#LoteriGenedlaethol25 – Rhannwch eich atgofion â ni ar y cyfryngau cymdeithasol
Ers hynny, mae mwy na £40biliwn o arian y Loteri Genedlaethol wedi'i godi ar gyfer achosion da.
Mae llawer o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous ar y gweill i ddathlu'r flwyddyn gofiadwy yma a fydd yn cyrraedd uchafbwynt yn yr hydref. Ond am y tro, mewn dathliad, byddem wrth ein boddau'n cael gwybod beth yw eich hoff brosiectau treftadaeth, atgofion, lluniau a straeon o dros y 25 mlynedd diwethaf. Ewch draw i'r cyfryngau cymdeithasol i gymryd rhan!
O agoriad prosiect gwych, gwirfoddoli yn eich parc lleol, dysgu sgìl treftadaeth newydd, llun a wnaethoch chi ei dynnu gyda’ch camera - pa atgof treftadaeth y byddech chi'n dewis ei rannu gyda ni?
Cymryd rhan ar y cyfryngau cymdeithasol
Ymunwch ag un o'n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a defnyddiwch yr hashnod #LoteriGenedlaethol25. Byddwn yn cadw golwg ar eich negeseuon er mwyn i ni allu eu rhannu.
Cymerwch olwg isod i weld ein holl gyfrifon ac archwiliwch ein rhestr Twitter yma
Gogledd Iwerddon - @HeritageFundNI
- Yr Alban - @HeritageFundSCO
- Cymru - @HeritageFundCYM
- Gogledd Lloegr - @HeritageFundNOR
- Canolbarth a Dwyrain Lloegr - @HeritageFundM_E
- Llundain a De Lloegr - @HeritageFundL_S
- Twitter y DU, Facebook ac Instagram.
Cewch ragor o wybodaeth am ddathliadau 25 mlynedd yma.
25 mlynedd o ariannu treftadaeth
Yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yw’r cyllidwr grant penodedig mwyaf ar gyfer treftadaeth y DU. Rydym wedi dyfarnu £8bn i fwy na 44,000 o brosiectau ledled y DU.