Mynegiad o Ddiddordeb: Trefi a Dinasoedd Natur
Rhaid i chi gwblhau ein Mynegiad o Ddiddordeb (MoDd) safonol er mwyn ein galluogi i adolygu potensial eich prosiect i gyflawni uchelgeisiau'r fenter strategol Trefi a Dinasoedd Natur.
Pwysig: Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn defnyddio’r un ffurflenni ar draws amrywiaeth o raglenni yr ydym yn eu darparu. Wrth lenwi eich cais, mae'n rhaid i chi ddilyn yr arweiniad isod am fod angen ateb rhai cwestiynau yn wahanol ar gyfer yr ariannu hwn.
Mae cyfrif geiriau'r MoDd yn fwriadol fyr (uchafswm o 1,000 o eiriau) er mwyn lleihau amser ac ymdrech i chi wrth gwblhau'r cam hwn.
Rhaid i chi gyflwyno eich MoDd erbyn 12 hanner dydd ar 12 Tachwedd 2024.
Gwybodaeth ategol ychwanegol
Yn ogystal â chyflwyno MoDd, anfonwch ddogfen Word atom drwy e-bost sy'n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn:
- rhestr o bartneriaid a sefydliadau rydych yn bwriadu gweithio gyda nhw
- Map yn null Arolwg Ordnans o'r ardal gyfan rydych yn bwriadu gweithio ar ei thraws, gyda llinell goch yn dangos y ffiniau. Darparwch y map fel delwedd wedi'i gludo i mewn i ddogfen Word yn hytrach na dolen.
- amcangyfrif o gyfanswm arwynebedd y mannau gwyrdd cyhoeddus yr ydych yn bwriadu gweithio ar eu traws mewn hectarau ac fel canran o ardal gyfan y prosiect
- cyfanswm y boblogaeth sy'n byw yn ardal eich prosiect
Ni ddylai'r ddogfen fod yn hwy na dwy dudalen o A4. Anfonwch hi drwy e-bost i: NTC@heritagefund.org.uk.
Cyn cyflwyno
Cofiwch sicrhau eich bod wedi darllen:
- uchelgeisiau'r fenter hon ar y wefan Trefi a Dinasoedd Natur
- arweiniad ymgeisio Trefi a Dinasoedd Natur
- arweiniad ymgeisio Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: £250,000 i £10m
Cwestiynau'r Mynegiad o Ddiddordeb
Gallwch ddarllen cwestiynau'r Mynegiad o Ddiddordeb isod.
Ydych chi wedi siarad ag unrhyw un yn y Gronfa Treftadaeth ynghylch eich syniad?
Dywedwch wrthym os ydych wedi siarad ag unrhyw un yn y Gronfa Treftadaeth a’n partneriaid neu staff o’r sefydliadau canlynol:
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Natural England
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- NatureScot
- Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon
Dywedwch wrthym beth yw eu henw, teitl swydd a sefydliad.
Disgrifiwch yr hyn y byddwch yn ei wneud yn ystod y prosiect.
Mae gennych 200 o eiriau.
Dywedwch wrthym pam fod angen cynllun uchelgeisiol newydd ar gyfer eich mannau gwyrdd a glas cyhoeddus a pha heriau a chyfleoedd y bydd yn mynd i’r afael â nhw.
Dywedwch wrthym am eich gweledigaeth strategol a'ch uchelgais ar gyfer parciau trefol a mannau gwyrdd.
A oes gennych deitl ar gyfer y prosiect?
Gellir newid hyn unrhyw bryd.
Rhaid rhoi #NTC ar ddechrau teitl eich prosiect fel y gallwn nodi yr hoffech wneud cais am grant Trefi a Dinasoedd Natur.
Amlinellwch sut y bydd eich prosiect yn ymateb i'n pedair egwyddor fuddsoddi.
Mae gennych 300 o eiriau.
Wrth feddwl am bedair egwyddor fuddsoddi’r Gronfa Treftadaeth, dywedwch wrthym sut:
- y bydd eich prosiect yn cefnogi adferiad byd natur trefol ar raddfa fawr ar draws eich ardal
- y byddwch yn gweithio gyda chymunedau lleol ar draws eich ardal i helpu pobl i gael mynediad gwell a mwy cyfartal i fannau gwyrdd cyhoeddus ger eu cartrefi
- y bydd eich prosiect yn defnyddio atebion sy’n seiliedig ar fyd natur i wella iechyd, ffyniant, cysylltiad cymunedol, balchder mewn lle a chydnerthedd hinsawdd
- y bydd eich prosiect yn eich helpu i ddylunio modelau gweithredol ac ariannu newydd i ddatgloi ariannu yn y dyfodol
Dywedwch wrthym am dreftadaeth y prosiect.
Mae gennych 100 o eiriau.
Ar gyfer y fenter hon dywedwch wrthym am ardaloedd o fannau gwyrdd cyhoeddus presennol ac ardaloedd lle y gwelwch botensial i drawsnewid mannau llwyd i fannau gwyrdd.
Dywedwch wrthym am yr ardal ddaearyddol y bydd eich prosiect yn canolbwyntio arni, er enghraifft:
- ardal(oedd) gweinyddol awdurdod(au) lleol
- dinas-ranbarth
- grŵp o drefi
Dywedwch wrthym am y mathau o fannau. Er enghraifft:
- parciau hanesyddol
- mannau gwyrdd cymunedol
- llwybrau gwyrdd llinellol
- mannau newydd
Gofynnir i chi ddarparu map o ffin yr ardal a brasamcan o gyfanswm yr arwynebeddau mewn dogfen ar wahân.
Beth yw’r angen am y prosiect hwn?
Mae gennych 200 o eiriau.
Disgrifiwch unrhyw waith paratoadol yr ydych eisoes wedi cychwyn arno i ddeall anghenion pobl leol a photensial yr ardal lle y byddwch yn gweithio. Dywedwch wrthym a fydd y prosiect hwn yn adeiladu ar waith strategol arall sy’n ymwneud â mannau gwyrdd cyhoeddus neu unrhyw gysylltiadau â gwaith arall.
Faint o amser ydych chi'n meddwl y bydd y prosiect yn ei gymryd?
Mae gennych 50 o eiriau.
Gan dybio mai Gorffennaf 2025 yw'r dyddiad dechrau, dywedwch wrthym faint o amser y bydd eich prosiect yn ei gymryd i'w gyflawni.
Faint mae'r prosiect yn debygol o gostio?
Mae gennych 200 o eiriau.
Gallwch wneud cais am grant rhwng £250,000 ac £1m tuag at gost eich prosiect. Os ydych yn gwybod beth ydyn nhw, dywedwch wrthym am y costau allweddol disgwyliedig. Gall y rhain fod yn amcangyfrifon.
Faint o ariannu ydych chi’n bwriadu gwneud cais amdano gennym?
Nodwch swm. Gallwch wneud cais am grant rhwng £250,000 ac £1m.
Pryd ydych chi'n debygol o gyflwyno cais am ariannu, os gofynnir i chi wneud hynny?
Does dim angen i chi ateb y cwestiwn hwn. Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam MoDd, fe gaiff eich gwahodd i gyflwyno’ch cais erbyn dydd Gwener 7 Mawrth 2025.
Sut i gyflwyno
Pan fyddwch yn barod, cwblhewch y Mynegiad o Ddiddordeb ar ein gwasanaeth Cael eich ariannu ar gyfer prosiect treftadaeth.
Bydd angen i chi gofrestru cyfrif i chi'ch hun ac i'r sefydliad yr ydych yn gwneud cais amdano os nad oes gennych un eisoes.
Clywed yn ôl gennym
Byddwn yn ceisio ymateb i bob MoDd erbyn 13 Rhagfyr 2024.
Os ydych yn llwyddiannus, fe gewch eich gwahodd i gyflwyno cais llawn o 16 Rhagfyr 2024.
Bydd rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais yn cael ei darparu os bydd eich MoDd yn llwyddiannus a rhaid i chi gyflwyno’ch cais erbyn 12 hanner dydd ar 7 Mawrth 2025.
Bydd penderfyniadau ariannu'n cael eu gwneud ym mis Mehefin 2025.