Derbyn eich grant: Trefi a Dinasoedd Natur £250,000 i £1miliwn

Derbyn eich grant: Trefi a Dinasoedd Natur £250,000 i £1miliwn

See all updates
Mae'r arweiniad hwn yn disgrifio sut y byddwch yn derbyn eich grant Trefi a Dinasoedd Natur. Mae hefyd yn esbonio beth rydym yn ei ddisgwyl gennych cyn, yn ystod ac ar ôl ei dderbyn.

Mae Trefi a Dinasoedd Natur yn fenter bartneriaeth rhwng Natural England, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Gronfa Treftadaeth. Rydym hefyd yn cydweithio’n agos â NatureScot, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon.  

Uchelgeisiau Trefi a Dinasoedd Natur

  • rhoi mynediad at natur ac adferiad byd natur wrth wraidd creu lleoedd lleol fel y gellir gwireddu ei fanteision ar gyfer iechyd, ffyniant, byd natur, treftadaeth a balchder lleol
  • cyd-greu strategaethau a chynlluniau gwella mannau gwyrdd uchelgeisiol gyda chymunedau a phartneriaid
  • creu partneriaethau cryfion ac amrywiol rhwng y cymunedau lleol, busnesau ac awdurdodau lleol sy’n canolbwyntio ar rôl mannau gwyrdd a glas trefol er mwyn cyflwyno canlyniadau gwell ar gyfer iechyd, lles, treftadaeth, trafnidiaeth, cynllunio a byd natur 
  • Datblygu cynlluniau gweithredu a fydd yn trawsnewid y ffordd y mae mannau gwyrdd cyhoeddus yn cael eu defnyddio, eu rheoli a’u hariannu er budd pobl a natur. Dylai hyn gynnwys datblygu cynlluniau prosiect wedi'u costio ac ymchwilio i sut i ddatgloi buddsoddiad newydd gan ystod eang o fuddsoddwyr ac arianwyr y tu hwnt i'r Loteri Genedlaethol yn unig.  

Ystyriaethau Trefi a Dinasoedd Natur

  • Canolbwyntio ar yr holl fannau gwyrdd a glas trefol cyhoeddus ar draws lle cyfan. Chi sy'n pennu ffiniau'r lle - gallai fod yn ardal weinyddol awdurdod lleol neu gyfunol, yn dref, yn ddinas, yn ddinas-ranbarth neu’n nifer o drefi neu fwrdeistrefi'n gweithio ar y cyd. 
  • nodi sut y byddwch yn arwain newid uchelgeisiol a fydd yn cyflwyno yn erbyn ein canlyniadau dymunol a sicrhau bod mannau gwyrdd yn darparu mwy ar gyfer pobl a lleoedd
  • dangos sut y bydd tîm trawsddisgyblaethol a gwaith partneriaeth yn sicrhau ehangder o ran eich meddwl ac yn gweithio'n weithredol ar draws y sectorau treftadaeth, cynllunio, trafnidiaeth, iechyd, cymuned a byd natur

Gweithio mewn carfanau

Mae cyflawni’r newidiadau uchelgeisiol, hirdymor yr ydym i gyd eu heisiau ar gyfer y DU yn heriol ond yn gyraeddadwy os byddwn yn gweithio gyda’n gilydd. Rydym yn ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i gymryd rhan, gan gefnogi sefydliadau o bob sector i arwain dros newid. Rydym am adeiladu Trefi a Dinasoedd Natur gyda’n gilydd, gan ddysgu a datblygu wrth i ni fynd, ac ymateb i’r cymorth sydd ei angen ar leoedd.

Fel grantï Trefi a Dinasoedd Natur, bydd gennych fynediad at rwydwaith cymheiriaid i rannu dysgu ac atebion ymarferol. Bydd y rhwydwaith yn cael ei arwain gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a bydd yn lletya llyfrgell o adnoddau yn ogystal â digwyddiadau rhwydwaith ar-lein, gweminarau a sesiynau dysgu mewn carfanau rheolaidd i chi ymuno â nhw a chyfrannu at weithio mewn carfanau. Cynhelir ymweliadau wyneb yn wyneb hefyd i ddysgu gan brosiectau eraill a chael eich ysbrydoli a'ch helpu gan eich cymheiriaid, gan rannu'r hyn sy'n gweithio a manteisio ar ddoethineb ar y cyd i ddatrys problemau. Rydym yn argymell dyrannu diwrnod y mis drwy gydol eich prosiect ar gyfer gweithgareddau rhwydwaith. Mae rhagor o wybodaeth  ar gael ar y wefan Trefi a Dinasoedd Natur.

Cyflwyniad

Ar ôl i'ch Grant gael ei ddyfarnu i chi, mae'n bwysig deall y camau nesaf y mae'n rhaid i chi eu cymryd. Mae’r arian y byddwch yn ei dderbyn yn arian cyhoeddus gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ac mae'n rhaid iddo gael ei reoli mewn ffordd atebol. 

Bydd angen i chi ddarllen a deall y gofynion a amlinellir yn:

  • yr arweiniad Derbyn Grant Trefi a Dinasoedd Natur hwn
  • eich Cais wedi'i gwblhau
  • yr Arweiniad Ymgeisio
  • meini prawf Trefi a Dinasoedd Natur penodol 
  • Arweiniad Arall perthnasol yn adrannau Ariannu ac Arfer da ein gwefan
  • y Contract Grant (gan gynnwys ein diffiniadau)

Mae eich Contract Grant yn cynnwys:

  • eich Llythyr Hysbysiad o Grant  
  • ein Telerau Grant Safonol
  • unrhyw Amodau Grant Ychwanegol
  • eich dogfen Caniatâd i Ddechrau wedi'i llofnodi

Bydd hyn yn eich helpu sicrhau y bydd eich Prosiect yn cydymffurfio â'n gofynion.  

Ar ôl darllen y dogfennau hyn, os oes gennych gwestiynau neu bryderon sydd heb eu hateb, cysylltwch â ni am gefnogaeth bellach. Eich pwynt cyswllt cyntaf â Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw eich Rheolwr Buddsoddi.

Noder, mae'r geiriau mewn priflythrennau yn yr arweiniad hwn yn adlewyrchu'r diffiniadau yn y Telerau Grant Safonol.  

Amserlen y prosiect

Bydd eich Prosiect yn mynd yn syth i Gam Cyflwyno a bydd yn para hyd at dair blynedd. Amserlen eich prosiect yw:

  1. dod i gyfarfod dechrau arni y Cam Cyflwyno
  2. cyflwyno'ch dogfennau Caniatâd i Ddechrau o fewn chwe mis i dderbyn y dyfarniad
  3. cwblhewch y dasg Rhowch fwy o wybodaeth i ni am y prosiect
  4. cyflwyno eich Prosiect fel y cytunwyd 
  5. cyflwyno'r Adroddiad Cwblhau a'r Gwerthusiad o fewn tri mis i gwblhau Cam Cyflwyno eich prosiect ac erbyn Dyddiad Dod i Ben y Grant o 31 Gorffennaf 2028 fan hwyraf
  6. cydymffurfio â'ch Contract Grant am y cyfnod a nodir yn eich Llythyr Hysbysiad o Grant

Ar ôl i'ch Grant gael ei ddyfarnu

Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu cyfarfod dechrau arni. 

Diben y cyfarfod dechrau arni yw:

  • egluro'r gwaith sydd ei angen ar gyfer eich Prosiect 
  • cytuno ar drefniadau rheoli a chaffael y prosiect 
  • nodi gofynion adrodd, monitro a gwerthuso eich Prosiect
  • trafod unrhyw bwyntiau cyfreithiol, megis perchnogaeth, trwyddedau ar gyfer gwaith neu reoli cymhorthdal  
  • sicrhau bod cyllid trydydd parti yn ei le
  • trafod cydnerthedd sefydliadol
  • trafod gyda chi y wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen arnom i helpu i gasglu data ar effaith ein cyllid

Byddwn yn cytuno ar strwythur adrodd ar gyfer pryd y dylech gyflwyno diweddariadau Prosiect.  

Caniatâd i ddechrau

Ni ddylech ddechrau unrhyw waith ar eich Prosiect hyd nes y byddwch wedi derbyn caniatâd ysgrifenedig gennym i wneud hynny.

Byddwch yn derbyn e-bost yn gofyn i chi fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein a darparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i'ch galluogi i ddechrau ar eich Prosiect.

Fel arfer byddwn yn disgwyl i chi gyflwyno'r dogfennau y gofynnir amdanynt yn y cam hwn o fewn tri mis i ddyddiad eich Llythyr Hysbysiad o Grant. Os bydd oedi sylweddol ac nad yw'r dogfennau wedi'u derbyn o fewn chwe mis mae'n bosibl y byddwn yn penderfynu dileu eich cynnig Grant.

Cyn y gallwn roi Caniatâd i Ddechrau eich Prosiect i chi a rhyddhau eich arian Grant, bydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol fel y bo angen:

  • prawf o berchnogaeth rydd-ddaliadol neu brydlesol, os yn berthnasol
  • manylion caniatadau statudol a/neu drwyddedau sydd eu hangen ac a gafwyd (os yn berthnasol)
  • cadarnhad o gyfraniadau arian parod a sicrhawyd fel yr amlinellwyd yn eich Cais
  • dadansoddiad o gostau ac adroddiad llif arian parod sy'n amlinellu'r Prosiect, fel y bo'n berthnasol  
  • braslun o strwythur rheoli prosiect eich sefydliad a'ch dulliau o ddewis ymgynghorwyr, contractwyr a chyflenwyr
  • amserlen neu raglen waith y prosiect sy'n amlinellu'r Prosiect
  • cynnig o ran sut y byddwch yn rheoli caffael 
  • unrhyw fanylion eraill y teimlwn y gallent fod yn berthnasol i'ch Prosiect
  • unrhyw gyngor rheoli cymhorthdal rydych wedi'i dderbyn, os yn berthnasol

Rhaid i chi ddweud wrthym a fu unrhyw newidiadau sylweddol i'ch Prosiect ers i chi gyflwyno eich Cais, er enghraifft newidiadau i bartneriaid y prosiect neu gyfraniadau arian parod, gan ddarparu'r dystiolaeth ddiweddaraf fel y bo'n berthnasol.  

Yna bydd gofyn i chi ddarparu manylion dau lofnodai cyfreithiol ar gyfer eich sefydliad. Bydd angen iddynt ddarllen a chytuno i'r Telerau Grant Safonol ac unrhyw Amodau Ychwanegol a nodir yn eich Llythyr Hysbysiad o Grant.

Unwaith y byddwn wedi prosesu a chymeradwyo'r wybodaeth a ddarparwyd gennych yn ystod y cam hwn, byddwn yn anfon e-bost yn cadarnhau bod gennych ganiatâd i ddechrau gweithio ar eich Prosiect. Bydd angen i chi hefyd gwblhau'r dasg ‘Rhowch fwy o wybodaeth i ni am y prosiect’ ar eich cyfrif ar-lein. Os byddwch yn dechrau unrhyw waith cyn cael y caniatâd hwn, fe fydd ar eich menter eich hun ac ni fyddwn yn talu unrhyw gostau a ysgwyddir.  

Rhowch fwy o wybodaeth i ni am y prosiect

Ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen caniatâd i ddechrau ac rydym wedi ei hadolygu, byddwch yn gallu mewngofnodi i'ch cyfrif a rhoi mwy o wybodaeth i ni am eich prosiect. Bydd hyn yn cynnwys cwestiynau am:  

  • swyddi a chyfleoedd hyfforddi a fydd yn cael eu cefnogi drwy eich prosiect
  • unrhyw wirfoddolwyr neu ymwelwyr a allai fod gan eich prosiect
  • effaith amgylcheddol eich prosiect
  • sut byddwch yn cydnabod ac yn hyrwyddo eich grant

Nid yw'r cwestiynau hyn yn rhan o'ch cais - ni fydd eich atebion yn effeithio ar eich dyfarniad grant. Gofynnwn y cwestiynau hyn i helpu i gasglu data ar effaith ein cyllid. Rydym yn casglu tystiolaeth o bob rhan o'n portffolio i helpu i lywio ein hymarfer a sut rydym yn cyflwyno ein strategaeth.

I’ch helpu i ateb y cwestiynau ychwanegol hyn am eich prosiect, darllenwch y canllaw a’r cwestiynau Rhowch fwy o wybodaeth i ni am y prosiect.

Bydd angen i chi gwblhau'r dasg hon cyn y gallwn ryddhau unrhyw daliadau i chi. Os na fyddwch chi’n rhoi'r wybodaeth hon i ni cyn gynted â phosibl ar ôl i ni roi caniatâd i chi ddechrau, efallai y bydd eich taliadau'n cael eu gohirio. 

Sut y byddwn yn talu eich grant

Bydd gofyn i chi ddarparu eich manylion banc yn eich cyfrif ar-lein, a bydd y manylion hyn wedyn yn cael eu gwirio gan ein tîm cyllid.

Ar gyfer grantiau dros £250,000 byddwn yn talu mewn ôl-daliadau.

Byddwn hefyd yn cadw'r 10% olaf o’ch Grant hyd nes y byddwn yn fodlon bod y Prosiect wedi’i gwblhau, bod y Grant wedi’i wario’n briodol, a’ch bod wedi anfon eich Adroddiad Gwerthuso a phrawf o’ch cydnabyddiaeth o’r ariannu atom.

I hawlio'r 10% olaf o'ch Grant rhaid i chi gyflwyno Adroddiad Cwblhau o fewn tri mis i gwblhau eich Prosiect ac erbyn Dyddiad Dod i Ben eich Grant, sef 31 Gorffennaf 2028.

Byddwn yn talu eich Grant fel canran o gostau eich Prosiect. Rydym yn disgrifio hyn fel canran talu, sydd wedi'i hesbonio yn eich Llythyr Hysbysiad o Grant. Er enghraifft, os byddwch yn darparu tystiolaeth o wariant gwerth cyfanswm o £50,000 a bod eich canran Grant yn 85%, eich taliad fydd £42,500.

Anelwn at ryddhau eich taliad Grant o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn cais am daliad a'r dogfennau ategol gofynnol.

Cwblhau eich Prosiect

Rhaid i chi gyflwyno Adroddiad Cwblhau o fewn tri mis i gwblhau eich Prosiect ac erbyn Dyddiad Dod i Ben y Grant a nodir yn eich Llythyr Hysbysiad o Grant.

Os byddwch yn profi oedi wrth gyflwyno'ch Prosiect, gallwch ofyn am estyniad i Ddyddiad Dod i Ben y Grant. Ni allwn warantu estyniad, ac os bydd eich prosiect yn cymryd mwy o amser i’w gwblhau na’r dyddiad y gwnaethoch gytuno iddo yn nhelerau’r grant, mae'n bosibl y byddwn yn cau eich grant ac yn gofyn am ad-daliad o'r cyfan neu ran o'r arian y gwnaethoch ei dderbyn.

Pan fyddwn wedi derbyn yr holl ddogfennaeth angenrheidiol i gofnodi bod pob cam o'ch Prosiect wedi'i gwblhau, byddwn yn cadarnhau hyn gyda chi. Gelwir hyn yn Ddyddiad Cwblhau'r Prosiect ffurfiol.  

Wrth gwblhau rydym yn golygu:

  • bod eich Prosiect wedi'i orffen, a'ch bod wedi cyflawni'ch Dibenion Cymeradwy
  • eich bod wedi cydnabod eich Grant yn briodol yn unol â'r arweiniad Trefi a Dinasoedd Natur
  • eich bod wedi gwerthuso eich Prosiect a chyflwyno Adroddiad Cwblhau
  • y gallwch ddarparu ffotograffau digidol manylder uchel sy'n dogfennu eich Prosiect
  • os yn berthnasol, eich bod wedi rhestru Allbynnau Digidol y prosiect a darparu cyfeiriad gwe (URL) y wefan neu wefannau lle gellir cael mynediad iddynt
  • os yn berthnasol, rydych wedi ffeilio’ch cynllun cadwraeth gyda’r llyfrgell gyhoeddus, archif a/neu gronfa ddata berthnasol, a rhannu’r manylion gyda’ch Rheolwr Buddsoddi

Mae’n bwysig deall bod eich Contract Grant yn dod i rym unwaith y byddwch wedi llofnodi a’n bod ni wedi prosesu eich Caniatâd i Ddechrau. Mae’r Contract Grant yn parhau mewn grym ar ôl Dyddiad Cwblhau’r Prosiect ac mae hyd y cyfnod y bydd yn parhau mewn grym yn dibynnu ar y gweithgareddau craidd a gyflawnir gan eich Prosiect. Bydd hyn yn cael ei ddisgrifio yn eich Llythyr Hysbysiad o Grant.  

Ar gyfer prosiectau sy'n seiliedig ar weithgareddau, er enghraifft arddangosfa neu ddigwyddiad heb unrhyw allbynnau digidol neu waith cyfalaf, daw'r Contract Grant i ben ar Ddyddiad Cwblhau'r Prosiect.

Ar gyfer prosiectau sy'n creu Allbynnau Digidol, er enghraifft creu gwefan, bydd y Contract Grant mewn grym o'r Caniatâd i Ddechrau tan 10 mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau’r Prosiect.

Unwaith y byddwch wedi gwneud eich cais am daliad terfynol, ni fyddwn yn derbyn unrhyw geisiadau pellach am daliadau gennych. Dylech felly gytuno ar eich cyfrifon terfynol gyda'ch contractwyr a'ch cyflenwyr cyn i chi wneud cais am y taliad Grant terfynol.

Os byddwch yn gwario llai na'ch costau cytunedig a bod eich Prosiect yn cael ei gwblhau o dan y gyllideb, bydd angen i chi ddychwelyd unrhyw arian sydd heb ei wario o'ch Grant i ni. Byddwn yn cytuno â chi ar y swm sydd i'w ddychwelyd fel rhan o gwblhau eich Prosiect. 

Byddwn yn parhau i gadw mewn cysylltiad â chi o bryd i'w gilydd ar ôl i'r prosiect gael ei gwblhau gan gynnwys drwy ein harolygon cwsmeriaid.

Gweithio gyda ni

Rydym yn eich annog i gadw mewn cysylltiad â ni, fel y gallwn glywed am y pethau rydych yn eu cyflawni drwy gydol eich prosiect.  

Er nad yw bob amser yn bosibl i ni ymweld neu gwrdd â’r sefydliadau a ariannwn, gofynnir i chi ein gwahodd i ddigwyddiadau ac agoriadau prosiect allweddol a byddwn yn ceisio anfon cynrychiolydd lle bo modd.

Rydym yn deall y gall problemau neu faterion sylweddol godi yn ystod Prosiect. Gallai hyn gynnwys:  

  • unrhyw broblemau o fewn eich sefydliad  
  • newidiadau i gostau'r prosiect
  • oedi difrifol
  • methu â chyflawni eich Dibenion Cymeradwy neu gyflwyno yn erbyn ein hegwyddorion buddsoddi
  • methu â chynnal y Defnydd Cymeradwy  

Rhaid i chi gysylltu â ni cyn gynted â phosibl, fel y gallwn ymateb a'ch cefnogi fel y bo'n briodol.

Rhaid i chi ymateb yn brydlon i unrhyw geisiadau am wybodaeth ac am drafod unrhyw newidiadau sylweddol i'ch Prosiect gyda ni. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw newidiadau i bolisi neu arferion grant y Loteri Genedlaethol a allai effeithio ar eich ariannu.

Ni allwch newid Dibenion Cymeradwy neu Ddefnydd Cymeradwy eich Prosiect heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ymlaen llaw. Os ydych am i ni ystyried unrhyw newidiadau i’ch Dibenion Cymeradwy neu Ddefnydd Cymeradwy, rhaid i chi anfon manylion ysgrifenedig y rhesymau dros y cais ac esbonio sut y bydd yn effeithio ar:

  • ansawdd eich Prosiect
  • cost eich Prosiect
  • yr amser sydd ei angen arnoch i gwblhau eich Prosiect
  • hyfywedd eich Prosiect yn y dyfodol
  • mynediad cyhoeddus i'r Eiddo a ariennir gan y Grant yn y dyfodol, os yn berthnasol
  • rheoli a chynnal a chadw'r Eiddo a ariennir gan y Grant yn y dyfodol, os yn berthnasol

Mae'n bosibl wedyn y byddwn yn ailasesu'r Prosiect neu'n cymryd unrhyw gamau eraill yr ystyriwn eu bod yn angenrheidiol. Efallai y byddwn yn penderfynu rhoi caniatâd ar gyfer y newid dim ond os byddwch yn cytuno i delerau ac amodau ychwanegol fel y bo angen. Gall hyn gynnwys ei gwneud yn ofynnol i chi lofnodi gweithred amrywio neu weithred drosglwyddo'r Contract Grant os bydd newid mewn perchnogaeth.

Rhaid i unrhyw newidiadau y cytunir arnynt gyda ni fod yn ysgrifenedig a dylid eu hadrodd hefyd yn eich diweddariadau Prosiect ac/neu Adroddiad Cwblhau fel y bo'n berthnasol.

Os oes angen i chi wneud mân newidiadau i'r gyllideb a symud arian rhwng y penawdau cost a ddarparwyd yn eich Cais er mwyn cyflawni eich Dibenion Cymeradwy, gallwch adrodd ar hyn yn eich diweddariad Prosiect. Rhaid i chi ddangos sut mae'r newidiadau hyn wedi eich helpu i gyflwyno eich Prosiect.

Rhaid i chi gysylltu â ni ymlaen llaw os ydych am gynnig unrhyw newidiadau sylweddol i'r gyllideb ac ar gyfer unrhyw wariant mawr o'ch cyllideb wrth gefn.

Os bydd cyfanswm cost y prosiect yn cynyddu yn ystod y Prosiect, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddwn yn ystyried cynyddu eich Grant. Yn yr achos hwn bydd yn rhaid i chi ddarparu gwybodaeth bellach a gaiff ei hadolygu ar sail yr achos unigol.

Hyrwyddo eich grant

Mae Trefi a Dinasoedd Natur yn fenter bartneriaeth rhwng Natural England, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chonfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Bydd disgwyl i brosiectau ddefnyddio'r brandio a chydnabyddiaeth Trefi a Dinasoedd Natur.  

Mae hyrwyddo a chydnabod y fenter Trefi a Dinasoedd Natur, a'r partneriaid cysylltiedig, yn un o amodau’r Contract Grant.

Rhaid i chi gydnabod eich Grant yn gyhoeddus mor fuan ag y bydd eich Prosiect yn dechrau drwy arddangos y brandio Trefi a Dinasoedd Natur.

Rhaid i chi hefyd sicrhau eich bod yn cynnwys y brandio Trefi a Dinasoedd Natur ar unrhyw wybodaeth rydych yn ei chynhyrchu am eich Prosiect, er enghraifft, gwybodaeth neu ddeunyddiau ymgynghori cyhoeddus neu godi arian. Rhaid i chi gynnwys y logos brandio hefyd ar bob dyluniad neu gynllun a gynhyrchwch, ar bob adroddiad neu arolwg arbenigol, ac ar bob dogfen dendr neu hysbyseb swydd a ariennir gan eich Grant. Cyfeiriwch at y wefan Trefi a Dinasoedd Natur am fwy o wybodaeth.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am ein hisafswm gofynion cydnabyddiaeth ar ein gwefan. Mae enghreifftiau o bethau llawn dychymyg y mae prosiectau wedi'u gwneud i'w gweld ar ein gwefan.

Os na fyddwch yn cydymffurfio â'n canllawiau cydnabyddiaeth rydym yn cadw'r hawl i atal taliadau ac i ofyn am ad-daliad o ran neu'r cyfan o'ch Grant.

Cysylltwch â ni os oes angen unrhyw gymorth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am gydnabod eich Grant.

Mae'n bwysig rhoi cyhoeddusrwydd i'ch dyfarniad Grant i'r cyfryngau lleol fel bod y cyhoedd yn gwybod ble mae eu harian yn cael ei wario. Byddwn yn cyhoeddi'r ffaith eich bod wedi cael dyfarniad grant ar ein gwefan o fewn 20 diwrnod i'ch grant gael ei ddyfarnu.

Gallwn eich cynorthwyo gydag ymholiadau am gyhoeddusrwydd a'r cyfryngau. 

Diweddariadau prosiect

Yn eich cyfarfod dechrau arni, byddwn yn cytuno gyda chi faint o ddiweddariadau Prosiect y disgwyliwn i chi eu darparu wrth i chi gyflwyno'ch Prosiect. Byddwn yn eich hysbysu am yr amlder sy'n eich cefnogi orau o fewn y rhaglen Trefi a Dinasoedd Natur ehangach ac sy'n adlewyrchu risg y Prosiect.

Gan ddefnyddio'r diweddariadau hyn, byddwn yn monitro cynnydd eich Prosiect i gadarnhau ei fod yn cyflwyno'r cynllun prosiect a fanylwyd yn eich Cais a'r Dibenion Cymeradwy a nodwyd yn eich dogfennau Caniatâd i Ddechrau.
Dylai eich diweddariadau prosiect gynnwys y canlynol:

  • ffotograffau yn dangos cynnydd eich Prosiect (gorfodol)
  • cofnod o weithgareddau neu ddigwyddiadau rydych wedi’u trefnu (gorfodol)
  • disgrifiadau swydd/manylion recriwtio (gorfodol os yn berthnasol)
  • adroddiadau caffael (gorfodol os yn berthnasol)
  • cynnydd o ran cyrraedd cerrig milltir allweddol, er enghraifft penodi contractwyr neu staff
  • unrhyw faterion yn codi er mwyn i ni allu ymateb a'ch cefnogi fel y bo'n briodol

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am baratoi’r dogfennau hyn yn adran Dogfennau ategol yr Arweiniad Ymgeisio.  

Sut i gyflwyno diweddariad Prosiect

I ddarparu diweddariad Prosiect, mewngofnodwch i'n gwasanaeth ar-lein ac agorwch y Prosiect yr hoffech roi diweddariad ar ei gyfer.  

Yn y cam hwn, bydd modd i chi gyflwyno cais am daliad neu ddarparu diweddariad Prosiect. Wrth ddewis 'Rhoi diweddariad prosiect', cewch eich gofyn i ateb cwestiynau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eich Prosiect.  
Ar ôl i chi ddarparu'r wybodaeth hon ac uwchlwytho tystiolaeth fel y bo angen, byddwch yn gallu cyflwyno eich diweddariad Prosiect.

Darparu tystiolaeth o wariant

Rhaid i chi ddarparu anfonebau ar gyfer yr holl wariant grant dros £500. Dylai pob anfoneb a gyflwynir i ni fod yn glir, yn ddarllenadwy, ac ar gyfer gwaith cymwys tuag at y Prosiect yr ydym wedi cytuno i'w ariannu. Ni ddylent fod wedi'u difrodi na'u hystrywio.

Dylai'r anfoneb gael ei chyfeirio at y sefydliad sy'n cyflwyno'r cais am daliad.

Rhaid i anfonebau gynnwys:

  • rhif anfoneb
  • y dyddiad y cawsant eu codi
  • y dyddiad y disgwylir y taliad a'r telerau talu
  • sut mae'r taliad i gael ei wneud ac i bwy
  • manylion cwmni, gan gynnwys enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, rhif cwmni, rhif cofrestru TAW (os yn gofrestredig ar gyfer TAW)
  • disgrifiad o'r gwasanaethau a ddarparwyd
  • y swm gros (heb TAW), swm y TAW os yn gofrestredig ar gyfer TAW a'r (cyfanswm) net sy'n ddyledus

Gallwch ddarparu tabl ar wahân yn manylu ar gostau o dan £500, gan gynnwys y cyfanswm hwn fel un llinell gwariant yn eich cais am daliad.

Dylid dangos tystiolaeth o gostau cyflog trwy ddarparu slipiau cyflog neu lythyr wedi'i lofnodi gan aelod o'ch sefydliad sydd ag awdurdod ariannol.

Ni allwn dalu costau TAW y gallwch ei adennill. Eich cyfrifoldeb chi yw ceisio cyngor priodol ynghylch adennill TAW.
Os bydd eich statws TAW yn newid yn ystod eich prosiect, byddwn yn lleihau ein cyfraniad at y costau os ydych wedi llwyddo i hawlio'r TAW yn ôl.

Caffael

Ym mhob prosiect, pryd bynnag y byddwch yn defnyddio eich Grant i brynu nwyddau, gwaith neu wasanaethau, byddwn yn gofyn i chi roi manylion caffael i ni (sef y broses brynu, tendro a dethol). Os ydych eisoes wedi prynu nwyddau, gwaith neu wasanaethau ar gyfer eich Prosiect, bydd angen i chi ddweud wrthym sut y gwnaethoch chi hynny. Ni allwn dalu eich Grant os nad ydych wedi dilyn y drefn a ganlyn.  

Os ydych yn gorff cyhoeddus neu os yw eich Prosiect yn destun deddfwriaeth Caffael Cyhoeddus, mae'n rhaid i chi ddilyn y ddeddfwriaeth berthnasol.  

Rhaid i weithdrefnau recriwtio ymgynghorwyr a chontractau fod yn deg ac yn agored a chydymffurfio â deddfwriaeth cydraddoldeb a chyflogaeth berthnasol. Dylai ffioedd unrhyw ymgynghorwyr neu weithwyr proffesiynol eraill y byddwch yn eu recriwtio yn ystod y Prosiect weddu i ganllawiau proffesiynol a bod yn seiliedig ar fanyleb ysgrifenedig glir. Os oes unrhyw un o'r contractwyr, cyflenwyr neu ymgynghorwyr y dymunwch eu penodi'n gysylltiedig, er enghraifft yn ffrindiau neu'n berthnasau agos, neu os oes unrhyw gysylltiad ariannol megis perchnogaeth ar y cyflenwyr hyn bydd angen i chi gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni'n gyntaf.  

Os ydych yn ansicr ynghylch eich rhwymedigaethau, rydym yn eich cynghori i geisio cyngor proffesiynol neu gyfreithiol. Gallwch hefyd weld ein canllaw arfer da ar gaffael.

Llai na £10,000

Os ydych yn prynu nwyddau, gwaith neu wasanaethau am £10,000 neu lai, nid oes angen i chi dendro’n agored am y rhain na chael dyfynbrisiau lluosog. Byddwn yn disgwyl i chi ddangos gwerth cyffredinol am arian.  

Rhwng £10,000 a £50,000

Dylech gael o leiaf tri thendr neu ddyfynbris cystadleuol ar gyfer yr holl nwyddau, gwaith a gwasanaethau gwerth £10,000 neu fwy (heb gynnwys TAW) yr ydym wedi cytuno i'w hariannu.

Nid oes angen o reidrwydd i chi benodi'r contractwr, y cyflenwr neu'r ymgynghorydd sy'n darparu'r dyfynbris isaf. Wrth benderfynu pwy i'w benodi ar gyfer eich prosiect, dylech edrych ar y gwerth am arian cyffredinol y mae'r tendr neu ddyfynbris yn ei ddarparu a sgiliau, profiad a hyfywedd ariannol y contractwr, y cyflenwr neu'r ymgynghorydd.

Mwy na £50,000

Ar gyfer yr holl nwyddau, gwaith a gwasanaethau sy'n werth mwy na £50,000 (ac eithrio TAW), rhaid i chi ddarparu prawf o weithdrefnau tendro cystadleuol. Dylai eich prawf fod yn adroddiad ar y tendrau yr ydych wedi'u derbyn, ynghyd â'ch penderfyniad ar ba un i'w dderbyn.

Nid oes angen o reidrwydd i chi benodi'r contractwr, y cyflenwr neu'r ymgynghorydd sy'n darparu'r dyfynbris isaf. Wrth benderfynu pwy i'w benodi ar gyfer eich prosiect, dylech edrych ar y gwerth am arian cyffredinol y mae'r dyfynbris yn ei ddarparu a sgiliau, profiad a hyfywedd ariannol y contractwr, y cyflenwr neu'r ymgynghorydd.

Mewn rhai amgylchiadau, nid oes angen i chi ddilyn gweithdrefn dendro gystadleuol a gallwch wahodd un sefydliad yn unig i dendro. Mae hyn yn wir os:

  • yw cyfanswm pris y contract yn llai na £10,000
  • yw cytundeb fframwaith yn ei le ar gyfer cyflenwi nwyddau, gwaith neu wasanaethau a fu'n destun tendr cystadleuol yn flaenorol, ac mae’r nwyddau neu’r gwasanaethau'n uniongyrchol berthnasol i gwmpas y gwaith prosiect sydd i’w wneud
  • yw contract prosiect yn ei le, a fu'n destun tendr cystadleuol yn flaenorol, ac mae'n rhesymegol ei ymestyn i gynnwys gwaith prosiect ychwanegol. Yn yr achos hwn, mae'n rhaid i chi gadarnhau:
    • yn achos gwaith cyfalaf, y gellir cymhwyso prisiau’r rhan fwyaf o elfennau gwaith, gan gynnwys rhagofynion, gorbenion ac elw yn uniongyrchol o’r contract presennol i’r gwaith newydd
    • bod y gwaith newydd yn llai o ran graddfa, ac o fath tebyg i waith y prif gontract
    • na fydd y contractwr yn hawlio costau tarfu neu ymestyn y prif gontract os cyflwynir y gwaith newydd
    • bod y contract presennol yn cyfyngu ar waith sy’n cael ei wneud gan eraill
  • yw'r nwyddau, y gwaith neu'r gwasanaethau gofynnol yn unigryw fel y nodir mewn manyleb gofyniad heb frand ac nad yw'n bosibl eu caffael o ffynonellau eraill trwy dendr cystadleuol
  • gallwch ddangos eich bod wedi ceisio tendro am y nwyddau, y gwaith neu'r gwasanaethau yn agored ac yn gystadleuol ond nad oeddech wedi derbyn digon o ddiddordeb. Roedd yr unig dendr a dderbyniwyd wedi'i gyflwyno gan ddarparwr gwasanaeth a oedd yn credu ei fod yn gwneud hynny mewn cystadleuaeth ag eraill
  • yw'n waith brys lle gellir dangos y byddai’r amser a gymerir i ddod o hyd i dendrau'n peryglu’r prosiect ac yn ychwanegu’n sylweddol at gostau yn y pen draw
  • nad yw'r cwmni sy'n darparu'r tendr unigol wedi'i gysylltu, naill ai trwy berchnogaeth neu drwy gysylltiadau teuluol, ag uwch gynrychiolwyr y grantï

Byddwn hefyd yn gofyn i chi ystyried gwerthoedd cymdeithasol wrth gaffael, gan gynnwys:

  • cadwyni cyflenwi amrywiol
  • gwell cyflogadwyedd a sgiliau  
  • cynhwysiad, iechyd meddwl a llesiant
  • cynaladwyedd amgylcheddol
  • cadwyni cyflenwi diogel

Dylech sicrhau bod unrhyw gontractwr/cyflenwr/ymgynghorydd neu bartner a allai fod yn cyfrannu at greu Allbynnau Digidol yn ymwybodol o'n gofyniad i brosiectau rannu'r rhain o dan Drwydded Priodoliad Creative Commons 4.0 Ryngwladol neu gyfwerth, a sicrhau bod gennych gytundeb i'r gwaith dilynol gael ei rannu yn y modd hwn. Lle nad yw hyn yn bosibl, rhaid i chi geisio cytundeb ysgrifenedig i wneud trefniadau amgen gyda ni, er enghraifft defnyddio dewis arall o drwydded agored, cyn cyhoeddi unrhyw gontract gwaith.

Grantiau cymunedol

Fel rhan o’ch Prosiect, efallai eich bod wedi gofyn i ni gyfrannu tuag at gronfa o arian y gallwch ei defnyddio i ariannu grwpiau neu sefydliadau eraill, yr ydym yn eu galw’n dderbynyddion grantiau cymunedol, i gwblhau darnau o waith a fydd yn cyfrannu at nodau cyffredinol eich prosiect. Mae hwn yn cael ei alw'n grant cymunedol.

Cyn i chi lansio eich cynllun grant cymunedol, bydd angen i chi anfon manylion atom am eich prosesau ymgeisio, gwneud penderfyniadau a monitro cynnydd. Dylid anfon hwn at eich Rheolwr Buddsoddi a fydd yn ei adolygu a'i gymeradwyo.  

Wrth wneud cais am daliad i ni, rhaid i chi gynnwys rhestr o dderbynyddion grant cymunedol fel tystiolaeth o wariant. Rhaid i'r rhestr gynnwys faint a ddyfarnwyd i bob grantï, dyddiad y penderfyniad i ddyfarnu'r grant, a rhaid iddi gael ei llofnodi gan ddau berson o'ch panel penderfyniadau grant cymunedol.  

Chi sy'n gyfrifol am fonitro cynnydd grantiau cymunedol a sicrhau cydymffurfiaeth â'r telerau yr ydych wedi cytuno iddynt yn ystod eich cais am brosiect. Bydd angen i chi benderfynu sut y byddwch yn cadw mewn cysylltiad â phob derbynnydd grant cymunedol a pha wybodaeth yr hoffech ei gweld ganddynt. Gall hyn fod yn gymesur gan ddibynnu ar faint y grant ac am beth y cafodd ei ddyfarnu.  

Dylech ddweud wrthym sut mae'r cynllun grant cymunedol yn dod yn ei flaen yn eich diweddariadau prosiect i ni a gwerthuso effeithiolrwydd cyffredinol grantiau cymunedol o fewn eich prosiect yn eich adroddiad cwblhau.

Rheoli eich data

Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperwch mewn perthynas â’ch cais am grant neu gais am arian grant. Byddwn yn ei brosesu'n unol â'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol sydd wedi'i freinio ynom i atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio hunaniaeth. 

Bydd eich data personol a data sy'n gysylltiedig â'r grant yn cael eu rhannu â phartneriaid Trefi a Dinasoedd Natur, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Natural England fel cyd-reolwyr data, unrhyw gontractwr a benodir gan y bartneriaeth, i gynnal gwerthusiad allanol o’r Trefi a Dinasoedd Natur i adolygu effaith, perfformiad a chostau'r cynllun.