Cairngorms 2030: pobl a natur yn ffynnu gyda'i gilydd

Three people look down over a valley with mountains in the distance
Braemar view. Credit: Cameron Cosgrove

Heritage Horizon Awards

Dyddiad a ddyfarnwyd
Lleoliad
Cairngorms National Park, Scotland
Ceisydd
Cairngorms National Park Authority
Rhoddir y wobr
£12486077
Rydym wedi dyfarnu bron i £12.5 miliwn i brosiect sy'n newid bywydau er mwyn diogelu Parc Cenedlaethol mwyaf y DU, gan ddod â chymunedau at ei gilydd i helpu natur a gwella llesiant.

Un o'n prif Grantiau Treftadaeth Gorwelion, mae'r prosiect hwn yn cynnwys dros 45 o bartneriaid yn amrywio o'r GIG i grwpiau rheoli Ucheldiroedd a cheirw. Byddant yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, gan ddarparu economi sy'n gweithio i bawb.

Mae'r Cairngorms yn yr Alban yn gartref i 25% o'r holl rywogaethau sydd dan fygythiad a phrin, megis capercaillie, cathod gwyllt, gweilch ac eryr aur.

Bydd y prosiect hwn yn gwella'r amgylchedd ac yn cyfrannu at carbon net sero drwy:

  • cyllid gwyrdd
  • ehangu coetiroedd
  • adfer mawndiroedd
  • rheoli dalgylchoedd afonydd
  • ffermio sy'n ystyriol o natur
  • trafnidiaeth gynaliadwy
People on mobility scooters in woodland
Gwibdaith sgwter symudedd. Credyd: CNPA

Bydd ffocws ar lesiant i gymunedau lleol ac ymwelwyr, gan gynnwys creu canolfan ddementia sy'n seiliedig ar natur. Bydd mwy o bobl yn gallu cael mynediad i'r dirwedd a chymryd rhan mewn rhaglenni iechyd awyr agored a thyfu cymunedol. Bydd ffyrdd o fyw a arweinir gan y gymuned a chynulliadau dinasyddion yn grymuso pobl i lunio dyfodol gwyrddach.

Mae'r Cairngorms yn drysor cenedlaethol ac ni fydd y gwaith hwn yn drawsnewidiol i'n hamgylchedd yn unig, ond i gymunedau lleol a'r cannoedd o filoedd o bobl sy'n ymweld â'r parc cenedlaethol bob blwyddyn.

Màiri McAllan, Gweinidog Llywodraeth yr Alban dros yr Amgylchedd, Bioamrywiaeth a Diwygio Tir

Dywedodd Xander McDade, Cynullydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Cairngorms: 
"Mae ein cynlluniau'n uchelgeisiol ond mae'r sefyllfa sy'n wynebu ein gwlad a'n planed yn mynnu ein bod yn gwneud pethau'n wahanol. Gyda chymorth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ynghyd â'n partneriaid ariannu niferus, gallwn edrych ymlaen yn awr at wireddu'r weledigaeth drawsnewidiol hon."

Dywedodd Màiri McAllan, Gweinidog Llywodraeth yr Alban dros yr Amgylchedd, Bioamrywiaeth a Diwygio Tir: "Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o weithredu yn y gymuned i fynd i'r afael ag argyfyngau deuol newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth ac i wella llesiant.

"Mae'r Cairngorms yn drysor cenedlaethol ac ni fydd y gwaith hwn yn drawsnewidiol i'n hamgylchedd yn unig, ond i gymunedau lleol a'r cannoedd o filoedd o bobl sy'n ymweld â'r parc cenedlaethol bob blwyddyn."