'I mewn i'r ardd a thu hwnt' – gwella mynediad ymwelwyr i Barc Cefn Onn

Four-wheel-drive ‘Tramper’ scheme, launching at Parc Cefn Onn in 2023
Four-wheel-drive ‘Tramper’ scheme, launching at Parc Cefn Onn in 2023

Parciau i Bobl

Dyddiad a ddyfarnwyd
Lleoliad
Llysfaen
Awdurdod Lleol
Caerdydd
Ceisydd
Cyngor Caerdydd
Rhoddir y wobr
£459900
Mae grant o £454,000 yn galluogi pobl i fwynhau gwell mynediad i'r parc hanesyddol rhestredig Gradd II yng Nghaerdydd

Y prosiect

Mae Parc Cefn Onn yn barc 66.6 acer y tu allan i Gaerdydd sy'n nodedig am ei awyrgylch tawel, hamddenol a'i harddwch.

Fodd bynnag, roedd tirwedd garw'r parc a rhai o'i lwybrau a'i gamau mwy serth wedi bod yn anhygyrch i lawer o bobl, gan gynnwys y rhai â symudedd cyfyngedig a theuluoedd gyda chadeiriau gwthio a bygis.

Nod y prosiect 'I mewn i'r ardd a thu hwnt' oedd ceisio:

  • gwella mynediad a chynyddu nifer yr ymwelwyr, yn enwedig i'r Dingle yn rhan uchaf y parc
  • gwella'r cyfleusterau i ymwelwyr yn y parc
  • rhoi hwb i lesiant ymwelwyr trwy wneud y parc yn haws i fynd o gwmpas a chaniatáu amser hirach i gael ei fwynhau yn yr awyr agored

Y sefydliad

Mae Parc Cefn Onn yn un o 137 o barciau sy'n cael eu gweithredu gan Gyngor Caerdydd.

Yr arian

Cafodd Cyngor Caerdydd grant o £454,000 gan y Loteri Genedlaethol i wneud gwaith fyddai'n caniatáu i amrywiaeth ehangach o bobl fod yn rhan o dreftadaeth drwy ymweld â Pharc Cefn Onn.

A wooded park with an accessible path with handrails
Llwybrau hygyrch newydd drwy Barc Cefn Onn.


Y canlyniadau

Mae'r gwaith gafodd ei wneud yn cynnwys:

  • ychwanegu llwybrcerdded newydd er mwyn ei gwneud hi'n haws i fwy o bobl gerdded o gwmpas y parc
  • uwchraddio toiledau gan gynnwys toiledau Changing Places sy'n gwbl hygyrch
  • gwneud gwaith cadwraeth i hafdy Dingle
  • mwy o lefydd parcio i ymwelwyr anabl

"Mae'r gwaith gwella hyn ym Mharc Cefn Onn yn golygu y bydd hyd yn oed mwy o bobl yn gallu mwynhau ac elwa o'r tirweddau trawiadol, parciau a threftadaeth naturiol ein prifddinas."

Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru

Mae'n ymddangos bod y gwelliannau yn denu pobl i'r parc. Dywedodd Rosie James, Rheolwr Strategaeth a Datblygu Parciau, Chwaraeon a Harbwr Caerdydd:

"Mae pobl sy'n ymweld â Pharc Cefn Onn yn ymestyn eu defnydd o'r parc hyd at y Dingle... Mae hyn bellach wedi codi o 35 y cant i 40 y cant o ddefnyddwyr sy'n cyrchu'r rhan honno o'r parc."

Gyda thystiolaeth o'r ardaloedd yma, mae'n ymddangos bod y gwaith gwella wedi cael effaith "enfawr". Fodd bynnag, gwneir mwy o ymchwil i fesur llwyddiant hirdymor. Fel y noda Rosie:

"Mae'n anodd asesu faint o gynnydd yn ymweliadau'r parc sydd o ganlyniad i'r gwelliannau a'r newid agweddau ôl-Covid gyda mwy o bobl eisiau bod yn yr awyr agored eto.

"Bydd hi'n bwysig cael adborth. Byddwn yn gallu gweld os yw'r lefelau defnydd yn cael eu cynnal ac yn rhoi rhyw syniad i ni o sut mae gwerthfawrogiad pobl o barciau wedi newid dros amser."

Bodloni ein canlyniadau

Mae'r prosiect yn cwrdd â'n canlyniadau gorfodol o:

  • gynnwys ystod ehangach o bobl mewn treftadaeth
  • arwain at bobl â gwell llesiant
  • sicrhau fodyr ardal leol yn lle gwell i fyw, gweithio neu ymweld

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: "Mae treulio amser yn yr awyr agored yn dda i'n hiechyd corfforol a meddyliol a dyna pam mae sicrhau bod mannau gwyrdd yn fwy hygyrch i ystod ehangach o bobl yn hanfodol.

"Mae'r gwaith gwella hyn ym Mharc Cefn Onn yn golygu y bydd hyd yn oed mwy o bobl yn gallu mwynhau ac elwa o'r tirweddau trawiadol, parciau a threftadaeth naturiol ein prifddinas."

A nature park with a pond, plants and trees and park visitors in the far distance
Harddwch naturiol Parc Cefn Onn.


Y dyfodol

Fel rhan o'r prosiect, mae Cyngor Caerdydd yn gwneud gwelliannau pellach i'r parc drwy gyflwyno cynllun 'Tramper' newydd ar gyfer modur pedair olwyn mewn partneriaeth â'r sefydliad nid-er-elw Countryside Mobility Network.

Wedi'i yrru gan fodurau trydan tawel, mae'r Trampers wedi'u cyfyngu i gyflymder uchaf o 4mya a bydd ar gael i'w llogi ar sail 'un tro' neu drwy gynllun aelodaeth cost isel.

Gair i gall

Ar sail eu profiad gyda Pharc Cefn Onn, mae gan Gyngor Caerdydd y cynghorion canlynol ar gyfer prosiectau tebyg:

Meddyliwch y tu allan i'r bocs – bydd cadeiriau olwyn â modur yn caniatáu i rannau garw a bryniog o Barc Cefn Onn fod yn agored i bobl ag anableddau corfforol.

Meddyliwch y tu hwnt i'r ardd synhwyraidd – mae'r system 'un ffordd i mewn ac allan' a gyflwynwyd i'r parc yn ei gwneud yn llawer haws i bobl sy'n colli eu golwg ddarllen byrddau gwybodaeth.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...