Treftadaeth gymunedol
Gall dathlu ein treftadaeth gymunedol helpu ddod â phobl at ei gilydd, teimlo balchder yn y lle maen nhw'n byw a sicrhau fod straeon a thraddodiadau ar gof a chadw.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ers 1994 rydym wedi dyfarnu dros £460m i 24,100 o brosiectau treftadaeth gymunedol a diwylliannol ledled y DU
Beth rydym yn ei gefnogi?
Rydym yn helpu pobl i ymchwilio a rhannu hanes cymuned neu le.
Rydym hefyd yn ariannu prosiectau sy'n cyfuno gwahanol fathau o dreftadaeth mewn lleoliad penodol.
Syniadau am brosiect
Gall ein harian helpu pobl i:
- ymchwilio i effaith digwyddiad hanesyddol ar eu tref. Yna gallan nhw rannu eu canfyddiadau drwy arddangosiadau, sgyrsiau ac ar-lein
- ymchwilio i'r enwau ar gofeb ryfel
- gasglu dogfennau a ffotograffau sy'n gysylltiedig â'r gymuned LGBT+, creu archif ar-lein ac arddangosfa
- sefydlu llwybr sain o amgylch ystod o adeiladau, parciau a henebion mewn tref
- galluogi grŵp ieuenctid i ymchwilio i'w hanes lleol a chreu ffilm wedi'i hanimeiddio am yr hyn y maen nhw wedi’i ddysgu
Am ragor o ysbrydoliaeth, gweler y straeon isod neu porwch drwy brosiectau rydym wedi'u hariannu.
Sut i gael arian
Newyddion
Lansio gwerth £100m o Grantiau Treftadaeth Gorwelion
Bydd Grantiau Treftadaeth Gorwelion yn buddsoddi £100miliwn yn ystod y tair blynedd nesaf mewn prosiectau uchelgeisiol, arloesol a thrawsnewidiol a fydd yn chwyldroi treftadaeth y DU.
Newyddion
Cofio oes aur pop a roc Arberth
Bellach, mae grant gan y Loteri Genedlaethol yn golygu y bydd y neuadd yn gartref i arddangosfa barhaol i'w gefndir roc gan ddefnyddio eitemau cofiadwy a straeon o’r cyfnod a gasglwyd gan grŵp o wirfoddolwyr. O glwb cymdeithasol pêl-droed i frenhiniaeth bandiau roc Fe wnaeth yr hyn a ddechreuodd fel
Newyddion
Arian y Loteri Genedlaethol yn helpu cymuned i ddarganfod ei bryngaer gudd
Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi bron i £830,000 i grŵp cymunedol yng Nghaerdydd i ddysgu mwy am y dreftadaeth Ganoloesol a’r Oes Haearn ar stepen ei drws, a’i helpu i’w ddiogelu ar gyfer y dyfodol.