Ariannu gwerth £150miliwn i wella a gwarchod tirweddau safon fyd-eang y DU
Rydym am sbarduno newid systemig a pharhaol ar draws tirweddau gwarchodedig y DU. Dros y 10 mlynedd nesaf byddwn yn buddsoddi mewn tua 20 o brosiectau i weithio gyda chymunedau, sefydliadau, tirfeddianwyr a ffermwyr lleol i gychwyn adferiad tirweddau a chynefinoedd cyfan.
Mae’r ariannu'n agored i’r rhai sy’n gofalu am neu a allai ffurfio partneriaeth â Pharciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Ngogledd Iwerddon, a Pharciau Cenedlaethol a thirweddau safon fyd-eang eraill yn Yr Alban.
Treftadaeth 2033 a’n huchelgais ar gyfer tirweddau
Rydym wedi datblygu Cysylltiadau Tirwedd fel rhan o'n strategaeth Treftadaeth 2033. Bydd yn cefnogi ein tirweddau mwyaf gwerthfawr sy’n wynebu heriau aruthrol oherwydd hinsawdd sy’n newid, newidiadau i amaethyddiaeth a natur a bioamrywiaeth sy’n dirywio’n gyflym.
Fel un o fuddsoddwyr mwyaf y DU mewn tirweddau a threftadaeth naturiol, credwn yn gryf fod pawb yn elwa o dirweddau sy'n gyfoethog o ran natur a phrydferthwch.
Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Ein nod yw cefnogi cynefinoedd a rhywogaethau ochr yn ochr â threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog i greu tirweddau gweithredol sydd wedi’u cysylltu’n well, gan ddileu rhwystrau i fynediad er mwyn i bawb deimlo y gallant gysylltu â byd natur a’r amgylchedd.
Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Mae Cysylltiadau Tirwedd yn fenter uchelgeisiol ac yn cynrychioli ymrwymiad mawr gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol nid yn unig i warchod ein treftadaeth naturiol ond hefyd i’w hadfywio a’i diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Fel un o fuddsoddwyr mwyaf y DU mewn tirweddau a threftadaeth naturiol, credwn yn gryf fod pawb yn elwa o dirweddau sy'n gyfoethog o ran natur a phrydferthwch."
Sut i wneud cais
Mwy o wybodaeth ynghylch gwneud cais am grant Cysylltiadau Tirwedd.
Rydym yn derbyn ceisiadau ar gyfer prosiectau Cysylltiadau Tirwedd trwy Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Os oes gennych weledigaeth ddatblygedig ar gyfer eich prosiect, gallwch wneud cais am grant rhwng £250,000 a £10m. Yn y lle cyntaf, mae'n rhaid i chi gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb.
Os nad ydych yn barod eto, gallwch chi wneud cais am grant rhwng £10,000 a £250,000 i'ch cefnogi i ddatblygu eich cynnig prosiect. Er enghraifft, gallai'r ariannu hwn eich helpu i recriwtio arbenigedd neu adnoddau ychwanegol.
Ein hymrwymiad i ariannu treftadaeth naturiol
Mae Cysylltiadau Tirwedd yn adeiladu ar ein hanes o fuddsoddi dros £2.1 biliwn mewn mwy na 4,900 o brosiectau tir, môr a natur ar draws y DU ers 1994, gan gynnwys:
- Binevenagh and Coastal Lowlands Landscape Partnership
- Coigach and Assynt Living Landscape Partnership
- Tomintoul and Glenlivet Landscape Partnership
- Our Common Cause: Upland Commons
- Tees-Swale: Naturally Connected
- Ynys Cybi: Ynys i’w Thrysori – Our Island Gem
Mae'n rhan o'n gweledigaeth hir dymor i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.
Rydym yn credu y dylai fod gan bawb yn y DU fynediad at dirweddau sy’n gyfoethog o ran natur, dŵr glân ac awyr iach, lleoedd sy’n ysbrydoli gyda'u harddwch a’u treftadaeth ddiwylliannol.
Ochr yn ochr â Chysylltiadau Tirwedd, rydym yn parhau i gefnogi prosiectau tir a natur a phob math o brosiectau treftadaeth eraill gyda grantiau hyd at £10m drwy Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.