Mynegiad o Ddiddordeb: £250,000 i £10miliwn
Rydym yn cydnabod faint o waith sy'n cael ei wneud i gyflwyno cais am ariannu ac wrth gynllunio prosiect. Mae'r cam Mynegiad o Ddiddordeb (MoDd) gorfodol yn ein helpu i hidlo unrhyw brosiectau sy'n annhebygol o gael eu hariannu, gan arbed amser y byddech chi efallai'n ei dreulio'n gweithio ar gais llawn yn ddiangen.
Mae cyfrif geiriau'r MoDd yn fwriadol fyr (uchafswm o 1,000 o eiriau) er mwyn lleihau amser ac ymdrech i chi wrth gwblhau'r cam hwn.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparwch i benderfynu p'un a fyddwn yn eich gwahodd i gyflwyno cais cam datblygu ai beidio. Y cam datblygu yw pryd y byddwch yn datblygu eich prosiect, gan gynnwys creu dyluniadau a chynlluniau.
Os bydd eich cais cam datblygu'n llwyddiannus, byddwch yn cael eich ariannu a bydd gennych hyd at ddwy flynedd i ddatblygu cynnig prosiect manwl ar gyfer eich cais cam cyflwyno. Y cam cyflwyno yw pryd y byddwch yn cyflawni eich gwaith cyfalaf a gweithgareddau prosiect.
Cofiwch, ar ôl y cam MoDd gorfodol bydd eich cais fel arfer yn mynd trwy ddau gam: cam datblygu o hyd at ddwy flynedd, sy'n eich galluogi i weithio ar eich cynnig prosiect, a cham cyflwyno o bum mlynedd ar y mwyaf.
Os yw eich MoDd yn aflwyddiannus, allwch chi ddim gyflwyno cais am brosiect. Bydd angen i chi gyflwyno MoDd newydd yn gyntaf. Rhaid i chi aros tri mis cyn gwneud hyn.
Cyn cyflwyno
Cofiwch sicrhau eich bod wedi darllen:
- yr hyn a ariannwn
- y pedair egwyddor fuddsoddi y disgwyliwn i brosiectau treftadaeth eu cymryd i ystyriaeth
- arweiniad ymgeisio llawn Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol rhwng £250,000 a £10miliwn
Sut i gyflwyno
Pan fyddwch yn barod, cwblhewch y MoDd ar ein gwasanaeth ar-lein.
Bydd angen i chi gofrestru cyfrif i chi'ch hun ac i'r sefydliad yr ydych yn gwneud cais amdano.
Nid oes dyddiad cau ar gyfer cyflwyno EOI.
Clywed yn ôl gennym
Anelwn at ymateb i'ch MoDd o fewn 20 diwrnod gwaith.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost a ydych wedi llwyddo i gael eich gwahodd i gyflwyno cais cam datblygu. Rhaid i chi wneud cais o fewn 12 mis o dderbyn y gwahoddiad.
Os nad ydym yn eich gwahodd i wneud cais nawr, byddwn yn rhoi adborth i chi.
Rhesymau cyffredin pam nad yw MoDd yn llwyddiannus
Nid yw MoDd bob amser yn llwyddiannus. Dyma rai rhesymau cyffredin:
- methu â chymryd y ddau gam i ystyriaeth – yn gyntaf y cam datblygu ac yna'r cam cyflwyno
- methu â chymryd y pedair egwyddor fuddsoddi i ystyriaeth
- ailadrodd ein rhestr o egwyddorion buddsoddi yn hytrach na dweud wrthym sut y bydd eich prosiect yn ymateb iddynt
- dweud wrthym am waith cyfalaf yn unig
- methu ag esbonio'r angen/galw am y prosiect na'r gefnogaeth ehangach drosto
Cwestiynau'r ffurflen Mynegiad o Ddiddordeb
Gofynnwn i bob ymgeisydd sy'n gwneud cais am grant o fwy na £250,000 gwblhau ffurflen Mynegiad o Ddiddordeb (MoDd).
Gallwch weld y cwestiynau yn y ffurflen MoDd isod.
Ydych chi wedi siarad ag unrhyw un yn y Gronfa Treftadaeth am eich syniad?
Os felly, dywedwch wrthym eu henw.
Disgrifiwch yr hyn y byddwch yn ei wneud yn ystod y prosiect.
Dylech gynnwys unrhyw dasgau y mae'n rhaid i chi eu gwneud i gyflawni nod y prosiect. Mae gennych 200 o eiriau.
Oes gennych chi deitl ar gyfer y prosiect?
Gellir newid hyn ar unrhyw adeg. Peidiwch â phoeni os nad oes gan y prosiect deitl eto, gallwch adael hyn yn wag.
Amlinellwch sut y bydd eich prosiect yn ymateb i'n pedair egwyddor fuddsoddi.
Yr ymgeisydd fydd yn dangos cryfder y ffocws, a'r pwyslais ar bob egwyddor. Mae gennych 300 o eiriau.
Dywedwch wrthym am dreftadaeth y prosiect.
Cofiwch gynnwys i bwy mae'n bwysig a pham. Mae gennych 100 o eiriau.
Beth yw'r angen am y prosiect hwn?
Pa waith yr ydych wedi'i wneud sy'n dangos manteision posib y prosiect? Mae gennych 200 o eiriau.
Pa mor hir ydych chi'n meddwl y bydd y prosiect yn ei gymryd?
Dywedwch wrthym ddyddiad dechrau a gorffen amcangyfrifedig os oes gennych nhw. Mae gennych 50 gair.
Faint mae'r prosiect yn debygol o gostio?
Os ydych yn gwybod, dywedwch wrthym am y costau pwysicaf. Gellir amcangyfrif y costau hyn. Mae gennych 200 o eiriau.
Faint o ariannu ydych chi’n bwriadu gwneud cais amdano gennym ni?
Cyflwynwch swm.
Pryd ydych chi'n debygol o gyflwyno cais am ariannu, os gofynnir i chi wneud hynny?
Mae gennych 50 gair.
Diweddariadau i'r arweiniad
Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydyn ni'n cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn ni'n cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosib trwy'r dudalen we hon.