Dros £3.5 miliwn o ariannu wedi'i ddyfarnu i goedwigoedd a choetiroedd bach yng Nghymru

Dros £3.5 miliwn o ariannu wedi'i ddyfarnu i goedwigoedd a choetiroedd bach yng Nghymru

Nant wedi'i hamgylchynu gan goed â dail yr hydref arnynt
Credyd: Tim Jones Photography 2015.
Mae dwy rownd newydd o grantiau yn helpu prosiectau ar draws Cymru i greu, adfer neu wella coetiroedd ac ennyn diddordeb cymunedau lleol ym myd natur.

Mae tri deg tri o brosiectau newydd yn cael eu hariannu yn y rownd derfynol o ddyfarniadau'r rhaglenni Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) a Coetiroedd Bach yng Nghymru.

Mae'r ddau gynllun yn rhan o fenter Coedwig Genedlaethol i Gymru Llywodraeth Cymru. Nod y fenter yw mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth a chefnogi iechyd a lles cymunedau trwy greu rhwydwaith o goetiroedd a choedwigoedd sydd wedi'u rheoli'n dda.

Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG)

Mae TWIG yn cynnig grantiau rhwng £40,000 a £250,000 ar gyfer prosiectau i sefydlu neu wella coetiroedd hygyrch sy’n helpu pobl i gysylltu â byd natur. Rydym yn cyflwyno'r rhaglen TWIG mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Ym mhumed rownd y rhaglen, sef y rownd derfynol, mae 20 o brosiectau newydd wedi derbyn grantiau sy'n werth cyfanswm o fwy na £3miliwn. Ymysg y sefydliadau sy’n derbyn grantiau mae:

  • Ymddiriedolaeth Penllergare, sy'n derbyn £249,150 i drawsnewid y dyffryn yn Hyb Coedwig Genedlaethol drwy wella mynediad i goetiroedd hanesyddol a’r Arsyllfa Gyhydeddol.
  • Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn derbyn £248,742 i wella coetir hynafol Gardd Goetir Colby trwy wella llwybrau troed, plannu newydd a pherllan gymunedol.
  • Mae Gerddi Botaneg Treborth yn derbyn £248,308 i adfywio'r Coetir Morwrol a meithrin ymdeimlad o berchnogaeth ymhlith y gymuned trwy raglenni gwirfoddolwyr.
  • Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru'n derbyn £194,929 i adfer fforest law frodorol i Fryn Ifan a chynnwys pobl leol wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
     
Plant yn eistedd ar laswellt ar ymyl coetir yn gwrando ar oedolyn

Coetiroedd Bach yng Nghymru

Mae'r rhaglen hon yn cefnogi sefydliadau i greu Coetiroedd Bach. Tua maint cwrt tennis, mae’r ardaloedd cryno hyn o goetir yn cynnwys dros 20 o wahanol rywogaethau o goed brodorol ac yn cael eu plannu ac yn derbyn gofal gan gymunedau lleol. Rydym yn dosbarthu Coetiroedd Bach yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae'r drydedd rownd o ariannu, sy'n werth mwy na £500,000, bellach wedi'i ddyfarnu i 13 o brosiectau. Rhyngddynt, bydd y prosiectau yn creu 16 o Goetiroedd Bach newydd mewn trefi a dinasoedd ar draws Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: “Yn ddiweddar ymwelais â Choetir Bach yn Llangors ac mae’n enghraifft wych o sut mae’r safleoedd coetir hyn yn galluogi cymunedau i gyrchu byd natur a mannau gwyrdd yn ogystal â chyflwyno bioamrywiaeth doreithiog i ardaloedd trefol.

“Mae’r ardaloedd coetir bach, dwys hyn yn tyfu’n gyflym a gallant ddenu mwy na 500 o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion yn eu tair blynedd gyntaf.

“Mae'n bleser mawr gennyf allu cyhoeddi ein bod wedi dyfarnu gwerth mwy na hanner miliwn o bunnoedd o ariannu i greu mwy o ardaloedd fel hyn ar draws Cymru.”

Mwy o wybodaeth

Mynnwch gip ar y rhestr lawn o brosiectau sydd wedi cael eu hariannu gan rownd pump y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) a chan Goetiroedd Bach yng Nghymru.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...