Deall sut y gallwn fod yn gyllidwr mwy cynhwysol a chyfartal
Atodiad | Maint |
---|---|
EDI Research Findings and Recommendations – full report | 762.27 KB |
Rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Mawrth 2022 gwnaethom gyfweld ag 86 o sefydliadau ar draws y DU, cynnal arolwg o 82 o bobl eraill ac ymgynghori â 90 o'n staff ein hunain.
Roedd cyfranwyr allanol yn grantîs presennol, ymgeiswyr aflwyddiannus cyn hynny a'r rhai oedd â diddordeb mewn gwneud cais am grant. Roedden ni'n canolbwyntio ar bum grŵp roedden ni'n eu hadnabod fel rhai sy'n cael eu tan-wasanaethu ar hyn o bryd ac yn hanesyddol gan ein cyllid:
- cymunedau ethnig amrywiol
- pobl anabl
- unigolion LHDTQ+
- pobl ifanc
- y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel
Rhoddodd yr ymchwil – a gynhaliwyd gan The Social Investment Consultancy (TSIC) – gipolwg amhrisiadwy ar sut mae sefydliadau'n gweld ac yn diffinio treftadaeth, eu hanghenion cymorth a'u disgwyliadau ohonom fel cyllidwr.
Mae treftadaeth yn perthyn i bawb, ond rydyn ni'n cydnabod bod mwy y mae'n rhaid i ni ei wneud i sicrhau bod gan grwpiau sy'n cael eu tan-wasanaethu fynediad teg i'n cyllid.
Eilish McGuinness, Prif Weithredwr y Gronfa Treftadaeth
Yr hyn a ddysgon ni
Mae sefydliadau'n credu bod treftadaeth yn bwysig ar gyfer hyrwyddo llesiant, tegwch cymdeithasol a chydlyniant cymunedol. Maen nhw'n deall y gall hefyd gefnogi datblygu sgiliau ar gyfer unigolion. Fodd bynnag, hoffen nhw weld diffiniadau o dreftadaeth sy'n cynnwys mwy o ffocws ar lesiant ac ecwiti cymdeithasol.
Datgelodd yr ymchwil hefyd rai camsyniadau ynghylch gofynion ein canlyniad cynhwysiant gorfodol a sut i'w cyrraedd.
Dywedodd cyfranwyr allanol - llawer ohonynt yn gweithio ar raddfa fach - wrthym fod angen mwy o gefnogaeth adeiladu capasiti arnynt. Fe wnaethon nhw hefyd ein herio ar sut y gallwn addasu ein dull buddsoddi er mwyn diwallu'r anghenion hyn yn well. Roedd hyn yn cynnwys amlygu rhwystrau posibl yn y broses ymgeisio a sut y gallem eu lleihau.
Yr hyn yr ydym yn ei wneud
Nodwyd 10 argymhelliad gan TSIC ar gyfer y Gronfa Treftadaeth, y gellir eu grwpio mewn pedair thema allweddol:
- canfyddiadau o dreftadaeth: y ffordd yr ydym yn deall ac yn cyflwyno cysyniad a gwerth treftadaeth
- arfer cynhwysol: sut y gallwn sicrhau bod ein prosesau buddsoddi a'n prosiectau a ariennir yn gynhwysol
- mynd i'r afael ag anghenion: cefnogi grwpiau a than-wasanaethir yn ddigonol fel ymgeiswyr ac yn y sector ehangach
- deall cynhwysiant: sut rydym yn monitro ac yn sicrhau ein bod yn adeiladu ar gynnydd yn barhaus
Dywedodd Eilish McGuinness, Prif Weithredwr y Gronfa Treftadaeth: "Mae treftadaeth yn perthyn i bawb, ond rydym yn cydnabod bod mwy y mae'n rhaid i ni ei wneud i sicrhau bod gan grwpiau dan-wasanaeth fynediad teg i'n cyllid.
"Rydym eisoes wedi dechrau mynd i'r afael â rhai o'r argymhellion hyn fel rhan o gyflawni ein gweithredoedd Adolygiad EDI.
"Bydd yr ymchwil hon hefyd yn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu ein strategaeth ar ei newydd wedd a'n gweledigaeth newydd 10 mlynedd, y byddwn yn ei lansio yn gynnar y flwyddyn nesaf. Mae treftadaeth sydd â chynhwysiant wrth ei galon yn hynod bwerus wrth ddod â phobl at ei gilydd ac rydym am i bawb gael mynediad a bod yn rhan o ddyfodol treftadaeth y DU."
Mwy o wybodaeth
Darllenwch yr adroddiad llawn yn y PDF uchod, a dysgwch fwy am ein hymrwymiad i sicrhau mwy o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn ein sefydliad, ac ar draws y sector treftadaeth.
Mae'r adroddiad yma'n adeiladu ar ganfyddiadau cam cyntaf yr ymchwil, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2021.
Ein hymchwil a gwerthusiad
Rydym yn cynnal ymchwil yn rheolaidd i ddarganfod beth sy'n digwydd yn y sector treftadaeth, ac rydym yn gwerthuso ein gwaith i ddeall y newid rydyn ni'n ei wneud yn well. Darllenwch fwy o'n mewnwelediad.