Dyfarniad o £10 miliwn i hybu tirweddau naturiol gwarchodedig Cymru

O adeiladu tyrau ystlumod i ddarparu hyfforddiant mewn rheolaeth cefn gwlad, bydd yr ariannu'n helpu pobl i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi adferiad byd natur.
Drwy gysylltu cymunedau a chynefinoedd, bydd y prosiectau llwyddiannus yn gwella cyflwr a chydnerthedd ardaloedd gwarchodedig Cymru o dir a môr, gan helpu byd natur i ffynnu.
Cefnogi sgiliau a rhywogaethau
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn derbyn £971,888 i drawsnewid calon Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dirwedd fywiog, cydnerth a thoreithiog o fywyd gwyllt.
Nod y prosiect yw adfer 500 hectar o gynefinoedd, ailgysylltu ecosystemau tameidiog a grymuso pobl o bob cefndir i hyfforddi mewn adferiad byd natur.
Bydd hyfforddeion a gwirfoddolwyr yn cael profiad ymarferol mewn hyb newydd ar fferm Tŷ Mawr, a fydd hefyd yn helpu’r gymuned ehangach i gysylltu â byd natur trwy sgiliau cefn gwlad.

Ymhlith y sefydliadau eraill sy’n elwa o’r rownd ddiweddaraf o ddyfarniadau’r Gronfa Rhwydweithiau Natur mae:
- Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent (dyfarniad o £987,929), a fydd yn gweithio gyda phobl ifanc i sicrhau dyfodol yr ystlum pedol lleiaf drwy adeiladu 20 tŵr ystlumod newydd
- Dr Beynon's Bug Farm (dyfarniad o £643,000), a fydd yn gwella Ardal Cadwraeth Arbennig Comin Gogledd Orllewin Sir Benfro ac yn datblygu Canolfan Addysgu Adfer Byd Natur â 100 o seddi
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro (dyfarniad o £995,542), a fydd yn adfer glaswelltir, rhostir, cors, coetir a chynefinoedd arfordirol yn ogystal â darparu hyfforddiant i wirfoddolwyr a thirfeddianwyr
Rydym wedi dosbarthu'r grantiau ar ran Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Ymateb i'r argyfwng natur
Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog sy’n gyfrifol am Newid yn yr Hinsawdd: "Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i warchod treftadaeth naturiol Cymru.
“Trwy gefnogi’r 13 o brosiectau amrywiol hyn ar draws ein cenedl, rydym nid yn unig yn diogelu ecosystemau gwerthfawr ond hefyd yn grymuso cymunedau i ddod yn stiwardiaid eu hamgylcheddau lleol.
“Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn arf hollbwysig yn ein hymateb i’r argyfwng natur, gan ein helpu i adeiladu Cymru fwy cydnerth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol."
Gwarchod treftadaeth naturiol y DU
Gweler y rhestr lawn o brosiectau sydd wedi'u hariannu yn y rownd hon o ddyfarniadau'r Gronfa Rhwydweithiau Natur a chael gwybod sut rydym yn cefnogi byd natur ar draws y DU.