Sgwrs â sylfaenydd Cyngor Hil Cymru, Uzo Iwobi OBE
Fe wnaethom sgwrsio â Sylfaenydd Cyngor Hil Cymru, a Chynghorydd Arbenigol ar Gydraddoldeb i Lywodraeth Cymru, Uzo Iwobi drwy alwad fideo i gael trafodaeth onest am amrywiaeth yng Nghymru heddiw.
Rhannodd Uzo ei stori o symud o Nigeria i Gymru ar ddechrau'r 90au, a'r allgáu diwylliannol a'r hiliaeth yr oedd yn eu hwynebu. Trafododd sut mae diwylliant wedi newid yng Nghymru ers iddi symud yno ac mae'n tynnu sylw at rai materion pwysig sy'n dal i fod yn bresennol heddiw.
Rhan 1: Taith Uzo
Buom yn siarad ag Uzo am ei thaith, a'r heriau yr oedd yn eu hwynebu, i fod yn arweinydd Du yng Nghymru.
Rhan 2: amrywiaeth yng Nghymru a rhannu straeon Du
Uzo yn trafod sut mae diwylliant yng Nghymru wedi datblygu a'r materion hiliaeth sy'n dal i fod yn bresennol heddiw. Mae hefyd yn sôn am sut y gall rhannu straeon pobl Ddu yng Nghymru wneud gwahaniaeth enfawr.
Rhan 3: ysbrydoli pobl ifanc drwy dreftadaeth
Mae Uzo yn sôn am y ffyrdd y mae wedi gweithio gyda phobl ifanc o gefndiroedd amrywiol i ddathlu eu treftadaeth, a pha mor gadarnhaol fu hyn iddynt.
Rhan 4: sut y gall treftadaeth a chymdeithas gefnogi pobl Ddu
Uzo yn sôn am sut y gall y sector treftadaeth a'r Gronfa hyrwyddo lleisiau pobl Ddu a'u treftadaeth. Mae hefyd yn trafod yr hyn y gall cymdeithas ei wneud i gefnogi pobl Ddu sy'n byw yn y DU.
Rhan 5: Mudiad Pobl Dduon a Black Lives Matter, a diolch!
Uzo yn sôn am sylw diweddar y cyfryngau gan fudiad Black Lives Matter yng Nghymru, a diolch I'r Gronfa am rannu straeon am bobl Dduon.
I ddarganfod mwy am waith Uzo a'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru i hyrwyddo lleisiau cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ewch I wefan Cyngor Hil Cymru a Mis Hanes Pobl Dduon Cymru.