Naw moment dreftadaeth 'drawsnewidiol' a wnaed yn bosibl gan arian y Loteri Genedlaethol
Ers iddi lansio ym 1994, mae'r Loteri Genedlaethol wedi codi mwy na £50biliwn ar gyfer achosion da. Rydym wedi dosbarthu dros £8.6bn o hynny i fwy na 47,000 o brosiectau treftadaeth ar draws y DU.
Mae'r prosiectau hyn yn aml yn benllanw blynyddoedd o ymroddiad, cred a gwirfoddoli. Maent yn dod â phobl a chymunedau ynghyd ac yn adeiladu balchder yn eu lle.
I nodi pen-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 30 heddiw – a 30 mlynedd o ariannu ar gyfer treftadaeth – mae 30 o fomentau trawsnewidiol yn cael eu harddangos mewn arddangosfa ffotograffiaeth greadigol a gyflwynir gan yr Oriel Bortreadau Genedlaethol.
Mae’r artist Thomas Duke wedi defnyddio techneg llun-mewn-llun, gan gymysgu’r gorffennol a’r presennol, i ail-greu rhai o’r cyflawniadau pwysicaf a mwyaf eiconig sydd wedi bod yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Uchafbwyntiau treftadaeth
Ymhlith y momentau a ddewiswyd mae naw prosiect treftadaeth a dderbyniodd ariannu sylweddol gan y Loteri Genedlaethol.
The Eden Project

Canolfan Ymwelwyr Sarn y Cawr

Amgueddfa'r Mary Rose

Parc Bletchley

Ail-gladdwyd Richard III yn Eglwys Gadeiriol Caerlŷr

Ailgyflwynwyd Eryr aur

Gosodiad celf y Cofio 'Poppies: Wave and Weeping Window'

The Flying Scotsman

Fern the Diplodocws

Ysbrydoli pobl a balchder
Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Mae’r Loteri Genedlaethol wedi trawsnewid treftadaeth, gan ariannu miloedd o brosiectau ar draws y DU i ysbrydoli pobl, cysylltu cymunedau a chreu balchder yn y lleoedd rydym yn byw ac yn gweithio ynddynt.
“Mae cofnodi'r momentau trawsnewidiol hyn yn adlewyrchu ein treftadaeth hynod amrywiol – o’r archeoleg o dan ein traed, adeiladau hanesyddol a’n hetifeddiaeth forol, i atgofion a chasgliadau amhrisiadwy, tirweddau syfrdanol, parciau a bywyd gwyllt prin.
“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol dros y 30 mlynedd diwethaf, a’r rhai sydd i ddod, byddwn yn gwerthfawrogi ac yn gofalu am ein treftadaeth a rennir ac yn ei chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol.”
Bwrw golwg ar bob un o'r 30 o ffotograffau yn yr arddangosfa Game Changing Moments ar wefan yr Oriel Bortreadau Genedlaethol. [dolen: https://www.npg.org.uk/GameChangingMoment ]
Cymerwch ran
Dathlwch ben-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 30 oed a’r rhai sydd wedi gwneud y momentau hyn yn bosibl trwy rannu hunlun bysedd croes ar gyfryngau cymdeithasol heddiw (19 Tachwedd). Tagiwch ni yn @HeritageFundCYM a defnyddiwch yr hashnod #DiolchiChi yn eich postiadau.