
National Lottery Grants for Heritage – £250,000 to £5million
Bydd yr Amgueddfa Dau Hanner yn cynnwys Amgueddfa Wrecsam wedi’i hadnewyddu a’i gwella’n llawn yn yr adeilad presennol, ochr yn ochr ag Amgueddfa Pêl-droed Genedlaethol newydd sbon i Gymru.
Clwb Pêl-droed Cymdeithas Wrecsam yw’r clwb hynaf yng Nghymru a’r trydydd tîm pêl-droed cymdeithas broffesiynol hynaf yn y byd. Mae'r prosiect yn cyfuno treftadaeth chwaraeon unigryw y dref a phoblogrwydd pêl-droed i ennyn diddordeb cynulleidfaoedd newydd yn hanes y gamp yng Nghymru.
Bydd yr amgueddfa hefyd yn hyb cymunedol, yn ganolfan ddysgu ac yn atyniad i ymwelwyr, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl ymwneud â threftadaeth yr ardal.

Casgliad unigryw
Bydd yr amgueddfa newydd yn gartref i arddangosfa barhaol o Gasgliad Pêl-droed Cymru. Ymysg y gwrthrychau eiconig sydd i'w harddangos mae:
- rhaglenni gemau sy'n dyddio'n ôl i 1901
- Crys gêm gyntaf John Charles ar gyfer Cymru v Iwerddon o fis Mawrth 1950
- cap a ddyfarnwyd i arloeswr pêl-droed Cymru, Billy Meredith
Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Bydd yr arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn ein helpu i drawsnewid un o adeiladau tirnod ein dinas yn lleoliad o safon fyd-eang.
“Bydd hanes cyfoethog ein bwrdeistref sirol yn cael ei ddathlu ochr yn ochr â stori gyffrous pêl-droed Cymru.”