Cofio oes aur pop a roc Arberth
Bellach, mae grant gan y Loteri Genedlaethol yn golygu y bydd y neuadd yn gartref i arddangosfa barhaol i'w gefndir roc gan ddefnyddio eitemau cofiadwy a straeon o’r cyfnod a gasglwyd gan grŵp o wirfoddolwyr.
O glwb cymdeithasol pêl-droed i frenhiniaeth bandiau roc
Fe wnaeth yr hyn a ddechreuodd fel menter codi arian gan ddau ŵr lleol ar gyfer clwb cymdeithasol eu tîm pêl-droed arwain at lu o fandiau newydd yn teithio i Orllewin Cymru i chwarae yn Neuadd Queens yn Arberth.
Roedd Richard Fanus ar bwyllgor clwb pêl-droed Arberth yn yr 1960au a’r 70au:
"Arberth oedd y lle i fod. Byddai plant yn dod i’r dref a byddai Neuadd Queens yn llawn dop bob amser. Fe wnaeth y gigiau godi digon o arian i’r pwyllgor adeiladu clwb pêl-droed newydd sbon. "
Ymhlith ei hoff atgofion mae'r adeg pan fu’r Alan Price Set yn yfed te yn ystafell fyw aelod arall o’r pwyllgor ar ôl eu gig, a phan gyrhaeddodd Freddie and the Dreamers yn Arberth yn gynnar:
"...felly fe wnaethon nhw roi sioe gynnar ychwanegol i'r sgowtiaid – roedd y neuadd yn llawn pobl ifanc!
“Ar adeg arall ‘roedd Hot Chocolate i fod i chwarae ar ddydd San Steffan, 1969, ond roedd hi’n bwrw eira yn drwm iawn ac fe wnaethon ni sylweddoli na fydden nhw’n gallu cyrraedd y dref. Fe wnaethon ni anfon neges i Bont Hafren ac fe wnaethon nhw osod arwydd mewn llawysgrifen ar y bont yn dweud wrth Hot Chocolate bod y gig wedi’i ganslo. Fodd bynnag, nid oedden nhw wedi’i weld ac fe wnaethon nhw yrru i Arberth yn eu Cadillac drwy 12 modfedd o eira!"
Gwireddu breuddwydion plant yn eu harddegau
Bu cerddorion a ddaeth yn enwau cyfarwydd yn ddiweddarach - Elton John, Status Quo, Deep Purple, Dave Dee, Alan Price, the Mindbenders, Desmond Dekker, Hot Chocolate ac Average White Band - i gyd yn perfformio ar lwyfan Neuadd Queens i gynulleidfaoedd o hyd at 1,000 o bobl.
Mae Janet Mason yn cofio gweld y band pop Amen Corner yn 14 mlwydd oed yn Neuadd Queens:
"Roedd y cyfan yn anhygoel. Roedd y neuadd yn orlawn; roedd hi mor boeth nes bod yr anwedd yn diferu oddi ar y nenfwd. Roedd tua 1,000 o bobl yn y neuadd – dim iechyd a diogelwch bryd hynny wrth gwrs. Doedden ni ddim yn gallu credu ein lwc bod y bandiau yma oedd wedi bod yn chwarae yn Llundain yn chwarae yma yn Arberth!"
Dros y blynyddoedd nesaf manteisiodd Janet ar yr holl fandiau roc a gamodd ar lwyfan Neuadd Queens, gan lunio llyfr lloffion gyda thocynnau, taflenni a llofnodion yn ogystal â chofroddion fel tant gitâr Rick Parfitt.
Un o'i hoff atgofion yw Ivor Badham o bwyllgor y clwb pêl-droed yn galw heibio i swyddfa'r cyfrifwyr lle roedd hi’n gweithio ac yn gofyn pa fand yr hoffai ei weld yn chwarae yn Neuadd Queens nesaf:
“Mi wnes i ddweud Love Affair, ac ychydig wythnosau’n ddiweddarach daeth Ivor draw i fy ngweld ddweud ei fod wedi’u cael nhw! Roeddwn i mor gyffrous ond pan ddaethon nhw i Arberth roeddwn i'n sâl yn yr ysbyty ac yn methu mynd i'w gweld. Daeth Ivor i'm gweld yn yr ysbyty a rhoi llun i mi gyda'u llofnodion – roeddwn wrth fy modd. "