Fframwaith Ariannu Strategol 2019-2024

Fframwaith Ariannu Strategol 2019-2024

See all updates
Mae'r Fframwaith Ariannu Strategol yma ar gyfer 2019–2024 yn nodi ein gweledigaeth a'r egwyddorion a fydd yn llywio ein buddsoddiad Loteri Genedlaethol am y pum mlynedd nesaf.

Mae'n nodi sut rydym yn:

  • disgwyl buddsoddi tua £1.2 biliwn yn nhreftadaeth y DU
  • yn cyflwyno portffolio symlach o wneud grantiau
  • canolbwyntio fwyfwy ar lesiant, meithrin gallu ac arloesi (yn genedlaethol ac yn rhyngwladol), ymhlith eraill
  • archwilio'r defnydd o fuddsoddiad cymdeithasol
  • ymrwymo i fwy o ddatganoli wrth wneud penderfyniadau

Blaenoriaethau ar gyfer treftadaeth

O fewn ein hymagwedd eang at dreftadaeth yn gyffredinol, rydym wedi nodi dau faes blaenoriaeth sy'n canolbwyntio arnynt yn ystod y cyfnod hwn o bum mlynedd:

  • tirweddau a natur
  • treftadaeth gymunedol

Canlyniad gorfodol

Gofynnwn i bob prosiect gyflawni ein canlyniad cynhwysiant newydd: "bydd ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth".

Blaenoriaethau wedi'u hailffocysu ar gyfer treftadaeth

O effaith barhaus y pandemig COVID-19 i'r argyfwng costau byw, mae treftadaeth a'r DU ill dau'n wynebu heriau mawr.

Rydym yn blaenoriaethu ariannu ar gyfer prosiectau sy'n helpu i gryfhau adferiad a chydnerthedd y sector. Rydym am i'r prosiectau hyn gefnogi lleoedd a chymunedau ffyniannus ar draws y DU. 

Dysgwch ragor am ein Blaenoriaethau ar gyfer Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn y cyfnod hwn.

Ein tystiolaeth

Mae ein cynlluniau ar gyfer 2019–2024 wedi'u seilio ar ystod eang o ymchwil strategol, dadansoddi data a gwerthusiadau o effaith cyllid yn y gorffennol.

  • Adroddiad ymgynghori'r Fframwaith Ariannu Strategol: crynodeb gweithredol - ymchwiliodd arolwg o dros 10,000 o bobl yn y DU i farn y cyhoedd ar dreftadaeth a sut y caiff ei werthfawrogi; a oedd y farn a fynegwyd yn ymchwil chwaraewyr y Loteri Genedlaethol hefyd yn wir am y boblogaeth gyffredinol; a'r hyn yr oedd pobl yn ei feddwl am ein hamcanion strategol arfaethedig. Yn gyffredinol, dilyswyd canfyddiadau ymchwil chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a chytunwyd ar fwyafrif helaeth o bobl â phob un o'n chwe amcan strategol
  • Canfyddiadau'r cyhoedd o dreftadaeth 2018 - ymatebodd pobl o dros 1,500 o sefydliadau i'n hymgynghoriad strategol, a gynhaliwyd ar-lein ac mewn cyfres o ddigwyddiadau ledled y DU. Cafwyd cefnogaeth eang gan randdeiliaid i'n cynlluniau ar gyfer 2019–2024, ac rydym wedi gwneud addasiadau a gwelliannau i rai yng ngoleuni'r safbwyntiau a fynegwyd