25 mlynedd o ariannu treftadaeth y DU: ein ffilm
Fel ariannwr grant penodol mwyaf treftadaeth y DU, mae ein dosbarthiad o gyllid y Loteri Genedlaethol wedi cyrraedd pob cornel o'r wlad.
Dros y 25 mlynedd diwethaf rydym wedi helpu i sicrhau manteision sylweddol i adeiladau hanesyddol a gwerthfawr, bywyd gwyllt a chynefinoedd, parciau a'r awyr agored, amgueddfeydd o safon fyd-eang, diwylliant ac atgofion a threftadaeth gymunedol.
Rhannwch eich hoff atgofion
Beth yw eich hoff atgof Loteri Genedlaethol yn ystod y chwarter canrif diwethaf? Agoriad prosiect gwych, gwirfoddoli yn eich parc lleol, dysgu sgil treftadaeth newydd, tynnu llun trawiadol a gymerasoch ar gamera? Rhannwch y rhain ar y cyfryngau cymdeithasol a dathlwch gyda ni drwy ddefnyddio #LoteriGenedlaethol25.
#DiolchiChi, chwaraewyr y Loteri Cenedlaethol
Mae miloedd o lefydd gwerthfawr a hanesyddol wedi cael eu hariannu gan y Loteri Genedlaethol ers 1994. Mae gan lawer ohonynt gynigion arbennig ar gyfer chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yr hydref hwn i ddweud diolch yn fawr - ewch i wefan Diolch i Chi i ddod o hyd i rywle sy’n lleol i chi.