Dathlu arwr treftadaeth, Uzo Iwobi OBE
Mae Uzo Iwobi,o Abertawe, wedi cyfrannu'n eithriadol at dreftadaeth yn ei 30 mlynedd yn byw yng Nghymru. Ymhlith ei chyflawniadau niferus, sefydlodd Uzo ddwy elusen: Cyngor Hil Cymru a'r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd. Hi yw'r Cynghorydd Arbenigwyr dros Gydraddoldeb i Lywodraeth Cymru, ac mae hi'n athro ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Fe'i dewiswyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn gynharach eleni fel un o wyth 'arwr treftadaeth' yr oedd eu ffotograffau wedi'u taflunio ar Gôr y Cewri i gydnabod eu gwaith caled anhygoel a'u hymdrechion i gefnogi treftadaeth yn ystod y pandemig.
Yn y fideo yma, mae Uzo yn sôn am ei gwaith yn y sector treftadaeth a pham ei bod yn credu ei bod yn bwysig ein bod yn diogelu ac yn dathlu ein treftadaeth. Mae hi hefyd yn rhannu ei thaith o Nigeria i Gymru a'i hymateb i gael ei dewis fel arwr treftadaeth.
I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched, mae Uzo yn trafod pam ei bod yn teimlo ei bod yn bwysig bod menywod yn rhan o'r sector treftadaeth, ac yn rhannu detholiad o fenywod sy'n gweithio yn y sector sydd fwyaf ysbrydoledig iddi.