Buddsoddi mewn treftadaeth er lles
Beth yw lles?
Rydym yn defnyddio tystiolaeth gan y Ganolfan What Works, sy'n disgrifio lles fel 'sut rydym yn gwneud' - ar lefel unigol, lefel gymunedol ac ar y cyd ar draws y DU, a pha mor gynaliadwy yw hynny ar gyfer y dyfodol.
Mae lles yn crynhoi ein teimladau o foddhad, mwynhad a hunanhyder sy'n arwain at berthynas gref ac ymgysylltu â'r byd o'n cwmpas.
Mae treftadaeth yn ymwneud â'r teimlad hwnnw o berthyn, gan wybod mai dyma'ch lle a'ch dealltwriaeth o sut mae eich hanes yn ffitio o fewn hanes yn ehangach. Mae'n rhan o fod yn ddynol.
Laura Drysdale, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Adfer, fel rhan o brosiect Partneriaeth Tirwedd Water Mills and Marshes a ariennir gan y Loteri Genedlaethol.
Rôl treftadaeth mewn lles
Gall treftadaeth feithrin cysylltiad â lle rydych chi'n byw, â'r bobl o'ch cwmpas neu â chymuned ar-lein. Gall gefnogi hyder a hunan-barch unigol, a darparu cyfleoedd i fod yn egnïol yn feddyliol ac yn gorfforol.
Gall treftadaeth hefyd ein helpu i ddod o hyd i ystyr a phwrpas yn ein bywydau. Mae'r ddau yn agweddau arwyddocaol ar sut rydyn ni'n profi lles.
Dyma rai enghreifftiau:
- gweithgareddau gwirfoddoli mewn safleoedd treftadaeth i fynd i'r afael ag unigrwydd
- ymweld â thir a byd natur i gael awyr iach a gwella iechyd meddwl
- cyrsiau creadigol neu gyfleoedd dysgu i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau – megis sesiynau trin a thrafod casgliadau mewn amgueddfa
- cyd-gynhyrchu digwyddiadau treftadaeth, er enghraifft gweithgareddau a arweinir gan bobl ifanc mewn safleoedd treftadaeth
Gallwch gael gwybod mwy yn ein harweiniad lles.
Dyma rai o'r prosiectau ysbrydoledig rydym wedi'u hariannu ar draws y Deyrnas Unedig sy'n cefnogi lles. Os oes syniad gennych, byddem wrth ein boddau'n clywed oddi wrthych.
Projects
Achub tafarn gymunedol 200-mlwydd-oed ar Ben Llŷn
Mae ein cyllid yn helpu Cymdeithas Budd Cymunedol Menter y Plu i gynllunio sut i arbed ac ailddatblygu Y Plu - tafarn restredig Gradd II.
![Grŵp o blant yn gwisgo welingtons a chotiau yn archwilio coetir](/sites/default/files/styles/hlf_xlarge/public/media/imgs/Playing%20in%20the%20swamp%20small.jpg.webp?itok=FRkmbSDu)
Newyddion
Dros £1miliwn wedi ei fuddsoddi yng nghoetiroedd Cymru, a mwy ar gael
![Four-wheel-drive ‘Tramper’ scheme, launching at Parc Cefn Onn in 2023](/sites/default/files/styles/hlf_xlarge/public/media/imgs/Parc%20Cegfn%20Onn%20Trampers%20copy_0.jpg.webp?itok=Ehga8b_1)
Projects
'I mewn i'r ardd a thu hwnt' – gwella mynediad ymwelwyr i Barc Cefn Onn
Mae grant o £454,000 yn galluogi pobl i fwynhau gwell mynediad i'r parc hanesyddol rhestredig Gradd II yng Nghaerdydd
![Pedwar o bobl yn cerdded ochr yn ochr mewn parc gyda lawnt agored a choed ar hyd yr ymyl](/sites/default/files/styles/hlf_xlarge/public/media/imgs/Parks%20For%20Health%20Islington%20Council_0.jpg.webp?itok=93XkzHmT)
Straeon
Sut i greu mannau gwyrdd trefol cynaliadwy yn eich ardal chi
![5 ways museums can improve your mental health and wellbeing Person painting](/sites/default/files/styles/hlf_xlarge/public/media/imgs/heritage-mental-health.jpg.webp?itok=kQLAOZcb)
Newyddion
Pum ffordd y gall amgueddfeydd wella iechyd meddwl a llesiant
Newyddion
Dyfarnu £193,502 i brosiectau treftadaeth lleol ledled Cymru
Newyddion
Gardd llesiant yn ne Cymru yn ennill gwobr y Loteri Genedlaethol
Projects
Picturing the Past: mynediad i dreftadaeth ar gyfer grwpiau sydd wedi'u hallgáu yn yr Alban
Mae prosiect ffotograffiaeth gyfranogol yn cefnogi pobl anabl a'r rhai o ardaloedd cymdeithasol ddifreintiedig i ymgysylltu â'u treftadaeth leol a chenedlaethol.
![Gwirfoddolwyr yng ngardd 'The Wilderness'](/sites/default/files/styles/hlf_xlarge/public/media/imgs/IMG-20201007-WA0000.jpg.webp?itok=PUbErDQI)
Projects
The Wilderness: Achub Treftadaeth Natur i Wella Llesiant
Er gwaethaf heriau yn ystod y pandemig, mae prosiect The Wilderness yn dangos sut y gellir gwella llesiant pobl hŷn drwy fynd ati i adfer ac ymgysylltu â threftadaeth naturiol.
![Prosiect Cadwraeth a Threftadaeth Dyffryn Gwyrdd Tri phlentyn yn dal tomatos i'w trwynau](/sites/default/files/styles/hlf_xlarge/public/media/imgs/Green%20Valley%206.jpg.webp?itok=0dMLDc5E)
Projects
Cwm Cynon yn rhyfeddod llesiant
Mae safle diffaith yng Nghwm Cynon wedi'i drawsnewid yn ardd gymunedol sy'n llawn pobl, natur a bywyd gwyllt – ac erbyn hyn mae'n lle perffaith i hybu iechyd meddwl.
![wicker art installation](/sites/default/files/styles/hlf_xlarge/public/media/imgs/Rectory-4.jpg.webp?itok=fq72f7k5)
Projects
Gofod Marw i Le Byw: Trawsnewid Mynwent Rectory Lane
Trawsnewidiwyd Mynwent Rectory Lane o 'ofod marw' wedi'i esgeuluso i fod yn ofod cymunedol bywiog ac yn hafan bywyd gwyllt.
Straeon