Pen-blwydd Hapus y Loteri Genedlaethol
Ar 19 Tachwedd 1994, digwyddodd y gêm Loteri Genedlaethol gyntaf.
Ers hynny, mae mwy na £39biliwn o werthiannau tocynnau wedi mynd tuag at ariannu achosion da yn y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth a chymunedau ledled y DU.
"Mae'r Loteri Genedlaethol wedi trawsnewid ein bywydau yn y DU dros y 25 mlynedd diwethaf," meddai Ros Kerslake, Prif Weithredwraig Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
"Drwy brynu tocyn, mae chwaraewyr wedi adfywio ein parciau cyhoeddus, wedi cefnogi ein tirweddau a'n bywyd gwyllt, wedi creu amgueddfeydd ac atyniadau ymwelwyr o'r radd flaenaf, wedi buddsoddi mewn swyddi a hyfforddiant newydd, ac wedi helpu pobl i rannu straeon di-ri am eu treftadaeth cyfoethog ac amrywiol."
Y diweddaraf
Mae llawer o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous ar y gweill i ddathlu'r flwyddyn gofiadwy yma.
Mae'r rhain yn amrywio o arddangos rhai o'r artistiaid rhyfeddol, ar lawr gwlad a'r campau Olympaidd, bywyd gwyllt, lleoedd hanesyddol ac elusennau sydd wedi elwa ar gyllid gan y Loteri Genedlaethol, i roi yn ôl i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol gyda'n wythnos Diolch yn Fawr.
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr i glywed yr holl ddiweddariadau a'r cyhoeddiadau diweddaraf sydd gennym.
Cymryd rhan
Rydym am i bawb sydd wedi derbyn grant gan y Loteri Genedlaethol i ymuno yn y dathliadau a chael pecyn cymorth defnyddiol i ddathlu 25 mlynedd i ddangos i chi sut i wneud hynny. Mae'n cynnwys popeth o syniadau a negeseuon allweddol i logos a swyddi cyfryngau cymdeithasol.
Rhowch 23 Tachwedd - 1 Rhagfyr yn eich dyddiaduron. Dyna'r wythnos – gan gynnwys dau benwythnos – o’n dathliadau Diolch yn Fawr eleni, pan fydd atyniadau a phrosiectau sy'n cael eu hariannu gan y Loteri Genedlaethol yn cael eu hannog i agor eu drysau a rhoi rhywbeth yn ôl i'r chwaraewyr sy'n cyfrannu tua £30m at achosion da bob wythnos. Byddwn yn cynnal ymgyrch gyhoeddusrwydd fawr i arddangos yr atyniadau anhygoel sy'n cymryd rhan, felly mae'n werth bod yn rhan o'r dathliadau.
Gallwch gofrestru eich diddordeb mewn bod yn rhan o ymgyrch eleni drwy gwblhau'r ffurflen gofrestru yn gynnar nawr. Yna, bydd rheolwr y prosiect Diolch yn Fawr, Stacey Reed, mewn cysylltiad i sicrhau bod popeth sydd ei angen arnoch i wneud eich cynnig yn llwyddiant.
A pheidiwch ag oedi cyn estyn allan iddi os oes gennych unrhyw gwestiynau drwy e-bost: Stacey.Reed@lotterygoodcauses.org.uk neu ffoniwch: 020 7211 3928.
Prosiectau sy’n newid bywydau
A wyddech fod dros hanner miliwn o brosiectau unigol wedi elwa ar arian y Loteri Genedlaethol yn y chwarter canrif diwethaf?!
Mae hynny'n cyfateb i 190 o brosiectau sy'n newid bywyd ym mhob ardal cod post yn y DU.
"Yn syml iawn, mae'r Loteri Genedlaethol wedi gwneud y DU yn lle gwell i fyw ac mae'n hynod gyffrous dychmygu beth y gellid ei gyflawni yn y 25 mlynedd nesaf, " meddai Ros Kerslake.
Syniad ar gyfer eich prosiect eich hun? Darganfyddwch sut i gael cyllid treftadaeth.
25 mlynedd o ariannu treftadaeth
Yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yw’r cyllidwr grant penodedig mwyaf ar gyfer treftadaeth y DU. Rydym wedi dyfarnu £8bn i fwy na 44,000 o brosiectau ledled y DU.