Dechrau’r dathliadau: Y Loteri Genedlaethol yn 25 oed
I danio’r dathliadau, mae darn newydd o gelfyddyd fodern gan yr arlunydd byd-enwog, David Mach RA, yn cael ei ddadorchuddio mewn lleoliad annhebygol.
Mae cyfansoddiad Mach, United By Numbers: The National Lottery at 25, yn cael ei arddangos am un diwrnod yn ffenestr Booth & Howarth ar Mauldeth Road, Manceinion. Mae'r siop papurau newydd wedi bod yn gwerthu tocynnau'r Loteri Genedlaethol am 25 mlynedd.
Mae'r gwaith celf yn cynnwys cymysgedd o drysorau cenedlaethol enwog a llai adnabyddus gan gynnwys pobl, lleoedd, prosiectau ac eiconau sydd wedi bod yn rhan o bethau eithriadol a wnaed yn bosibl gan y Loteri Genedlaethol.
O Fand Pres Morecambe, un o'r prosiectau cyntaf i dderbyn arian y Loteri Genedlaethol erioed, i Betty Webb, a datryswr codau ail ryfel byd o Barc Bletchley, mae'r llinell drawiadol wedi'i gosod yng nghyd-destun lleoliadau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol gan gynnwys Jodrell Bank a'r Giant's Causeway, a gyfansoddwyd yn arddull David Mach.
Mae un peth yn gyffredin i bob un o'r unigolion a'r lleoedd hyn: mae'r Loteri Genedlaethol wedi effeithio'n gadarnhaol ar bob un ohonynt dros y 25 mlynedd diwethaf.
Dywedodd Betty Webb: "Mae'n fraint cael bod yn rhan o'r dathliad arbennig yma ac ymddangos yn y ddelwedd wych yma. Mae Parc Bletchley yn rhan allweddol o'n treftadaeth, ac mae'r Loteri Genedlaethol wedi helpu'n aruthrol i sicrhau bod modd ei fwynhau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Dull yr artist
Wrth fyfyrio ar yr ysbrydoliaeth ar gyfer ei ddarn newydd, dywedodd David Mach: "Am y 25 mlynedd diwethaf, prin iawn yw'r rhan o'n bywyd diwylliannol, chwaraeon a chymunedol nad yw cyllid y Loteri Genedlaethol wedi dylanwadu'n gadarnhaol arni.
"Roeddwn i am helpu pobl i gael syniad o'r effaith yma gyda'r gwaith celf hwn drwy 25 o storïau, ac mae cael ei ddangos ar stryd fawr leol i unrhyw un ei weld yn addas."
Allwedd i’r ddelwedd
- The Kelpies: Dyluniwyd cerfluniau ceffylau mwyaf y byd ym Mharc Helix Falkirk gan Andy Scott. Mae Kelpies wedi cael cyllid gwerth £25miliwn gan y Loteri Genedlaethol.
- Katarina Johnson-Thompson a Dina Asher-Smith: enillwyr medalau aur i Brydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd, ac mae'r ddau wedi cael arian gan y Loteri Genedlaethol yn ystod eu gyrfaoedd.
- Courtney Cooper: Mae Cooper o glwb bocsio Monkstown yng Ngogledd Iwerddon, y mae ei #INYOURCORNER prosiect yn helpu i wella iechyd, lles a chyflogadwyedd pobl ifanc yn yr ardal. Mae prosiect InYourCorner wedi cael bron i £600,000 o gyllid drwy'r Loteri Genedlaethol.
- Y Fonesig Tanni Grey-Thompson: Derbyniodd un o'r athletwyr gorau mewn hanes ac enillydd 11 medal aur Paralympaidd arian y Loteri Genedlaethol yn ystod ei gyrfa.
- Prosiect Dementia Dogs: Mae'r Loteri Genedlaethol wedi cefnogi'r Dementia Dogs Project, sy'n helpu'r rhai sy'n gofalu am anwyliaid gyda dementia yn y cyfnod cynnar drwy ddarparu cŵn cymorth yn yr Alban. Mae Cŵn Dementia wedi derbyn £314,000 o gyllid drwy'r Loteri Genedlaethol.
- The Hendrix Flat: Adferwyd fflat y gitarydd roc chwedlonol yn 23 Brook Street, Llundain diolch i £1.2 miliwn o gyllid gan y Loteri Genedlaethol yn 2014.
- James Nesbitt: Seren y ffilm Bloody Sunday, noddwr WAVE Trauma, Action Cancer, a chwmni Big Telly Company; a Changhellor Prifysgol Ulster – y cyfan wedi derbyn cyllid gan y Loteri Genedlaethol.
- Syr Chris Hoy a Victoria Pendleton: Athletwyr Olympaidd a enillodd fedal aur, a arweiniodd eu gyrfaoedd yn Llundain 2012. Y gemau na fyddai wedi bod yn bosibl heb arian gan y Loteri Genedlaethol.
- Seindorf Arian Morecambe: Un o'r prosiectau cyntaf erioed i dderbyn arian gan y Loteri Genedlaethol. Sefydlwyd y band gan Bernard Vause ac mae’r band yn parhau i fod yn llwyddiannus. Derbyniodd Band Pres Morecambe £47,566 trwy'r Loteri Genedlaethol – ac maen nhw'n dal i chwarae gyda'r 24 o offerynnau pres a brynwyd ganddyn nhw gyda'r arian hwnnw.
- Syr Tim Smit: Sylfaenydd y prosiect poblogaidd Eden a The Big Lunch, a wnaed yn bosibl diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Prosiect Eden wedi cael £60m o gyllid drwy'r Loteri Genedlaethol.
- Giant’s Causeway: Buddsoddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol £3m mewn adeiladu canolfan ymwelwyr yn y Giant's Causeway, gan ddarparu golygfa brydferth o dirwedd Arfordir y Gogledd.
- Ray a Barbara Wragg: Ar ôl ennill £7.6miliwn ar y Loteri Genedlaethol, mae Ray a Barbara Wragg yn rhai o'r enillwyr mwyaf hael ar ôl rhoi £5.5miliwn, yn bennaf i elusennau yn Sheffield.
- We’re Here Because We’re Here soldiers (hefyd ar y dde): Roedd We’re Here Because We’re Here, gan Jeremy Deller, yn un rhan yn unig o raglen ddiwylliannol ar raddfa fawr yn nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Buddsoddodd y Loteri Genedlaethol £15m dros bum mlynedd yn y rhaglen hon.
- Tracey Emin: Arddangoswyd gwaith celf Emin mewn orielau cenedlaethol a ariennir gan y Loteri Genedlaethol ledled y wlad, gan gynnwys Oriel Gelf Gyfoes Turner yn ei thref enedigol, Margate.
- Gurinder Chadha: Y cyfarwyddwr ffilm o Loegr a oedd y tu ôl i Bend it Like Beckham sy'n serennu Keira Knightley yw un o’r enghreifftiau o ffilmiau sydd wedi derbyn £945,000 o arian gan y Loteri Genedlaethol drwy'r BFI.
- Jodrell Bank: Gyda chymorth y Loteri Genedlaethol, mae'r First Light Project yn diogelu treftadaeth Bank Jodrell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, diolch i’r £12.1 m o'r arian gan y Loteri Genedlaethol.
- Edna Smith: Gwirfoddolwr am 15 mlynedd gydag elusen Home-Start, sydd wedi derbyn mwy na £1m o gyllid drwy'r Loteri Genedlaethol. Mae Edna wedi helpu cannoedd o deuluoedd i wella o iselder ôl-enedigol.
- Ewan McGregor: Actor a ymddangosodd yn T2: Trainspotting, un o'r cynyrchiadau cyntaf i elwa ar Gronfa Twf Cynhyrchiant Creative Scotland o £500,000, gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol.
- Rio Ferdinand: Pyndit a chyn-bêl-droediwr Lloegr, mae Sefydliad Rio Ferdinand, sy'n bodoli i helpu i fynd i'r afael â materion cymdeithasol, wedi derbyn £668,000 o gyllid drwy'r Loteri Genedlaethol.
- Suffragettes: Mae'r Loteri Genedlaethol wedi cefnogi prosiectau ar hyd a lled y wlad yn archwilio hanes mudiad y swffragét, gan gynnwys y ffilm 2015, Suffragette (£1m); Y gwaith celf The Face of Suffrage a phrosiect Suffragettes yr East End.
- Idris Elba: Actor, awdur a chynhyrchydd arobryn. Gyda chymorth £1m o arian y Loteri Genedlaethol, cyfarwyddodd am y tro cyntaf yn 2018 gyda Yardie.
- Betty Webb: Mae Betty yn gyn-filwr 96 mlwydd oed o Barc Bletchley. Yn 2011, helpodd y Loteri Genedlaethol i adfer y cytiau a oedd yn pydru a lle'r oedd Betty a’r datryswyr codau eraill yn gweithio. Mae Parc Bletchley wedi derbyn £5m o gyllid drwy'r Loteri Genedlaethol.
- Stadiwm y Principality: Cyn Cwpan Rygbi'r Byd 1999, sicrhawyd £46m o arian y Loteri Genedlaethol i adeiladu’r stadiwm eiconig yng Nghaerdydd.
- Paul Sinton-Hewitt: Sefydlydd parkrun, mae'r pum cilometr wythnosol am ddim yn yn agored i bawb a fwynhawyd gan fwy na £2miliwn o bobl ledled y DU. Mae Parkrun wedi cael dros £3m o gyllid drwy'r Loteri Genedlaethol.
- Krystal Lowe: Dawnsiwr i Ballet Cymru, a dderbyniodd tua £930,000 o gyllid gan y Loteri Genedlaethol er mwyn eu galluogi i ehangu eu gwaith allgymorth gyda chymunedau lleol.
Mwy i ddod
Dros y chwe wythnos nesaf, o 14 Hydref – 6 Rhagfyr, bydd y Loteri Genedlaethol yn dadorchuddio amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys digwyddiadau am ddim i'r DU gyfan eu mwynhau.
Dathlwch gyda ni y gwahaniaeth anhygoel y mae'r Loteri Genedlaethol wedi ei wneud drwy edrych yn fanylach ar sut y mae £8biliwn o gyllid ar gyfer treftadaeth wedi newid bywydau pobl ac wedi gwneud cymunedau yn lleoedd gwell i fyw ynddyn nhw.
25 mlynedd o ariannu treftadaeth
Yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yw’r cyllidwr grant penodedig mwyaf ar gyfer treftadaeth y DU. Rydym wedi dyfarnu £8bn i fwy na 44,000 o brosiectau ledled y DU.