Y Loteri Genedlaethol yn 25 oed

Y Loteri Genedlaethol yn 25 oed

Dathlodd y Loteri Genedlaethol ei phen-blwydd yn 25 oed yn 2019 ac mae'r £40biliwn a godwyd ar gyfer achosion da yn y cyfnod hwnnw wedi cael effaith ryfeddol ar fywyd yma yn y DU, gan ein tywys mewn oes aur i dreftadaeth y DU.

Ers y gên gyntaf ar 19 Tachwedd 1994, mae'r Loteri Genedlaethol wedi adfywio ein treftadaeth genedlaethol, gan weddnewid llawer o'n sefydliadau gwych a chyrraedd pob cymuned yn y wlad. 

Mae buddsoddiad Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cyfateb i £8biliwn hyd yma. O Ynys Bute yr Alban i Flaenafon a Derry i Dungeness, rydym wedi ariannu mwy na 44,000 o brosiectau yn ystod y chwarter canrif.

Porwch drwy’r straeon isod am bobl ledled y DU yn dathlu, adfywio a rhannu eu treftadaeth, diolch i'r Loteri Genedlaethol.

Chris Packham and Jamal Edwards crossing their fingers like the National Lottery logo

Straeon

Naw ffordd i ddathlu 2019

Roedd 2019 yn flwyddyn o edrych yn ôl – i'r holl brosiectau rydym wedi'u hariannu ers i'r Loteri Genedlaethol sefydlu yn 1994 – ac edrych ymlaen, gyda'n henw, strwythur a ffyrdd newydd o gyflwyno ein grantiau. Dyma rai o'r pethau roeddem yn falch o fod wedi'u cyflawni yn 2019 ... Chwyldro mewn
Three children look at Constable painting

Straeon

25 mlynedd o ariannu treftadaeth y DU: ein ffilm

Fel ariannwr grant penodol mwyaf treftadaeth y DU, mae ein dosbarthiad o gyllid y Loteri Genedlaethol wedi cyrraedd pob cornel o'r wlad. Dros y 25 mlynedd diwethaf rydym wedi helpu i sicrhau manteision sylweddol i adeiladau hanesyddol a gwerthfawr, bywyd gwyllt a chynefinoedd, parciau a'r awyr