Ardaloedd Ffocws
Beth yw Ardal Ffocws?
Yn ein Fframwaith Ariannu Strategol 2019–2024 fe wnaethom nodi 13 o leoedd – 'Ardaloedd Ffocws' – a oedd yn hanesyddol wedi derbyn lefelau is o fuddsoddiad gennym ni ac a ddangosodd y dystiolaeth uchaf o angen yn seiliedig ar ddata o'r Mynegai Amddifadedd Lluosog.
Roedd hyn mewn ymateb i ymgynghoriad â chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, a nododd awydd i weld arian a godwyd gan y Loteri Genedlaethol yn cael ei dargedu at y cymunedau a fyddai'n elwa fwyaf ohono.
Y 13 lle:
- Brent (Llundain a'r De)
- Corby (Canolbarth a Dwyrain Lloegr)
- Enfield (Llundain a'r De)
- Knowsley (Gogledd Lloegr)
- Inverclyde (Yr Alban)
- Luton (Canolbarth a Dwyrain Lloegr)
- Newham (Llundain a'r De)
- Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln (Gogledd Lloegr)
- Gogledd Swydd Lanark (Yr Alban)
- Castell-nedd Port Talbot (Cymru)
- Rhondda Cynon Taf (Cymru)
- Tendring (Canolbarth a Dwyrain Lloegr)
- Walsall (Canolbarth a Dwyrain Lloegr)
Ein gwaith yn yr ardaloedd hyn
Cafodd ein gwaith ei arwain gan weledigaeth i dreftadaeth gynnal lleoedd a chymunedau ffyniannus. Mae’r weledigaeth hon yn parhau o dan ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033, a’n menter Lleoedd Treftadaeth.
Drwy gydol 2019–2024 gweithiodd ein timau gydag ystod eang o randdeiliaid yn y 13 ardal – o Awdurdodau Lleol, i sefydliadau treftadaeth, cymunedol a gwirfoddol – i nodi’r ffordd orau o gyflwyno canlyniadau cadarnhaol drwy dreftadaeth.
Yn ymarferol, roedd hyn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi sefydliadau lleol trwy fynediad at ein hariannu:
- gweithio mewn partneriaeth, gan gynnwys gydag arianwyr eraill
- cynlluniau grantiau cymunedol a micro
- y gallu i wahodd ceisiadau'n uniongyrchol neu gyflymu ceisiadau grant lle mae cyfle â therfyn amser yn codi, megis ariannu sylweddol gan y llywodraeth neu ariannu partneriaeth arall
- comisiynu cefnogaeth arbenigol neu adeiladu gallu sefydliadau sy’n cyflwyno prosiectau treftadaeth am y tro cyntaf
Edrych tuag at y dyfodol
Bydd gwaddol ein gwaith yn yr ardaloedd hyn yn parhau. Er i ni nodi lleoedd newydd sydd angen ein cymorth o dan Treftadaeth 2033, gall sefydliadau yn ein Hardaloedd Ffocws barhau i wneud ceisiadau am ariannu a dathlu treftadaeth eu lleoedd.
Gallwch archwilio effaith ein gwaith yn yr Ardaloedd Ffocws isod.
Videos
Gwneud cais am grantiau treftadaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf
Videos
Beth rydym yn ei olygu wrth dreftadaeth?
Projects
Dathlu 100 mlynedd o dreftadaeth chwaraeon Port Talbot
Mae clwb rhedeg ac aml-chwaraeon Port Talbot Harriers yn Ne Cymru wedi derbyn grant o £9,200, i ddathlu ei ganmlwyddiant.
Publications