Amser am newid: dysgu yn yr awyr agored i bob plentyn
Y gwanwyn diwethaf, gweithiodd Dysgu drwy Dirweddau gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i greu Fy Ysgol, Fy Mhlaned. Mae'n rhaglen dysgu yn yr awyr agored sydd wedi'i chynllunio i gefnogi plant i ailymgysylltu â dysgu, a'u treftadaeth naturiol, wrth iddynt drosglwyddo i'r flwyddyn academaidd newydd yn dilyn y cyfyngiadau symud cyntaf.
Roeddem yn cydnabod bod coronafeirws (COVID-19) yn cael effaith sylweddol ar weithgarwch corfforol a llesiant plant, yn enwedig plant o deuluoedd incwm isel, grwpiau ethnig difreintiedig a'r rhai sy'n byw mewn dinasoedd mewnol gyda lle cyfyngedig yn yr awyr agored.
Gan ganolbwyntio ar ardaloedd o amddifadedd uchel ar draws y pedair gwlad, gwnaethom ysgogi'r rhaglen yn gyflym a'i chyflwyno i 49 o ysgolion. Cafodd mwy na 1,000 o blant – o Inverclyde, Belfast ac Abertawe, i Durham, Blackburn, Llundain a Southampton – fudd o ddysgu a chefnogi yn yr awyr agored rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2020.
Nawr, wrth i blant ddechrau dychwelyd i ysgolion unwaith eto yn dilyn y rownd ddiweddaraf o gyfyngiadau symud, mae llawer o drafod ynglŷn â sut y dylai dyfodol addysg edrych. Credaf fod Fy Ysgol, Fy Mhlaned yn dangos i ni y dylai dysgu yn yr awyr agored gael ei wreiddio ym niwrnod ysgol pob plentyn.
Rhyddid i ddysgu yn yr awyr agored
Yn Dysgu drwy Dirweddau, rydym yn poeni'n gyson am y diffyg amser y mae plant a phobl ifanc yn ei dreulio yn yr awyr agored yn ystod y diwrnod ysgol.
Yn ystod y cyfyngiadau symud, rydym i gyd wedi gweld pwysigrwydd yr amser a dreulir yn yr awyr agored a'r effaith gadarnhaol y mae'n ei gael ar iechyd meddwl a llesiant. Wrth i ni ddod allan o'r cyfyngiadau symud cyntaf, roeddem yn gwybod ei bod yn bwysicach nag erioed, wrth i blant ddychwelyd i ysgolion, y dylent gael y rhyddid i ddysgu yn yr awyr agored.
Wrth gyflwyno Fy Ysgol, Fy Mhlaned gwelsom yr effaith a gafodd COVID-19 a'r cyfyngiadau symud a ddeilliodd o hynny ar ddisgyblion. Cyfarfuom â phlant a phobl ifanc a oedd wedi colli aelodau o'r teulu ac a oedd yn dal i brosesu eu galar. Cyfarfuom â phlant nad oeddent wedi gadael eu cartrefi mewn dros bedwar mis, a llawer nad oedd ganddynt fynediad i fannau awyr agored o gwbl yn ystod y cyfyngiadau symud.
Arallgyfeirio'r sector
Roeddem am i'r rhaglen gael effaith lle'r oedd ei hangen fwyaf – y plant hynny yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y pandemig. Er mwyn sicrhau y gallem ymgysylltu â phlant o gefndiroedd difreintiedig ac ethnig amrywiol, cawsom ein harwain gan Louder than Words, sefydliad dielw sy'n angerddol am ddatblygu prosiectau cymunedol diddorol ar gyfer pobl ifanc anodd eu cyrraedd.
Rwyf yn ymwybodol iawn o'r diffyg amrywiaeth ar draws sector yr amgylchedd naturiol. Ar gyfer Fy Ysgol, Fy Mhlaned i, roedd hyn yn golygu ein bod yn ei chael hi'n anodd recriwtio hyfforddwyr a oedd yn cynrychioli amrywiaeth disgyblion yn ein hysgolion. Buom yn gweithio gydag ymgyrchwyr hinsawdd ifanc, du a siaradodd â mi am ba mor bwysig ydyw i blant weld pobl sy'n edrych fel nhw yn eu hysgolion.
Mae hyn yn rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef ar frys. Mae angen i ni roi cyfle i blant weithio gyda phobl sy'n eu cynrychioli a chael eu hysbrydoli ganddynt. Rwy'n gobeithio – os gallwn gyflwyno Fy Ysgol, Fy Mhlaned ar draws hyd yn oed mwy o ysgolion – y gallwn ei defnyddio fel cyfle i ddod â mwy o amrywiaeth i'r sector.
Os ydym wir am i'r genhedlaeth nesaf gymryd rhan mewn materion amgylcheddol, yna mae angen i ni sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli a'u hysbrydoli. Heb hyn, mae perygl i rannau cyfan o gymdeithas deimlo eu bod wedi'u heithrio o dreftadaeth naturiol unigryw'r DU.
Cymryd rhan yn yr argyfwng hinsawdd
Gwyddom, pan fydd pobl ifanc yn ymwneud â'u hamgylchedd naturiol, eu bod yn poeni mwy amdano, a'u bod am ei ddiogelu.
Cynigiwyd dysgu academaidd i ddisgyblion a oedd yn cymryd rhan yn Fy Ysgol, Fy Mhlaned yn canolbwyntio ar dri phwnc craidd: newid yn yr hinsawdd, priddoedd a bioamrywiaeth. Synnais o glywed mai ychydig o ysgolion a ymgysylltodd â newid yn yr hinsawdd – dim ond 7 o'r 49 ysgol a ddewisodd y pwnc hwn.
I mi, mae hyn yn codi cwestiwn mwy ynglŷn â pha mor ymgysylltiedig yw pobl ifanc mewn gwirionedd yn y ddadl ar yr hinsawdd.
Rwyf yn poeni ein bod wedi gweld cymaint yn y wasg am Greta Thunberg a streiciau hinsawdd yr ydym wedi anghofio eu gofyn i ni'n hunain: a yw hyn yn gynrychiolaeth wirioneddol o'r bobl ifanc ledled y DU? Os nad ydyw, beth y gallwn ei wneud i gefnogi pobl ifanc i gymryd mwy o ran yn yr argyfwng hinsawdd, yn enwedig y rheini o gefndiroedd ethnig amrywiol a'r rhai sy'n cael eu magu mewn tlodi?
Dychwelyd i fyd natur
Rhaid i raglenni fel Fy Ysgol, Fy Mhlaned chwarae rôl wrth i blant a phobl ifanc ddychwelyd i'r ysgol ac ail-addasu i fywyd ar ôl y cyfyngiadau symud.
Mae angen i ni flaenoriaethu darparu cyfleoedd i ddisgyblion ailymgysylltu â bywyd yr ysgol a chariad at ddysgu. Rhaid inni gefnogi pobl ifanc i dreulio amser yn yr awyr agored, a rhaid inni sicrhau eu bod yn cael cyfleoedd i ail-feithrin perthynas â'u cyfoedion a natur.
Roedd ein rhaglen Fy Ysgol, Fy Mhlaned yn gallu darparu'r holl fanteision hyn i blant yr hydref diwethaf yn dilyn y cyfyngiadau symud cyntaf a gallem gefnogi llawer mwy wrth i ni wella o'r pandemig.
Ynglŷn â Carley Sefton
Carley Sefton yw Prif Swyddog Gweithredol yr Ymddiriedolaeth Dysgu drwy Dirweddau. Sefydlwyd yr ymddiriedolaeth 30 mlynedd yn ôl i gefnogi plant i ddysgu, chwarae a chysylltu â natur ar dir eu hysgol. Ymunodd Carley â LtL yn 2017 a chyn hynny bu'n gweithio i Oasis Community Learning.
- Barn a fynegir yng nghyfres blog Treftadaeth y Dyfodol yw rhai'r awduron, nid o reidrwydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.