Creu lle i arloesi: dathlu ein carfan gyntaf o fforwyr Cronfa Arloesedd Treftadaeth
Nid yw arloesi'n hawdd. Mae'n anghyfforddus. Yn wir, pan fûm yn gweithio gyda grantïon y Gronfa Arloesedd Treftadaeth yn ddiweddar, fe wnaethant ddisgrifio arloesedd fel “bod mewn ystafell dywyll a heb wybod pa ffordd i droi, yn chwilio am lygedyn bach o olau yn tywynnu drwy ffenestr yn rhywle”.
Mae angen amser ar sefydliadau i fforio
Er bod arloesi, bron yn ôl ei ddiffiniad, yn ei gwneud yn ofynnol i ni edrych ymlaen, weithiau mae'n ddefnyddiol edrych yn ôl â llygaid newydd hefyd.
Fel y dywedodd Brent Woods, Cyfarwyddwr Archifau Ffilm Swydd Efrog a Gogledd Ddwyrain Lloegr, yn ystod ein gweithdy myfyrio terfynol: “Am filoedd o flynyddoedd, rydyn ni wedi rhannu ein treftadaeth trwy rannu straeon ein gorffennol, ond mae perygl i ni i gyd os na fyddwn hefyd yn datblygu sgiliau'r hyn a allai fodoli, sut y gallai'r dyfodol edrych ar gyfer ein sefydliadau a sut rydym yn rhannu’r straeon hynny mewn ffordd newydd, mewn byd sy’n newid. Wrth ganolbwyntio mor agos ar ddiogelu’r gorffennol, nid ydym o reidrwydd wedi cydnabod nac adeiladu’r sgiliau i ystyried yr arloesedd sydd ei angen i fod yn gydnerth yn y byd o newid sydd ohoni, ac i barhau i rannu ein storïau am flynyddoedd lawer.”
Ceisiodd rhaglen beilot y Gronfa Arloesedd Treftadaeth wneud hynny’n union, drwy gyfuniad o gymorth ariannol a chymorth dysgu. Bu i ni, yn Sefydliad Young, weithio gyda'r garfan o 35 o sefydliadau a ariannwyd ar gyfer y cam cyntaf, gyda'r teitl priodol 'fforio’.
Mae'n cymryd chwilfrydedd a pharodrwydd i gamu tua'r hyn sy'n anhysbys
Dros y chwe mis diwethaf, mae’r garfan hon wedi mynd i’r afael yn feddylgar â rhai heriau hirsefydlog a pharhaus o ran y gweithlu, y mae llawer ohonynt fel arall wedi’u gwthio o’r neilltu gan ofynion trwm y gwaith bob dydd.
Mae eu prosiectau'n cwmpasu meysydd amrywiol - o archwilio llwybrau mynediad i gadwraeth ffilm i datblygu llwyfan mapio archeolegol, ac archwilio cyfleoedd i bobl ifanc a gwirfoddolwyr.
Yn gyffredinol, bu ffocws mawr ar gydweithio ar draws y sector. Mae eu chwilfrydedd a’u parodrwydd i gamu i fyd anhysbys i ddysgu, herio rhagdybiaethau, ac adeiladu cyhyrau arloesi wedi bod yn drawiadol wrth i ni gychwyn ar daith ddysgu ar y cyd, gan gymryd naid gyda'n gilydd.
Roedd profiad ac arbenigedd unigryw y garfan yn seren arweiniol wrth i ni weithio drwy ymagwedd 'meddwl yn null systemau' at arloesi o fewn y sector treftadaeth (gweler mwy isod). Rôl Sefydliad Young oedd creu amgylchedd diogel i’r sefydliadau adeiladu ar eu pŵer, eu hasiantaeth a’u dylanwad o fewn y sector treftadaeth, yn unigol ac ar y cyd.
Mae grym mewn dysgu gan gymheiriaid
Nid oes unrhyw gwricwlwm penodol ar gyfer arloesi ac roedd gan bob un o aelodau ein carfan anghenion amrywiol a dargyfeiriol ar gyfer eu heriau penodol. Daeth dylunio rhaglen ddysgu'n llai am y cynnwys ac yn fwy am greu gofodau amrywiol i’r grŵp ddod at ei gilydd. Trwy gyfuniad o sesiynau grŵp bach, sesiynau dysgu carfan lawn, dosbarthiadau meistr, hyfforddiant 1:1 a dysgu dan arweiniad cymheiriaid, roedd y grŵp yn gallu gweld y synergeddau yn eu gwaith a rhannu adnoddau.
Mae cydnabod bod angen gwahanol ymagweddau dysgu ar unigolion yn golygu cynnig gofod hyblyg, a ategir gan ymrwymiadau cymunedol a rennir. Mae'n golygu digon o amser i gymathu deunyddiau cyn trafodaethau grŵp a chymysgedd o gynnwys gweledol, llafar ac ysgrifenedig.
Roedd y garfan yn cynnwys sefydliadau bywyd gwyllt sy'n delio â’r un heriau ag amgueddfeydd, a sefydliadau celf yn gweithio ochr yn ochr â garddwriaeth a thrafnidiaeth. Mae pwyntiau tebygrwydd ymhlith grŵp mor amrywiol o sefydliadau'n dechrau creu gwe o ddysgu ar draws y maes treftadaeth sy’n gweddu i anghenion bythol newidiol y bobl a’u perthnasoedd yng nghalon y gweithlu.
Ffyrdd o fynd ati i arloesi
Mae ein fforwyr dygn wedi elwa o nifer o offer a fframweithiau.
Diagnosio problemau
Mae grym mawr mewn gweld heriau o ystod o wahanol safbwyntiau, a gwahanol gysgodion o ddealltwriaeth i'w darganfod wrth godi cydrannau sy'n flêr ac yn llawn ansicrwydd. Mae’r broses honno’n gofyn am lawer iawn o ddysgu ar y cyd i ddeall y broblem yn llawn.
Er enghraifft:
Cydran | Technegol | Ymaddasol |
---|---|---|
problem | clir | angen dysgu |
ateb | clir | angen dysgu |
gwaith pwy ydyw? | arbenigwyr, awdurdod | rhanddeiliaid |
math o waith | effeithlon | gweithredu'n arbrofol |
amserlen | CGâPh | tymor hwy |
disgwyliadau | trwsio'r broblem | gwneud cynnydd |
agwedd | hyder, sgil | chwilfrydedd |
Model y mynydd iâ
‘Mae 'meddwl yn null systemau' yn ffordd o fynd i'r afael â phroblemau sy'n gofyn sut mae elfennau amrywiol o fewn system yn dylanwadu ar ei gilydd. Meddyliwch am fynydd iâ, sydd â dim ond 10% o'i gyfanswm màs uwchben y dŵr. Gyda her gweithlu, mae yna lawer iawn yn yr un modd sy'n eistedd 'o dan yr wyneb’. Mae'n bwysig mynd yn ddyfnach, heibio'r symptomau amlwg, ac archwilio'r patrymau, y strwythurau a'r ffyrdd o feddwl sy'n ffurfio'r 90% sy'n weddill o'r her gweithlu.
Chwarae difrifol
Mae ymchwil seiliedig ar y celfyddydau'n ddull hwyliog ac effeithiol o archwilio profiad goddrychol pobl. Drwy gydol cyfnod ‘archwilio’ y prosiect hwn, bu’n rhaid i’r sefydliadau gywain tystiolaeth trwy ddulliau ymchwil amrywiol, megis grwpiau ffocws a chyfweliadau. Trwy annog gweithgarwch dychmygus di-eiriau – llunio ac adeiladu gweledigaeth gweithlu treftadaeth ar gyfer y dyfodol mewn ffordd lythrennol – cafwyd rhai mewnwelediadau disglair.
Gellir darllen mwy o'r ymagweddau arloesi a archwiliwyd gan Sefydliad Young gyda'r garfan drwy gyfres blogiau Archifau Ffilm Swydd Efrog a Gogledd Ddwyrain Lloegr, Unlocking Innovation.
Symud tuag at y golau fel bod yr hud yn digwydd
Trwy'r prosiect hwn, rydym wedi gweld gwneuthurwyr newid treftadaeth ac arweinwyr sector sydd, trwy gysylltu a chydweithio, wedi dod yn fwy hyderus i wynebu'r hyn sy'n anhysbys ac ymgorffori diwylliant arloesi yn eu sefydliadau.
Mae'r sgil-effeithiau eisoes yn ymddangos a, chan adeiladu ar y momentwm hwn, dyfarnwyd ail gam o ariannu i 17 o'r garfan i ddatblygu a phrofi eu syniadau ymhellach.
Mae'r bobl hyn yn darganfod y 'llygedyn hwnnw o olau yn yr ystafell dywyll’. Y man hwnnw lle mae arloesedd yn dechrau mynd yn gyffrous. A'r egni sy'n deillio ohono - er ei fod weithiau'n boenus o araf - dyna pan fydd yr hud yn digwydd. Edrychwn ymlaen at gydweithio â nhw eto i gyflawni hynny.