Canllaw recriwtio cynhwysol
Atodiad | Maint |
---|---|
New to Nature inclusive recruitment guide | 8.58 MB |
Newydd I Natur canllaw recriwtio cynhwysol | 8.1 MB |
Yn 2022 daethom ynghyd mewn partneriaeth â Groundwork UK i gyflawni Newydd i Natur, rhaglen a ddyluniwyd i helpu pobl ifanc i ddod o hyd i leoliadau gwaith natur cyflogedig ac arallgyfeirio'r sector.
Gan alw ar eu profiad o weithio gyda mwy nag 80 o sefydliadau i recriwtio 98 o hyfforddeion, mae Groundwork UK wedi creu canllaw 10 cam i annog sefydliadau i roi cynnig ar ddulliau newydd o gyrraedd grwpiau sydd heb eu gwasanaethau'n ddigonol. Ac nid ar gyfer y sector natur yn unig y mae hyn – gall unrhyw un sy'n gweithio ym myd treftadaeth neu'r tu hwnt sydd am wneud eu prosesau recriwtio'n fwy cynhwysol ei ddefnyddio.
Sut i ddenu doniau newydd ac amrywiol
O ganlyniad i fabwysiadu’r camau hyn recriwtiodd Newydd i Natur 86% o hyfforddeion o un o leiaf o grwpiau blaenoriaeth y rhaglen:
- gosod y sylfeini
- deall eich man cychwyn
- ystyried swydd lefel mynediad
- annog darpar ymgeiswyr gyda'ch pecyn swydd
- defnyddio iaith uniongyrchol a delweddau cynrychioliadol
- mabwysiadu proses ymgeisio syml
- datblygu strategaeth hyrwyddo ac allgymorth
- sicrhau bod eich proses llunio'r rhestr fer yn deg ac yn isafu tuedd
- cefnogi'r holl ymgeiswyr i ddisgleirio mewn cyfweliad
- cefnogi’r ymgeisydd llwyddiannus i lwyddo
Mwy o wybodaeth
Lawrlwythwch y PDF sydd ynghlwm wrth y dudalen hon i archwilio'r canllaw. I gyd-fynd â phob un o'r 10 cam ceir cyngor ymarferol a gwersi a ddysgwyd o'r rhaglen Newydd i Natur, yn ogystal â phwyntiau allweddol. Mae'r canllaw hefyd yn cynnwys adborth gan hyfforddeion sydd wedi cael profiad o'r arferion recriwtio hyn o lygad y ffynnon, ac mae dolenni i ddeunydd darllen pellach.
Mae'r Gronfa Treftadaeth yn ymroddedig i gefnogi gwell cynhwysiad, amrywiaeth, mynediad a chyfranogiad mewn treftadaeth. Trwy ein hariannu, byddwn yn cefnogi sefydliadau i sicrhau bod gan bawb gyfleoedd i ddysgu, datblygu sgiliau newydd a fforio treftadaeth, beth bynnag fo'u cefndir neu amgylchiadau personol. Archwiliwch ein hegwyddorion buddsoddi Treftadaeth 2033 i weld yr hyn y gallwn ei wneud gyda'n gilydd a'r hyn yr ydym am ei gyflawni.