Digwyddiadau am ddim i’r teulu yn ystod gwyliau’r haf
Gwylio dolffiniaid yn y Picnic Mawr Bywyd Gwyllt
Fel un o'r llefydd gorau yn Ewrop i weld dolffiniaid trwynbwl, dylai Aberdeen fod eich cyrchfan nesaf ar gyfer hwyl y môr. Ar 17 Awst, mae Dolphinwatch yn cynnal picnic i deuluoedd dreulio amser gyda'i gilydd tra'n darganfod y bywyd gwyllt o'u cwmpas. Rhai o’r eitemau cyffrous ar yr agenda yw teithiau natur, sgramblo pwll creigiog a gwylio dolffiniaid.
Cymryd rhan mewn dathliadau
Ddwy flynedd ar ôl cynnal y prosiect adnewyddu mawr, mae gan y Piece Hall lawer o bethau i’w gwneud ar gyfer ymwelwyr. Un o'r uchafbwyntiau yw gŵyl Sunday Street Festival sy'n cael ei chynnal ar 4 Awst, gyda phethau hwyliog i'r teulu cyfan gan gynnwys perfformiadau syrcas, gweithdai, theatr a cherddoriaeth.
Plymiwch i foroedd Cymru
Mae Prosiect Moroedd Byw Cymru yr Ymddiriedolaeth Natur yn ailgysylltu pobl â byd cefnfor cyfoethog na ellir ei weld yn hawdd. Ymunwch â nhw ar 7 Awst ar gyfer hwyl deuluol ar lan y môr, gan gynnwys trip rhith-wirionedd i'r cefnfor! Yn ôl ar dir sych, byddant yn chwilio'r traeth am greaduriaid ac yn rhannu straeon.
Gwrandewch ar gerddoriaeth fyw yn Hanley Park, Stoke-on-Trent
Bydd cyngherddau’n cael eu cynnal ar y bandstand ym Mharc Hanley bob dydd Sul tan ddiwedd Awst. Y Bandstand yw trysor o'r hyn sy'n un o'r parciau Fictoraidd mwyaf yn y DU, a ailagorwyd yn ddiweddar ar ôl gwaith adfer gwerth £4.5miliwn gan y Loteri Genedlaethol. I'r rhai sydd am fod yn fwy egnïol, mae'r parc hefyd yn cynnal sesiynau aml-chwaraeon a gweithgareddau am ddim ar ddydd Iau i blant 5-12 oed.
Cefnogi rhywogaethau sydd mewn perygl
Mae hwyl i’w gael ar hyd y ffordd i helpu i achub rhai o'r rhywogaethau mwyaf mewn perygl yn y wlad, gyda Back from the Brink. Mae celf a chrefft, cwisiau a creu zine yn un o filoedd ar filoedd o’r pethau hwylus i’w gwneud ledled Lloegr yr haf yma.
Hawlio strydoedd yn ôl yng Nghaerlŷr
Bob Sul olaf o'r mis tan fis Hydref, mae strydoedd Caerlŷr wedi'u cau ar gyfer ceir ac wedi’u hagor i bobl eu mwynhau. Defnyddia Open Streets Greyfriars lleoliadau hanesyddol nad yw ar gael yn aml ar gyfer gemau am ddim, arddangosfeydd, teithiau hanesyddol, gweithdai a llawer mwy. Mae'r themâu misol sydd i ddod yn cynnwys Caerlŷr Fictoraidd, Brenin Richard III a Chaerlŷr yn ystod y rhyfel.
Cyfri glöynnod byw'r genedl
Nid yw cymryd rhan yn yr arolwg mwyaf o löynnod byw yn y byd erioed wedi bod mor haws. Mae’r big butterfly count wedi creu ap defnyddiol ar gyfer ffôn clyfar y gallwch gofnodi faint o löynnod byw a gwyfynod a welwch mewn 15 munud. Mae peidio â gweld glöynnod byw yn wybodaeth ddefnyddiol hefyd! Gallwch helpu i fesur iechyd ein hamgylchedd yn unrhyw ledled y DU tan 11 Awst.
Parti yn y Parc
Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn y golygfeydd hardd o Gerddi Castell Antrim, sy'n 400 mlwydd oed, yr haf yma. Ar 3 Awst, bydd yr wythfed Parti yn y Parc yn llawn gweithgareddau hwyliog fel golff gwallgof, paentio wynebau a thrampolinau. Ar 10 Awst, gwahoddir plant i fynd i chwilio am fwystfilod bach a darganfod byd pryfed gyda chymorth ceidwad parc. Fel arall, gallwch fwynhau cerddoriaeth fyw bob prynhawn Sul tan ddiwedd y tymor.
Anfarwoli eich hoff lefydd mewn cerddi
Rhannwch eich safbwyntiau ar amrywiaeth, treftadaeth neu bersonoliaeth lle yng Nghymru neu Loegr drwy ysgrifennu cerdd a'i phinio ar fap rhyngweithiol Mannau o Farddoniaeth. Gallwch ymuno â bardd preswyl lleol mewn digwyddiadau sy'n amrywio o weithdai i raglenni a theithiau cerdded hanesyddol. Mae digwyddiadau ar y gweill yn cael eu cynnal mewn lleoliadau fel Mur Hadrian, Coedwig Sherwood a'r Peak District, fodd bynnag nid oes rhaid i chi fynd i un i gyfrannu at y map – dim ond ysgrifennu lle bynnag yr ydych!