Treftadaeth gymunedol

Treftadaeth gymunedol

Oedolion a phlant yn creu toriadau papur mewn gweithdy darlunio yn Newham
Gweithdy darlunio Llundain 2012, rhan o Fis Newham Heritage 2022. Llun gan: Andrew Baker
Gall dathlu ein treftadaeth gymunedol helpu ddod â phobl at ei gilydd, teimlo balchder yn y lle maen nhw'n byw a sicrhau fod straeon a thraddodiadau ar gof a chadw.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ers 1994 rydym wedi dyfarnu dros £460m i 24,100 o brosiectau treftadaeth gymunedol a diwylliannol ledled y DU

Beth rydym yn ei gefnogi?

Rydym yn helpu pobl i ymchwilio a rhannu hanes cymuned neu le.

Rydym hefyd yn ariannu prosiectau sy'n cyfuno gwahanol fathau o dreftadaeth mewn lleoliad penodol.

Syniadau am brosiect

Gall ein harian helpu pobl i:

  • ymchwilio i effaith digwyddiad hanesyddol ar eu tref. Yna gallan nhw rannu eu canfyddiadau drwy arddangosiadau, sgyrsiau ac ar-lein
  • ymchwilio i'r enwau ar gofeb ryfel
  • gasglu dogfennau a ffotograffau sy'n gysylltiedig â'r gymuned LGBT+, creu archif ar-lein ac arddangosfa
  • sefydlu llwybr sain o amgylch ystod o adeiladau, parciau a henebion mewn tref
  • galluogi grŵp ieuenctid i ymchwilio i'w hanes lleol a chreu ffilm wedi'i hanimeiddio am yr hyn y maen nhw wedi’i ddysgu

Am ragor o ysbrydoliaeth, gweler y straeon isod neu porwch drwy brosiectau rydym wedi'u hariannu.

Sut i gael arian

Darganfyddwch os yw eich prosiect yn gymwys i gael arian.

Yr Athro Uzo Iwobi yn sefyll y tu allan

Straeon

Dathlu arwr treftadaeth, Uzo Iwobi OBE

Mae Uzo Iwobi,o Abertawe, wedi cyfrannu'n eithriadol at dreftadaeth yn ei 30 mlynedd yn byw yng Nghymru. Ymhlith ei chyflawniadau niferus, sefydlodd Uzo ddwy elusen: Cyngor Hil Cymru a'r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd. Hi yw'r Cynghorydd Arbenigwyr dros Gydraddoldeb i Lywodraeth Cymru, ac mae hi'n
A group of people in a community space

Projects

Dathlu hanes LHDT+ yn Llanelli

Mae Cymorth LGBTQ+ Llanelli wedi cynnal digwyddiadau a gweithgareddau i gydnabod a rhannu treftadaeth gyfoethog cymuned LHDT+ y dref.

A man standing on one leg on a bridge

Projects

Hanes ac atgofion Llanfyllin

Mae prosiect 'Llanfyllin ni – ein Llanfyllin' yng nganolbarth Cymru yn cofnodi'r cyfraniad a wnaed gan bobl sy'n byw gydag anableddau dysgu i'w cymuned leol.