£15miliwn i helpu i roi natur wrth wraidd ein trefi a’n dinasoedd
Mae pawb yn teimlo'r budd pan fo natur yn rhan o'n bywydau bob dydd. Dengys tystiolaeth ei fod yn gwneud i ni deimlo'n fwy iach, hapus, cysylltiedig a gwydn.
Ond mae blynyddoedd o brinder adnoddau a chystadlu am ofod mewn trefi'n golygu bod byd natur, ardaloedd gwyrdd a pharciau hanesyddol wedi cael eu hesgeuluso neu eu colli o lawer o gymdogaethau.
Mae ein menter strategol newydd, Trefi a Dinasoedd Natur, yn anelu at alluogi 100 o leoedd ar draws y DU i drawsnewid mynediad i fannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol a dod â byd natur yn agosach at ein cartrefi fel y gallwn i gyd ei fwynhau.
Fe’i cefnogir gan bartneriaeth rhyngom ni, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Natural England, gan gydweithio’n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru, NatureScot ac Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon.
Mae’n bleser gennym fod yn rhan o’r fenter bartneriaeth hon i sicrhau bod byd natur yn cael ei hyrwyddo ar draws ein hamgylcheddau trefol ac ym mhob cwr o'r DU.
Eilish McGuinness, Prif Weithredwr, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Trwy gydweithio â chynghorau i siapio’r fenter, adeiladu rhwydweithiau cryfion a darparu ariannu, byddwn yn helpu darparu strydoedd mwy gwyrdd yn llawn coed, llwybrau ar lannau afonydd a chamlesi a pharciau hanesyddol yn llawn egni a bywyd.
Ariannu newydd ar gael
Fel rhan o’r fenter, rydym wedi ymrwymo £15m i gefnogi awdurdodau lleol a phartneriaid cymunedol ar draws y DU i roi treftadaeth naturiol a seilwaith gwyrdd wrth wraidd eu cynlluniau, eu blaenoriaethau a’u buddsoddiad, gan wella cydnerthedd hinsawdd eu lleoedd a galluogi mynediad i bawb.
Bydd un rownd o ariannu a bydd grantiau ar gael rhwng £250,000 ac £1m.
Beth rydym yn chwilio amdano
Rydym am ariannu prosiectau sy’n canolbwyntio ar adeiladu capasiti a fydd yn galluogi awdurdodau lleol a’u partneriaid i roi mannau gwyrdd cyhoeddus fel parciau, llwybrau cerdded llinellol, safleoedd natur a gerddi cymunedol wrth wraidd eu ffordd o feddwl er mwyn gwireddu’r manteision ar gyfer iechyd, ffyniant, treftadaeth, byd natur a balchder lleol.
Dylai eich cais nodi pa adnoddau neu gefnogaeth y bydd eu hangen arnoch. Er enghraifft: arbenigedd ychwanegol i ennyn diddordeb cymunedau lleol, datblygu partneriaethau neu ddatgloi buddsoddiad newydd.
Sut i wneud cais
Darllenwch arweiniad ymgeisio llawn y grantiau Trefi a Dinasoedd Natur.
Rydym yn derbyn Mynegiadau o Ddiddordeb tan 12 hanner dydd ar 12 Tachwedd 2024.
Os bydd eich cynnig cychwynnol yn llwyddiannus, fe gewch eich gwahodd i gyflwyno cais llawn rhwng 16 Rhagfyr 2024 a 7 Mawrth 2025.
Cadw lle ar weminar am ddim
Edrychwch ar recordiad gweminar Cyflwyniad i Drefi a Dinasoedd Natur i gael gwybod mwy am y cyllid sydd ar gael. Mae mwy o ddigwyddiadau'n dod yn fuan, gan gynnwys gweminarau thema. Archebwch eich lle.
Buddion a chefnogaeth ychwanegol
Bydd yr holl brosiectau a ariennir yn cael eu cefnogi gan rwydwaith o arbenigwyr o'r sefydliadau partner, a fydd yn darparu cyngor am ddim ar bynciau fel cynllunio seilwaith gwyrdd, ymgysylltu cymunedol a chyllid gwyrdd.
Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Mae’n bleser gennym fod yn rhan o’r fenter bartneriaeth hon i sicrhau bod byd natur yn cael ei hyrwyddo ar draws ein hamgylcheddau trefol ac ym mhob cwr o'r DU.
“Mae’n gweddu i’n huchelgeisiau i gynyddu ein cefnogaeth i brosiectau strategol sy’n helpu cynefinoedd a rhywogaethau i ffynnu, ac yn isafu a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, ac ar yr un pryd mae'n helpu pobl a chymunedau i gysylltu â’n treftadaeth naturiol unigryw ac yn cefnogi ein gweledigaeth i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.”
Mwy o wybodaeth
Ewch i'r wefan Trefi a Dinasoedd Natur i gael gwybod mwy am uchelgeisiau'r bartneriaeth hon. Bydd y wefan yn parhau i gael ei diweddaru fel hyb dysgu, a bydd astudiaethau achos a newyddion yn cael eu rhannu arno.