Amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai

Amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai

Plentyn ifanc yn cyffwrdd â chraig fawr mewn arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Archwilio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Llun gan: Paul Harris
Mae amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai yn adrodd straeon ein treftadaeth ddiwylliannol. Drwy'r gwrthrychau, y casgliadau, y ffilmiau, y dogfennau a'r hanesion llafar y maen nhw’n eu cadw maen nhw’n helpu i roi ymdeimlad o le a hunaniaeth i ni.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ers 1994 rydym wedi dyfarnu £2.4bn i 5,900 o brosiectau amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a chasgliadau ledled y DU. 

 

Casgliadau Dynamig

Mae ein hymgyrch Casgliadau Dynamig yn cefnogi sefydliadau casglu ledled y DU i ddod yn fwy cynhwysol a gwydn, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu, ail-ddehongli a rheoli casgliadau.

Mae'n dwyn ynghyd gyllid prosiect drwy ein rhaglenni agored, adnoddau digidol a rhannu gwybodaeth.

Darganfyddwch fwy am Gasgliadau Dynamig.

Beth rydym yn ei gefnogi?

Mae ein cyllid yn cefnogi sefydliadau mawr a bach, gan gynnwys:

  • amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai cenedlaethol ac awdurdodau lleol
  • llyfrgelloedd hanesyddol
  • archifau cymunedol
  • sefydliadau sydd â chasgliadau treftadaeth

Syniadau am brosiect

Gall ein cyllid helpu pobl i:

  • adfywio adeiladau a darparu cyfleusterau newydd pwrpasol
  • creu arddangosfa newydd a gofodau dysgu cyffrous
  • adnewyddu llyfrgelloedd, archifau ac orielau arbenigol
  • denu cynulleidfaoedd mwy amrywiol
  • dehongli ac agor caffaeliadau
  • datblygu casgliadau

Am ragor o ysbrydoliaeth, gweler y straeon isod neu porwch drwy brosiectau rydym wedi'u hariannu.

Sut i gael arian

 

Y tu allan i Bwll y Jiwbilî ym Mhenzance
Y tu allan i Bwll y Jiwbilî ym Mhenzance

Straeon

A allech chi fod yn Brosiect Cynaliadwy'r Flwyddyn 2022?

Mae'r wobr hon a noddir gan y Loteri Genedlaethol yn dathlu cynaliadwyedd amgylcheddol mewn amgueddfeydd, treftadaeth a sefydliadau diwylliannol ledled y DU. Mae angen cymryd camau brys ar gyfer ein hamgylchedd, ac mae'r wobr hon wedi'i datblygu mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac ecolegol