Cynllun cyflwyno Treftadaeth 2033: 2023–2026

Cynllun cyflwyno Treftadaeth 2033: 2023–2026

See all updates
Archwilio faint y byddwn yn ei fuddsoddi a sut y byddwn yn cyflawni nodau ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033, dros y tair blynedd gyntaf.

Diweddariad diwethaf: Hydref 2024

Grŵp o fenywod mewn gwisgoedd o'r cyfnod yn dawnsio tu allan i Gastell Porchester
Castell Porchester, Hampshire © Sadé Elufowoju/National Youth Theatre.

Cyd-destun

Diben y cynllun cyflwyno

Mae strategaeth 10 mlynedd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Treftadaeth 2033, yn disgrifio ein huchelgais i wneud gwahaniaeth gwirioneddol dros bobl, lleoedd a chymunedau wrth i ni fuddsoddi swm disgwyliedig o £3.6 biliwn sydd i'w godi ar gyfer achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol dros y deng mlynedd nesaf.

Mae ein strategaeth hirdymor wedi'i hategu gan gynlluniau cyflwyno tair blynedd, sy'n disgrifio sut y bydd nodau'r strategaeth yn cael eu cyflwyno. Byddant yn galluogi ni i fabwysiadu ymagwedd hyblyg, gan addasu i anghenion y sector treftadaeth ac ymateb i ddigwyddiadau neu gyfleoedd allanol dros y 10 mlynedd.

Mae ein cynllun cyflwyno ar gyfer 2023-2026 yn nodi'r cerrig milltir allweddol a sut y byddwn yn cyflwyno'r buddsoddiad Loteri Genedlaethol am y tair blynedd gyntaf, yn ogystal â sut rydym wedi pontio i'n strategaeth newydd yn 2023–2024. Caiff y cynllun hwn ei ddiweddaru'n flynyddol fel rhan o'n prosesau cynllunio busnes.

Ein gweledigaeth 

Ein gweledigaeth yw gwerthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.

Ein hegwyddorion buddsoddi 

Mae ein pedair egwyddor fuddsoddi yn cyfeirio ein holl benderfyniadau: 

  • Achub treftadaeth: gwarchod a gwerthfawrogi treftadaeth, nawr ac yn y dyfodol.
  • Diogelu'r amgylchedd: cefnogi adferiad byd natur a chynaladwyedd amgylcheddol.
  • Cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad: cefnogi gwell cynhwysiad, amrywiaeth, mynediad a chyfranogiad mewn treftadaeth.
  • Cynaladwyedd sefydliadol: cryfhau treftadaeth er mwyn iddi addasu a bod yn gydnerth yn ariannol, gan gyfrannu at gymunedau ac economïau.

Rydym yn gofyn i brosiectau a ariannwn gymryd y pedair egwyddor fuddsoddi i ystyriaeth yn eu ceisiadau. Ceir mwy o arweiniad i ymgeiswyr ar ein gwefan.

Ein gwerthoedd

Mae ein gwerthoedd a'n hymddygiadau yn rhan annatod o'r ffordd yr ydym yn gweithio. Maent wedi'u hymwreiddio ar draws ein cynllunio strategol a busnes a'n dulliau arwain a rheoli. Ein pedwar gwerth yw:   

  • Cynhwysol o bob agwedd ar dreftadaeth, pobl a chymunedau. 
  • Uchelgeisiol ar gyfer ein pobl, ein cymunedau a'n treftadaeth. 
  • Cydweithredol trwy weithio a dysgu gyda'n gilydd. 
  • Ymddiriedir ynom am ein cyfanrwydd, ein harbenigedd a'n barn.

Rôl Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Fel ariannwr mwyaf treftadaeth y DU, mae gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (Cronfa Treftadaeth) y fraint o fuddsoddi arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol mewn treftadaeth ar draws y DU, mewn cydweithrediad ag ystod eang o gyrff statudol, yn ogystal â dosbarthwyr eraill y Loteri Genedlaethol. Rydym yn dyfarnu 20% o'r incwm achosion da a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ac yn cyflwyno rhaglenni grant ar ran llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig sy'n cydweddu â'n gweledigaeth a'n hegwyddorion buddsoddi.

Rydym yn gorff cyhoeddus anadrannol sy'n atebol i Senedd y DU drwy'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS). Mae ein penderfyniadau am geisiadau a pholisïau unigol yn gwbl annibynnol o lywodraeth y DU. Mae mwyafrif y penderfyniadau ariannu'n cael eu gwneud gan ein chwe phwyllgor ardal a gwlad gan ddefnyddio gwybodaeth ac arbenigedd lleol ac yn cael eu cefnogi gan ein timau ledled y DU. Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol yw ein corff cyfreithiol ar gyfer gweinyddu a goruchwylio'r holl arian a freinir ynom. Fe'i sefydlwyd gan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 i weinyddu Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol.

Rôl Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol

Sefydlwyd Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (CGDG) ym 1980 i achub rhannau mwyaf rhagorol ein treftadaeth genedlaethol, er cof am y rhai sydd wedi rhoi eu bywydau dros y DU.

Fel cronfa cyfle olaf, mae CGDG yn rhoi cymorth ariannol tuag at gaffael, cadw a chynnal rhai o wrthrychau a thirweddau gorau'r DU. Mae'r rhain yn amrywio o dai hanesyddol a gweithiau celf, i drenau, cychod a thirweddau hynafol. Mae CGDG wedi helpu i greu un o'r casgliadau gorau yn y byd sy'n perthyn i bobl y Deyrnas Unedig, am byth.

Mae'r cynllun cyflwyno hwn yn manylu ar sut y byddwn yn cyflwyno buddsoddiad y Loteri Genedlaethol.

Ein cynllun ar gyfer 2023-2026

Cyflwyno Treftadaeth 2033

Ein blaenoriaeth yn 2023–2024 oedd gweithredu ein strategaeth newydd a phontio o Fframwaith Ariannu Strategol 2019–2024 i'r nodau a'r pedair egwyddor fuddsoddi newydd a ddisgrifir yn Treftadaeth 2033.

Yn y flwyddyn gyntaf hon gwnaethom sefydlu a symleiddio ein prosesau ariannu wrth i ni bontio i asesu ceisiadau ariannu o dan y pedair egwyddor fuddsoddi, yn ogystal â mapio datblygiad ein mentrau a'n partneriaethau strategol. Roedd y rhaglen weithredu hon yn cynnwys diweddaru ein harweiniad, ein ffurflenni cais  a'n prosesau, a gwaith datblygu i adolygu'r ffordd yr ydym yn monitro ac yn gwerthuso effaith ein grantiau. Yn yr ail flwyddyn byddwn yn parhau â'r gwaith hwn ac yn adolygu effaith y pontio ar ymgeiswyr grant a staff fel rhan o'n rhaglen gwelliant parhaus.

Bydd ein dull ariannu yn parhau i fod yn agored, yn ymatebol ac wedi’i ddatganoli, gan ddefnyddio gwybodaeth ac arbenigedd lleol i gefnogi prosiectau treftadaeth sydd wrth wraidd gweledigaethau dros newid a arweinir yn lleol. Byddwn ni'n:

  • cyflwyno ymagwedd sy'n seiliedig ar le drwy ein buddsoddiadau, mentrau strategol a phartneriaethau
  • sefydlu partneriaethau newydd a chydweithio hirdymor i ddiwallu'r anghenion a nodwyd yn y sector
  • defnyddio ymchwil, dadansoddi a mewnwelediad i gefnogi gweledigaeth hirdymor a rennir ar gyfer treftadaeth ac i wella ein darpariaeth
  • hyrwyddo arloesedd i ddod o hyd i atebion newydd i heriau yn y byd treftadaeth
  • tyfu arweinyddiaeth a hyder digidol ar draws treftadaeth y DU
  • cydweithio â phartneriaid mewn llywodraethau, cyrff hyd braich, dosbarthwyr eraill y Loteri Genedlaethol ac ymddiriedolaethau a sefydliadau annibynnol i lunio mentrau newydd i ddiwallu anghenion a nodwyd ar gyfer treftadaeth
  • ariannwr cynhwysol, hygyrch a theg

Cynlluniau a chyllidebau buddsoddi

Cynlluniau a chyllidebau buddsoddi

Mae ein cynlluniau buddsoddi a chyflwyno tair blynedd wedi'u disgrifio isod. Mae'r cyllidebau'n ddangosol, yn seiliedig ar ragolygon incwm y Loteri Genedlaethol a ddarperir gan y Comisiwn Hapchwarae. Gall rhagolygon newid a byddant yn cael eu diweddaru fel rhan o broses adolygu flynyddol y cynllun cyflwyno. Bydd cynlluniau cyllideb yn cael eu hadolygu drwy gydol y tair blynedd a'u diweddaru fel y bo angen i fodloni blaenoriaethau strategol.

Fel y disgrifir isod, rydym hefyd yn dosbarthu cyllid nad yw'n dod o'r Loteri, gan gynnwys gan lywodraethau, i gefnogi treftadaeth y DU.

Rhagamcaniad o gyfanswm y buddsoddiad gan y Loteri Genedlaethol

Rhaglen

Blwyddyn

2023–2024 

Blwyddyn

2024–2025 

Blwyddyn 3  

2025–2026 

Cyfanswm buddsoddiad y Loteri Genedlaethol£415miliwn £417miliwn £438miliwn 
Buddsoddiad rhaglenni agored£408m£372m£371m
Mentrau strategol  y Loteri Genedlaethol£7m£45m£67m

Buddsoddiad rhaglenni ariannu eraill

  • £52.95miliwn

Gweithgareddau rhaglenni'r Loteri Genedlaethol

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (Grantiau'r Loteri Genedlaethol ar gyfer Treftadaeth yn flaenorol)

Ein rhaglen grantiau ar gyfer pob math o brosiect treftadaeth yn y DU.

Blwyddyn 1 (2023-2024):
  • Adolygu Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn unol â Threftadaeth 2033.
  • Newid trothwyon grant i £10,000–£10m ac ymgymryd â gwaith cwmpasu i barhau i ddarparu grantiau o dan £10,000 drwy sefydliadau a mentrau eraill.*
  • Adolygu a symleiddio ein prosesau ymgeisio, asesu a monitro.
  • Rheoli a chefnogi cwsmeriaid trwy bontio ceisiadau o Fframwaith Ariannu Strategol 2019–2024 (FfAS) i Treftadaeth 2033:
    • ceisiadau olaf am grantiau rhwng £10,000 a £10miliwn o dan y FfAS: Tachwedd 2023
    • ceisiadau olaf am grantiau hyd at £10,000: Rhagfyr 2023
    • ceisiadau cyntaf am grantiau rhwng £10,000 a £10miliwn o dan Treftadaeth 2033, gydag arweiniad a ffurflenni cais newydd: Ionawr 2024
  • Gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys DCMS ac asiantaethau statudol, i ddatblygu ein hymagwedd at sgiliau a phlant a phobl ifanc.
Blwyddyn 2 (2024-2025):
  • Cwblhau'r broses bontio i ddarparu Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol o dan bedair egwyddor fuddsoddi Treftadaeth 2033.
  • Gwneud y dyfarniadau cyntaf hyd at £250,000 o dan Treftadaeth 2033.
  • Gwneud y dyfarniadau cyntaf dros £250,000 o dan Treftadaeth 2033.
  • Parhau i gwmpasu a chyflwyno grantiau dan £10,000 drwy sefydliadau a mentrau eraill lle mae galw strategol a gwerthuso hynny.
  • Parhau i symleiddio ein prosesau ymgeisio, asesu ac ôl-ddyfarnu.
  • Penderfynu ar ddulliau o gefnogi prosiectau i ennyn diddordeb plant a phobl ifanc mewn treftadaeth a darparu llwybrau i ddatblygu sgiliau trwy Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Blwyddyn 3 (2025-2026):
  • Parhau i werthuso ein prosesau newydd a mesur effaith gychwynnol Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol o dan Treftadaeth 2033.
  • Cyflwyno grantiau o dan £10,000 drwy sefydliadau a mentrau eraill a gwerthuso hynny.

*Gellir dyfarnu grantiau dros £10m mewn amgylchiadau eithriadol er mwyn cyflawni uchelgeisiau Treftadaeth 2033.

Menter strategol: Lleoedd Treftadaeth

Helpu i drawsnewid treftadaeth mewn 20 o wahanol leoedd, rhoi treftadaeth wrth wraidd ymagweddau lleol i roi hwb i falchder mewn lle, adfywio economïau lleol a gwella cysylltiad pobl â'r lleoedd y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt ac yn ymweld â nhw.

Blwyddyn 1 (2023-2024):
  • Naw lleoliad wedi'u nodi ar gyfer buddsoddi strategol gan ddefnyddio data am lefelau treftadaeth, cymdeithas a buddsoddi, ochr yn ochr â gwybodaeth leol.
  • Deall anghenion lleol y lleoliadau a ddewiswyd, cefnogi capasiti i flaengynllunio ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd.
  • Grantiau cynllunio a datblygu prosiectau.
Blwyddyn 2 (2024-2025):
  • Grantiau ar gael ar gyfer cyflwyno prosiectau.
  • Nodi'r rownd nesaf o leoedd.
  • Sefydlu prosesau ar gyfer gwerthuso.
Blwyddyn 3 (2025-2026):
  • Cyhoeddi'r rownd nesaf o leoedd.
  • Bydd y fenter yn parhau dros oes y strategaeth 10 mlynedd.
Menter strategol: Trefi a Dinasoedd Natur

Partneriaeth i gyflwyno adferiad byd natur trefol trwy barciau a mannau gwyrdd hanesyddol ffyniannus.

Blwyddyn 1 (2023-2024):
  • Datblygu partneriaethau i ddylunio a chyflwyno menter.
  • Deall anghenion a dylunio lleol, ac adeiladu gallu.
Blwyddyn 2 (2024-2025):
  • Cynllun menter yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Natural England ac asiantaethau natur statudol yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
  • Lansio'r fenter bartneriaeth a rhaglen grantiau.
Blwyddyn 3 (2025-2026):
  • Grantiau ar gael ar gyfer cyflwyno prosiectau.
  • Monitro a gwerthuso.
  • Arian grant i barhau y tu hwnt i 2025–2026.
Menter strategol: Cysylltiadau Tirwedd

Adferiad byd natur ar raddfa tirweddau ar draws tirweddau cenedlaethol y DU, gan ddarparu gwell cysylltiadau i bobl ac i natur.

Blwyddyn 1 (2023-2024):
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y DU i ddatblygu'r fenter.
  • Buddsoddiad cychwynnol i gefnogi cynllunio prosiectau.
Blwyddyn 2 (2024-2025):
  • Lansio ein cronfa £150m i gefnogi tua 20 o brosiectau i wella a diogelu tirweddau o safon fyd-eang y DU.
Blwyddyn 3 (2025-2026):
  • Grantiau ar gael ar gyfer datblygu a chyflwyno prosiectau.
  • Sefydlu cymuned ymarfer.
  • Monitro a gwerthuso.
  • Bydd y fenter yn parhau dros oes ein strategaeth 10 mlynedd. 
Treftadaeth mewn Angen

Nodi bylchau mewn cefnogaeth i'r sector treftadaeth, yn enwedig lle mae risg i dreftadaeth a bod angen ei gwarchod.

Blwyddyn 1 (2023-2024):
  • Ymchwil a datblygu a gweithio gyda phartneriaid strategol ar draws y DU i nodi'r ffocws cychwynnol ar gyfer cymorth, gan gynnwys ar gyfer mannau addoli.
Blwyddyn 2 (2024-2025):
  • Defnyddio data a mewnwelediad i nodi ein hymagwedd gyffredinol at flaenoriaethu treftadaeth mewn angen.
  • Mannau addoli: buddsoddiad strategol mewn prosiectau i adeiladu gallu a llenwi bylchau yn y cymorth presennol ar gyfer treftadaeth sydd mewn perygl a thargedu hyrwyddo ein cymorth at anghenion atgyweirio a chadwraeth.
  • Treftadaeth forwrol: defnyddio ein mewnwelediadau ymchwil i helpu diffinio ein blaenoriaethau buddsoddi yn y maes hwn ar gyfer arian y Loteri Genedlaethol.
Blwyddyn 3 (2025-2026):
  • Fframwaith ar waith a mentrau ar gyfer y dyfodol wedi'u nodi.
  • Buddsoddi mewn prosiectau i lenwi bylchau yn y gefnogaeth i fannau addoli a threftadaeth forwrol sydd mewn perygl y mae angen eu gwarchod.
Cyfleoedd

Ymateb yn gyflym, a gweithredu pan fydd angen, i ymdrin â sefyllfaoedd, cyfleoedd a digwyddiadau unigryw.

Blwyddyn 1 (2023-2024):
  • Eurovision Lerpwl 2023.
  • Dinas Diwylliant.
  • Rhaglen Newydd i Natur (ehangu).
  • Paratoi pen-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 30 oed.
Blwyddyn 2 (2024-2025):
  • Cyflwyno Dinas Diwylliant
  • Dathlu pen-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 30 oed.
  • Archives Revealed.
  • Ymateb i gyfleoedd pellach.
  • Gwerthuso Newydd i Natur a'r camau nesaf
Blwyddyn 3 (2025-2026):
  • Cyflwyno Dinas Diwylliant yn dod i ben.
  • Ymateb i gyfleoedd pellach.
Rhaglenni a gwaith ar y cyd sydd eisoes yn digwydd

Mentrau parhaussy'n cefnogi dulliau newydd o weithio, buddsoddiad arloesol a chydnerthedd.

Blwyddyn 1 (2023-2024):
  • Cronfa Arloesi Treftadaeth.
  • Cronfa Effaith y Celfyddydau a Diwylliant.
  • Cronfa Effaith Treftadaeth.
  • Cyfleuster ar gyfer Investment Ready Nature yn Yr Alban.
  • Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol: Rhaglen Cherish.
  • Cronfa Treftadaeth Bensaernïol: Menter yr Ymddiriedolaeth Datblygu Treftadaeth.
  • Cronfa Codi'r Gwastad (cymorth sector).
  • Cronfa Ystadau a Datblygu Amgueddfeydd (MEND).
Blwyddyn 2 (2024-2025):
  • Cronfa Arloesi Treftadaeth.
  • Cronfa Effaith Celfyddydau a Diwylliant a'n cydweithrediad a'n cefnogaeth ar gyfer sefydlu Figurative, gan ymgorffori Cyllid y Celfyddydau a Diwylliant, Nesta mewn sefydliad annibynnol, gan ysgogi effaith, arloesedd a buddsoddiad mewn diwylliant.
  • Cronfa Effaith Treftadaeth.
  • Cyfleuster ar gyfer Investment Ready Nature yn Yr Alban.
  • Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol: Rhaglen Cherish.
  • Cronfa Treftadaeth Bensaernïol: Menter yr Ymddiriedolaeth Datblygu Treftadaeth.
  • Cronfa Ystadau a Datblygu Amgueddfeydd (MEND).
Blwyddyn 3 (2025-2026):
  • Rhaglenni aml-flwyddyn cynlluniedig yn parhau a chyfleoedd newydd wedi'u nodi.

Gweithgareddau rhaglenni ariannu eraill

Rydym hefyd yn dosbarthu arian nad yw'n dod o'r Loteri, gan gynnwys gan lywodraethau, i gefnogi treftadaeth ar draws y DU.

Mae'r portffolio presennol o raglenni cytunedig wedi'i nodi isod.

Rhaglenni a ddarperir mewn partneriaeth ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) – £25m:
  • Species Survival Fund.
  • Green Recovery Challenge Fund.*
  • Trees Calls to Action Fund.*
Rhaglenni a ddarperir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru - £27.44m:
  • Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.**
  • Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Chwalu Rhwystrau.
  • Y Grant Buddsoddiad Coetiroedd.** 
  • Y Grant Buddsoddiad Coetiroedd, Coetiroedd Bach.
  • Rhwydweithiau Natur.**
Rhaglen wedi’i chyflwyno mewn partneriaeth â’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) – £550,000, wedi'i ddyfarnu 2022–2023:
  • Know Your Neighbourhood (trwy Raglen Ddiwylliannol High Street Heritage Action Zone Historic England).*

Mae'r holl raglenni ariannu'n amodol ar gydsyniad tîm Gweithredol y Gronfa Treftadaeth i'r achos busnes.

*Mae rhaglenni wedi dyfarnu'r grantiau sydd ar gael ac mae'r prosiectau'n cael eu cyflwyno.

**Rhaglenni a ariennir yn rhannol gan y Loteri Genedlaethol.

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglenni ariannu unigol ar gael ar ein gwefan.

Incwm a chostau

Rydym yn derbyn ac yn dyfarnu 20% o incwm achosion da'r Loteri Genedlaethol ac yn gosod ein cyllidebau buddsoddi bob blwyddyn gan ddibynnu ar y swm a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar draws y DU. Ar unrhyw adeg, mae gennym flaenoriaeth gyflwyno weithredol o tua 2,500 o brosiectau byw, sydd wedi'i nodi yn y cronfeydd arian parod wrth gefn a'r rhwymedigaethau yn ein cyfrifon ariannol.

Yn ychwanegol at incwm gan y Loteri Genedlaethol, rydym yn derbyn incwm blynyddol gan lywodraeth y DU ar gyfer Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol o £5.3m, sef £5.2m ar gyfer grantiau a £0.1m ar gyfer costau gweinyddu. Rydym hefyd yn derbyn incwm gan lywodraethau a chyrff eraill fel DCMS, Defra, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Llywodraeth Cymru i ddosbarthu grantiau.

Am dair blynedd gyntaf Treftadaeth 2033, ein nod yw dyfarnu dros £1bn (gweler y tabl gyferbyn) gyda phortffolio sy'n cynnwys Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ogystal â mentrau a phartneriaethau strategol.

Buddsoddiad rhagamcanol   2023–2024* 2024–2025 2025–2026 Cyfanswm
Incwm gan y Loteri  £355m£361m£361m£1,077m 
Costau gweithredu -£28m-£28m-£28m-£84m
Cydbwyso cymarebau buddsoddi**£88m£84m£105m£277m
Y cyfanswm sydd ar gael o ran buddsoddiad y Loteri £415m£417m£438m£1,270m 

*2023–2024 yn dangos ffigurau gwirioneddol.

**Mae newid yng nghyfanswm y buddsoddiad i gymhareb balans Cronfa Ddosbarthu’r Loteri Genedlaethol wedi caniatáu ar gyfer ymrwymiadau ychwanegol dros y cyfnod cynllunio hwn.

Mae cyfanswm costau gweithredu'r Loteri Genedlaethol wedi'u pennu gan DCMS ac ni ddylent fod yn fwy na 7.75% o incwm blynyddol gan y Loteri Genedlaethol dros gyfnod treigl o dair blynedd.

Dyma gynllun cyflwyno byw a fydd yn cael ei reoli'n hyblyg ac yn addasu dros amser i ymateb i ddigwyddiadau a chyfleoedd allanol ac wrth i ni ddatblygu ein syniadau gyda'n rhanddeiliaid a'n partneriaid.

Blaenoriaethau cyflwyno ar gyfer 2024-2025

1: Cyflwyno arian grant

Denu a buddsoddi mewn prosiectau treftadaeth sy’n adlewyrchu ein pedair egwyddor fuddsoddi a’r uchelgeisiau a nodir yn Treftadaeth 2033, gan weithio gyda phartneriaid i fwyafu effaith cymorth ac ariannu ar gyfer treftadaeth y DU. Rheoli tua 2,500 o brosiectau gweithredol y Loteri Genedlaethol a rhaglenni cymorth grant ehangach yn llwyddiannus.

2: Mentrau strategol

Datblygu a chyflwyno’r mentrau strategol a sefydlwyd yn Treftadaeth 2033, gan ymateb i gyfleoedd a digwyddiadau sy’n helpu cyflwyno’r uchelgeisiau a nodir yn ein strategaeth.

3: Cydweithio, partneriaethau ac ymgysylltu

Eirioli dros Treftadaeth 2033 a’n rôl nodedig wrth ysgogi effaith dros dreftadaeth, gan adeiladu perthnasoedd a chydweithio â rhanddeiliaid ar draws y DU sy’n helpu cyflwyno nodau strategol Treftadaeth 2033 a lansio a chyfathrebu effaith partneriaethau newydd yn llwyddiannus.

4: Effaith a gwella

Parhau i wella ein darpariaeth sefydliadol, gan ymwreiddio’r sgiliau, y galluoedd, yr adnoddau, y systemau a'r diwylliant cywir i gyflwyno a mesur effaith Treftadaeth 2033 yn llwyddiannus.

Ochr yn ochr â chyflwyniad craidd Treftadaeth 2033 a chefnogaeth i'r sector treftadaeth, y sail i'n gwaith a'n cynlluniau adrannol yw'r ymrwymiad i –

Ymwreiddio cynaladwyedd amgylcheddol yn ein portffolio buddsoddi'r Loteri Genedlaethol a'n gweithrediadau mewnol:

  • gweithio ar y cyd i ddysgu o arfer gorau a'i rannu ar draws adferiad natur, cyfiawnder hinsawdd ac addasu i'r hinsawdd
  • lleihau ein heffaith amgylcheddol a gweithio tuag at ddau uchelgais carbon sero net:
    • cyflwyno cynllun datgarboneiddio i gyrraedd ein nod tymor canolig o garbon sero net cyn 2030 ar gyfer ein gweithrediadau, datgarboneiddio ein swyddfeydd, teithio, gwastraff a phwrcasiadau
    • cyrraedd sero net erbyn 20250 ar gyfer ein buddsoddiadau a'n grantiau (targedau'n seiliedig ar wyddoniaeth yn unol â Chytundeb Paris 2015)

Rydym yn adrodd ar ein heffaith amgylcheddol fel rhan o'n Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad (EDI) yn ein buddsoddiad a'n gweithrediadau:

  • gweithrediad parhaus camau ein Hadolygiad EDI 2021, gan ymdrin â gwelliannau ar draws ein gweithlu, llywodraethu a diwylliant sefydliadol
  • datblygu partneriaethau a gweithio ar y cyd i sicrhau mynediad teg i'n hariannu ar gyfer prosiectau a arweinir gan bobl nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol gan dreftadaeth

Byddwn yn defnyddio ein hadnoddau'n effeithiol ac yn effeithlon i ddosbarthu arian gan y Loteri Genedlaethol a'r llywodraeth ar gyfer treftadaeth.

Llywodraethu a gwneud penderfyniadau

Y Bwrdd, pwyllgorau a gwneud penderfyniadau

Rydym wedi'n llywodraethu gan Fwrdd Ymddiriedolwyr sy'n arwain ar ddatblygu strategaeth, gyda'r gwaith rheoli o ddydd i ddydd wedi'i ddirprwyo i'r Prif Weithredwr a'r tîm Gweithredol. Mae'r Bwrdd yn gwneud penderfyniadau ariannu terfynol ar geisiadau grant dros £5m ac yn cadw cyllideb fuddsoddi ganolog ar gyfer mentrau strategol a rhaglenni DU gyfan.

Mae gennym chwe phwyllgor dyfarnu grantiau yng Nghymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, ac mewn tair ardal yn Lloegr – Gogledd Lloegr, Canolbarth a Dwyrain Lloegr , a Llundain a De Lloegr - sy'n gwneud penderfyniadau ar geisiadau am grantiau rhwng £250,000 a £5m. Rydym yn parhau i ddirprwyo'r rhan fwyaf o'n penderfyniadau i'r chwe phwyllgor ardal a gwlad hyn ac i weithwyr gweithredol ar draws y DU (ar gyfer penderfyniadau o dan £250,000).

Rydym yn cadw ‘swm gwlad wrth gefn’ yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ar gyfer grantiau na ellir darparu ar eu cyfer mewn cyllidebau per capita dirprwyedig.

Ar gyfer grantiau dros £5m, mae ein Bwrdd yn goruchwylio ac yn gwneud penderfyniadau, gan alw ar arbenigedd ac argymhellion lleol y pwyllgorau ardal a gwlad.

Wedi'u dyrannu ar sail per capita, mae pwyllgorau dyfarnu grantiau'n derbyn y canrannau canlynol o gyllidebau dirprwyedig:

Ardal/cenedlCyllideb
Gogledd Iwerddon2.9%
Cymru4.8%
Yr Alban8.4%
Lloegr, Gogledd23.7%
Lloegr, Canolbarth a Dwyrain25.2%
Lloegr, Llundain a'r De35%

Mae'r prosesau ar gyfer ceisiadau grant, gwneud penderfyniadau a monitro grantiau wedi'u nodi ar ein gwefan.

Rheoli risgiau

Mae ein cofrestr risgiau'n cael ei hadolygu'n rheolaidd gan y tîm Gweithredol, y Bwrdd a'r Pwyllgor Archwilio a Risg. Mae ein hawydd am risg yn cael ei adolygu a'i gymeradwyo gan y Bwrdd unwaith y flwyddyn.

Ein prif risgiau a mesurau lliniaru ar gyfer ail flwyddyn y cynllun cyflwyno, 2024–2025, ar y dyddiad cyhoeddi yw:

Strategol

Gweithrediad y strategaeth newydd yn arafach na'r disgwyl neu'n methu â chyflwyno yn erbyn y pedair egwyddor fuddsoddi. Byddwn yn rheoli hyn drwy:

  • hyfforddi staff a phwyllgorau
  • gwybodaeth reoli i lywio cyflwyno ac ailffocysu gweithgarwch fel y bo angen
  • gweithredu ac adrodd ar effaith trwy gyflwyno Fframwaith Effaith ffurfiol
  • goruchwyliaeth gan y Bwrdd a thimau Gweithredol

Data, mewnwelediad ac arbenigedd annigonol i olrhain a deall effaith strategol Treftadaeth 2033. Byddwn yn rheoli hyn drwy:

  • wella ffynonellau data ac olrhain cynnydd cyflwyno'n weithredol trwy ddatblygu ein system rheoli buddsoddiadau
  • cyflwyno Fframwaith Effaith newydd i fesur ac ymateb i dystiolaeth o'n heffaith
  • recriwtio a datblygu aelodau staff sydd â sgiliau priodol

Effaith ar biblinell y Gronfa Treftadaeth os bydd prosiectau presennol yn wynebu problemau mawr neu'n methu, neu os na chyflwynir ceisiadau newydd oherwydd risgiau economaidd. Byddwn yn rheoli hyn drwy:

  • fonitro prosiectau'n weithredol yn unol â'n harweiniad ac adeiladu perthnasoedd â grantïon i nodi problemau'n gynnar
  • defnydd wedi'i dargedu o arbenigwyr allanol i lywio penderfyniadau dyfarnu'n well
  • gwella dealltwriaeth aseswyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau o'r dirwedd ariannu a risgiau prosiectau unigol
  • marchnata gweithredol a chynllunio ymgysylltu

Economaidd

Mae anwadaliad yn yr amgylchedd allanol yn arwain at wahanol flaenoriaethau ariannu a pholisi ar gyfer y sector treftadaeth. Byddwn yn rheoli hyn drwy:

  • berthynas waith agos â rhanddeiliaid gan gynnwys tîm noddi DCMS i ddangos cyfraniad buddsoddiad mewn treftadaeth
  • atgyfnerthu ein hymagwedd at ymgysylltu a gwneud penderfyniadau datganoledig
  • sicrhau bod ein strategaeth yn hyblyg a bod modd ei haddasu drwy gynlluniau cyflwyno tair blynedd a chyllidebu gydag adolygiadau blynyddol

Mae gostyngiad materol parhaus yn incwm y Loteri Genedlaethol yn golygu na allwn ariannu prosiectau allweddol i gyflwyno ein strategaeth. Byddwn yn rheoli hyn drwy:

  • weithio ar y cyd ag Uned Hyrwyddo'r Loteri Genedlaethol i gryfhau marchnata achosion da
  • cynllunio senarios ar gyfer ystod o opsiynau ariannol
  • gweithio ar y cyd gyda gweithredwr y Loteri Genedlaethol drwy Fforwm y Loteri Genedlaethol i rannu mewnwelediad

Gweithredol

Mae methu â denu a chadw gweithlu amrywiol a medrus yn arwain at leihad mewn gwybodaeth allweddol ac yn lleihau cyflwyno, gallu ac effeithiolrwydd. Byddwn yn rheoli hyn drwy:

  • barhau i wella prosesau recriwtio gan gynnwys ehangu sianeli recriwtio, prosesau ymgynefino a chroesawu staff
  • datblygu cyfleoedd hyfforddi a dysgu perthnasol i staff
  • datblygu ein cynnig gwerth cyflogeion

Methiant parhaus sylweddol o systemau neu swyddogaethau, cyfaddawdu diogelwch data. Byddwn yn rheoli hyn drwy:

  • fesurau rheoli mynediad ataliol ac offer datgelu
  • monitro ac adrodd ac weithgarwch meddalwedd
  • cynlluniau parhad busnes a digwyddiadau critigol yn eu lle
  • rhaglen hyfforddiant ac ymwybyddiaeth staff
  • diogelwch data a pholisïau yn eu lle ac yn cael eu hadolygu'n rheolaidd 

Tryloywder

Rydym yn cydnabod ein rhwymedigaethau i chwaraewyr a threthdalwyr y Loteri Genedlaethol wrth esbonio sut rydym yn defnyddio eu harian, ac ariannu gweithio mewn cydymffurfiaeth â deddfau perthnasol a'r Ddogfen Fframwaith gyda DCMS.

Fel corff sy'n wynebu'r cyhoedd, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn rhwydd a'i bod yn hawdd ei deall. Am fwy o wybodaeth, gweler adran Tryloywder ein gwefan.

Cyhoeddir ein data dyfarniadau ar GrantNav, sy'n safon data agored, ar ein gwefan a thrwy ddatganiadau ystadegol DCMS a Swyddfa'r Cabinet. Rydym yn cyhoeddi manylion dyfarniadau grant unigol y gellir ystyried eu bod yn gymorthdaliadau er mwyn cydymffurfio â gofynion tryloywder Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022.

Rydym hefyd yn cyhoeddi'r canlynol ar ein gwefan:

Hysbysebir tendrau gwerth £30,000 (gan gynnwys TAW) neu fwy lle rydym yn chwilio am gyflenwyr/partneriaid busnes i'n helpu i gyflwyno ein busnes ar Contracts Finder. Mae tendrau dros drothwyon Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 hefyd yn cael eu hysbysebu ar y gwasanaeth Find a Tender ar wefan llywodraeth y DU. Cyhoeddir contractau (wedi'u golygu) a ddyfernir ar gyfer gwasanaethau a chymorth lle rydym wedi gosod y contractau hynny ar Contracts Finder.

Effaith a pherfformiad

Asesu effaith ein buddsoddiad

Mae Treftadaeth 2033 yn disgrifio'r newidiadau rydym am eu cyflawni erbyn 2033 ar draws ein pedair egwyddor fuddsoddi.

Yn ystod y flwyddyn bontio (2023–2024), fe wnaethom ddechrau dylunio Fframwaith Effaith newydd a fydd yn ein galluogi i werthuso ac asesu ein heffaith yn rheolaidd dros y 10 mlynedd nesaf.

Mae ein Bwrdd wedi cytuno ar fframwaith i werthuso’r effaith ar falchder mewn lle, treftadaeth wedi'i hadfywio a'r economi, yn gysylltiedig â’n pedair egwyddor fuddsoddi:

  • Achub treftadaeth: mae treftadaeth yn cael ei hadfywio ac mae ei chyflwr wedi'i wella.
  • Diogelu'r amgylchedd: mae treftadaeth naturiol yn cael ei adfer.
  • Cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad: gall mwy o bobl gyrchu a chysylltu â threftadaeth.
  • Cynaladwyedd sefydliadol: mae sefydliadau a ariannwn yn fwy medrus ac yn gadarn yn ariannol.

Yn ystod 2024-2025 a 2025-2026 byddwn yn cyflwyno mesurau ansoddol a meintiol er mwyn deall a ydym yn cyflwyno yn erbyn pob un o'r datganiadau hyn ac i ymateb fel y bo'n briodol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn dangos sut mae'r Gronfa Treftadaeth yn cael effaith ar falchder mewn lle, treftadaeth wedi'i hadfywio a'r economi.

Byddwn yn parhau i sicrhau bod ein holl ymchwil, mewnwelediad a gwerthuso ar gael ar ein gwefan, i alluogi asesiad llawn o'n heffaith ar dreftadaeth. Byddwn yn gwella ein hymagwedd at fesur a monitro effaith ein buddsoddiadau yn barhaus.

Mesur ein perfformiad

Byddwn yn parhau i gynhyrchu ac adolygu dangosyddion gweithredol i fesur ein perfformiad trwy ein hadroddiadau i'n hadran noddi, DCMS. Mae'r dangosyddion hyn yn cyd-fynd â'r Fframwaith Effaith tymor hwy. Ein dangosyddion gweithredol presennol yw:

  • gostyngiad mewn asedau treftadaeth yr ystyrir eu bod 'mewn perygl' o ganlyniad uniongyrchol i fuddsoddiad gan y Gronfa Treftadaeth
  • cyfran y ceisiadau grant a brosesir o fewn y graddfeydd amser a gyhoeddir
  • y gyfran o'r cyhoedd sy'n ymwneud â threftadaeth, amgueddfeydd ac orielau fel y'i cofnodir yn Arolwg Cyfranogiad DCMS
  • swm a chyfran yr ariannu i'r 20% o ardaloedd awdurdod lleol mwyaf difreintiedig

Byddwn yn gwneud gwelliannau i'n dulliau cywain data ar effaith prosiectau fel y gallwn hefyd fonitro ac adrodd ar nifer y swyddi a gwirfoddolwyr a gefnogir yn uniongyrchol gan fuddsoddiad y Gronfa Treftadaeth.

Ein safonau gwasanaeth

Rydym wedi gosod targedau ar gyfer cyflwyno gwasanaethau i'n hymgeiswyr a'n grantïon.

Penderfyniadau ar geisiadau

Fel arfer, bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud yn y cyfarfod penderfyniadau nesaf ar ôl yr asesiad fel a ganlyn –

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol dros £250,000:

  • Ymateb i Fynegiad o Ddiddordeb: 20 diwrnod
  • cais am grant datblygu/cyflwyno: 12 wythnos

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol hyd at £250,000:

  • o adeg cyflwyno'r cais: wyth wythnos

Taliadau grant

Bydd taliadau grant yn cael ei wneud i'r grantï o fewn naw diwrnod gwaith o dderbyn y cais am daliad.