Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol 2022 ar agor! Pwy fydd yn cael eich pleidlais chi?
Ers 1994, mae’r Loteri Genedlaethol wedi codi mwy na £46 biliwn at achosion da. O hyn, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi dosbarthu dros £8.4bn i fwy na 49,000 o brosiectau treftadaeth ledled y DU.
Bob blwyddyn, mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn dathlu’r bobl a’r prosiectau ysbrydoledig sy’n gwneud pethau rhyfeddol gyda chymorth arian y Loteri Genedlaethol.
Enillydd Prosiect y Flwyddyn y Loteri Genedlaethol y llynedd oedd Pollinating the Peak. Roedd y prosiect sydd wedi’i leoli yn Swydd Derby yn brosiect uchelgeisiol a gefnogwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn gweithio’n galed i adfywio niferoedd y cacwn yn y Peak District.
Mae rhestr fer eleni yn cynnwys pum prosiect treftadaeth a ariennir gennym ni - ond pwy fydd yn cael eich pleidlais chi?
South of Scotland Golden Eagle
Mae prosiect South of Scotland Golden Eagle Eryr yn helpu i atgyfnerthu poblogaeth un o rywogaethau eiconig yr Alban, yr Eryr Aur, yn ne’r Alban. Mae hyn yn cael ei wneud trwy gyfres o drawsleoliadau dros gyfnod o 5 mlynedd.
Derbyniodd y Southern Uplands Partnership grant y Loteri Genedlaethol o £1,679,600 tuag at y prosiect, yn ogystal ag arian gan bartneriaid y prosiect a Llywodraeth yr Alban.
Ym mis Mawrth 2022, cynyddodd techneg ymchwil newydd y prosiect, o dan drwydded gan NatureScot, nifer yr Eryrod Aur yn Ne’r Alban i 33. Dyma’r nifer uchaf a gofnodwyd ers dechrau’r 19eg ganrif.
Pleidleisiwch ar wefan Achosion Da y Loteri neu drwy rannu #NLAGoldenEagle ar Twitter.
Museum of Homelessness
Sefydlwyd y Museum of Homelessness yn 2015 ac mae’n cael ei chreu a’i rhedeg gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd. Mae'r amgueddfa'n gweithio i adeiladu'r casgliad cenedlaethol cyntaf ar gyfer digartrefedd yn y DU.
Derbyniodd y sefydliad grant o £9,000 yn 2017 i helpu i ddechrau ei gasgliad. Ers hynny maent wedi derbyn grant pellach o £98,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a arweiniodd at y ‘Secret Museum’, sef arddangosfa drochi 11 diwrnod. Trwy Secret Museum buont yn arddangos 11 stori gwrthrych a gasglwyd gan ystod o bobl, gyda hanner ohonynt wedi profi digartrefedd yn y pandemig. Cafodd gwaith dau artist yr effeithiwyd arnynt gan ddigartrefedd ei arddangos hefyd.
Enillodd y Secret Musem y Wobr Amgueddfeydd a Threftadaeth (2022) am yr arddangosfa dros dro/deithiol orau.
Pleidleisiwch ar wefan Achosion Da y Loteri neu drwy rannu #NLAHomelessness ar Twitter.
An Tobar
Sefydlwyd An Tobar CIC gan y chwiorydd Margaret a Kathleen yn 2018. Mae’n ganolfan llesiant cymunedol a fferm gymdeithasol sy’n ceisio cysylltu pobl â byd natur i wella eu hiechyd corfforol a meddyliol.
Dyfarnwyd grant Loteri Genedlaethol o £61,900 iddynt yn 2021 i helpu pobl i gysylltu â threftadaeth yn Brian’s Wood, Silverbridge. Crëwyd Brian’s Wood yn 2019, ar ôl i fwy na 13,000 o goed gael eu plannu gan y chwiorydd er cof am eu hewythrod.
Helpodd y prosiect i An Tobar gynnal 60 o weithdai natur a threftadaeth ddiwylliannol, gwella mynediad i Brian’s Wood a gweithredu cynllun digidol a helpodd i hyrwyddo treftadaeth y goedwig i gynulleidfa ehangach fyth trwy wefan newydd a deunyddiau dysgu rhyngweithiol.
Pleidleisiwch ar wefan Achosion Da y Loteri neu drwy rannu #NLAATobar ar Twitter.
Arddangosfa y Millennium Falcon
O galacsi ymhell, bell i ffwrdd i Ddoc Penfro – mae’r stori am sut yr adeiladwyd llong seren eiconig y ffilmiau Star Wars yn cael ei hadrodd, diolch i grant o £8,000 gan y Loteri Genedlaethol.
“Cyfrinach waethaf” gorllewin Cymru oedd, ym 1979, i’r model maint bywyd cyntaf erioed o’r llong seren gael ei hadeiladu ar gyfer y ffilm The Empire Strikes Back mewn awyrendy awyren o’r Ail Ryfel Byd yn nhref Doc Penfro, a enillodd Oscar.
Mae'r arddangosfa barhaol yng Nghanolfan Dreftadaeth Doc Penfro ac yn cynnwys ffotograffau, darnau o ffilm nas gwelwyd o'r blaen, tystiolaeth gan yr adeiladwyr llongau a model manwl yn dangos gwahanol gamau'r adeiladu.
Pleidleisiwch ar wefan Achosion Da y Loteri neu drwy rannu #NLAPembrokeDockFalcon ar Twitter.
The World Reimagined
Mae The World Reimagined yn brosiect ledled y DU i drawsnewid sut rydym yn deall Masnach Drawsatlantig Caethweision Affricanaidd a’i heffaith ar bob un ohonom.
Mae’r rhaglen bwysig hon wedi derbyn grant o £250,000 gan y Gronfa Treftadaeth, ynghyd â chyllid gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Mae’r prosiect yn galluogi cymunedau sy’n newydd i’r dreftadaeth hon i ymgysylltu mewn ffordd hygyrch trwy gelf, cymunedau, hanes a dysg.
Mae casgliad Journey of Discovery yn cynnwys mwy na 300 o straeon a gyfrannwyd gan ymchwilwyr, academyddion a sefydliadau, megis hanes cerddoriaeth Ddu a’i chyfraniad at hunaniaeth Brydeinig. Mae hyn yn ategu llwybrau glôb a ddyluniwyd gan artistiaid sy'n cymryd rhan mewn dinasoedd cynnal; Bryste, Birmingham, Leeds, Caerlŷr, Rhanbarth Dinas Lerpwl, Llundain ac Abertawe.
Pleidleisiwch ar wefan Achosion Da y Loteri neu drwy rannu #NLAReimagined ar Twitter.
Darganfod mwy a bwrw eich pleidlais heddiw
Ymwelwch â gwefan Achosion Da y Loteri i weld y rhestr lawn o brosiectau ac i fwrw eich pleidlais. Mae'r pleidleisio yn cau ddydd 12 Hydref am 5pm.
Mae’r enillwyr yn derbyn £5,000 a thlws Gwobrau’r Loteri Genedlaethol, a byddant yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Oes gennych chi syniad am brosiect?
Oes gennych chi syniad ar gyfer eich prosiect eich hun a allai wneud gwahaniaeth i bobl a threftadaeth yn y DU? Dysgwch fwy am yr hyn rydym yn ei ariannu a chysylltwch â'ch tîm lleol i drafod eich syniad ymhellach.