Cynefinoedd ledled Cymru i elwa ar fuddsoddiad hanfodol o £2.7 miliwn
O ddolffiniaid trwynbwl i loÿnnod byw, bydd y cyllid yn helpu sefydliadau a grwpiau cymunedol i wella’r modd y caiff byd natur ei reoli a’i fonitro ar y môr ac ar y tir.
Mae’r prosiectau – sy’n ymestyn o Fae Caernarfon i’r Bannau Brycheiniog – yn cynnwys cynlluniau i ymgysylltu cymunedau Cymreig â rhyfeddodau eu tirweddau lleol a’u bywyd gwyllt.
Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r argyfwng natur, gan gydweithio â sefydliadau a phobl ledled y wlad.
Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Cymru
Gwarchod cynefinoedd hanfodol a rhywogaethau dan fygythiad
Rydym wedi dyfarnu £249,000 i Uned Monitro Teulu’r Morfil y Sea Watch Foundation i nodi a chynyddu amddiffyniad cynefinoedd hanfodol ar gyfer dolffiniaid trwynbwl ym Mae Ceredigion a Bae Caernarfon. Bydd yn hyfforddi cymunedau i fonitro mamaliaid y môr i wella ehangder ei arolwg blynyddol o ddolffiniaid.
Mae Bae Ceredigion yn fagwrfa boblogaidd i’r trwynbwl oherwydd ei gynefin bas, cysgodol. Mae ymchwilwyr yn casglu gwybodaeth am amgylchedd y dolffin a thueddiadau poblogaeth dros ddegawdau. Bydd yr hyfforddiant a'r arolygon yn helpu i ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol o'r mamaliaid poblogaidd hyn.
Mae grantiau diweddaraf y Gronfa Rhwydweithiau Natur hyn hefyd yn cefnogi:
- Gwarchod Gloÿnnod Byw (Butterfly Conservation) (dyfarnwyd £249,995) i ymchwilio i boblogaeth a lledaeniad Gweirlöyn Mawr y Waun (Large Heath butterfly). Bydd hefyd yn ymchwilio i weld a yw presenoldeb y glöyn byw yn arwydd o adfer corsydd yn llwyddiannus a beth arall y gellir ei wneud i warchod mawndiroedd ledled Cymru.
- Yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod (The Bat Conservation Trust) (£245,099) i asesu iechyd amgylcheddau coedwigoedd glaw tymherus ar draws Gogledd Cymru i gynorthwyo cynlluniau cadwraeth ar gyfer rhywogaethau ystlumod sydd dan fygythiad. Bydd hefyd yn hyfforddi gwirfoddolwyr i fonitro cynnydd yr ystlumod.
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (£224,487) i sefydlu partneriaeth rhwng ffermwyr, porwyr a'r sectorau cyhoeddus a phreifat i reoli bioamrywiaeth ac adferiad natur ar Gomin Maenor Penderyn.
Rydym wedi dosbarthu’r grantiau ar ran Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.
Her frys
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies: "Rwy’n falch iawn y bydd 11 o brosiectau eraill yn elwa o gyfran £2.7m o gyllid Llywodraeth Cymru drwy'r Gronfa Rhwydweithiau Natur.
"Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r argyfwng natur, gan gydweithio â sefydliadau a phobl ledled y wlad. Mae'r bartneriaeth hon rhwng Llywodraeth Cymru, y Gronfa Dreftadaeth a Chyfoeth Naturiol Cymru yn allweddol i wneud newid cadarnhaol i bobl a byd natur ledled Cymru."
Darganfod mwy
Archwiliwch fuddsoddiadau diweddar pellach mewn gwarchod coetiroedd Cymru a darganfod mwy am yr amrywiaeth o brosiectau treftadaeth naturiol rydym yn eu cefnogi ledled y DU.