannau tyfu cymunedol
Dewiswyd rhywogaethau planhigion a blodau gwyllt brodorol yn ofalus i roi hwb i fioamrywiaeth a denu peillwyr fel adar, gwenyn a mamaliaid bach. Crëwyd arwyddion ar gyfer llwybr natur i gysylltu'r pedwar gofod.
Roedd gwasanaethu anghenion y gymuned a gwella lles pobl leol hefyd yn rhan hanfodol o'r prosiect. Cyfrannodd y gymuned a phlant ysgol eu syniadau o ran sut yr oeddent eisiau i’r mannau gwyrdd gael eu defnyddio, a chyfrannodd pobl leol dros 550 o oriau gwirfoddoli i wireddu’r cynlluniau.
Swyddog Datblygu Cymunedol Cyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn: “Mae’r safleoedd wedi cael effaith gadarnhaol aruthrol ar ein cymuned, ac wrth iddynt aeddfedu ni fyddant ond yn tyfu o ran arddull ac ymgysylltiad cymunedol.
"Mewn arolygon ymgynghori cyhoeddus a gwblhawyd yn ystod y prosiect, roedd 100% o’r bobl a holwyd yn hapus gyda’r gwaith a wnaed, gyda llawer yn dymuno gwirfoddoli i gynnal a chadw’r safleoedd.”
Dywedodd un preswylydd sy’n byw ger y berllan gymunedol: “Mae’r syniad o gael perllan gymunedol ger ein cartref yn anhygoel.
"Mae gen i fabi a phlentyn bach, ac mae fy machgen bach wedi gwylio’r safle’n datblygu o fod yn barc anaddas ac wedi'i ordyfu i fod yn berllan. Mae’n methu aros am weld y coed yn tyfu ac i dreulio amser fel teulu yn casglu'r ffrwythau ac yn dod adref i'w defnyddio wrth goginio.”
Cefnogwyd y prosiect hwn trwy'r cynllun Lleoedd Lleol i Natur, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.