Cwestiynau a nodiadau cymorth y ffurflen gais - £3,000 i £10,000

Cwestiynau a nodiadau cymorth y ffurflen gais - £3,000 i £10,000

See all updates
Cwestiynau o'n ffurflen gais Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol - £3,000 i £10,000

Crëwyd y dudalen: 23 Mawrth 2023. 

Defnyddiwch y dudalen hon i weld pa gwestiynau sydd ar y ffurflen gais cyn i chi ddechrau eich cais.

Mae hefyd yn cynnwys y nodiadau cymorth sy'n ymddangos ar y ffurflen.

Efallai y byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol cyfeirio at ein canllawiau ymgeisio wrth ateb y cwestiynau.


Ynglŷn â’ch prosiect

Teitl y prosiect

Rhowch deitl neu enw i'ch prosiect y gallwn ei ddefnyddio i gyfeirio ato.

[Maes testun – 255 o nodau]

Pryd fydd eich prosiect yn digwydd?

  • Dyddiad dechrau'r prosiect [Nodwch y dyddiad]
  • Dyddiad dod i ben y prosiect [Nodwch y dyddiad]

Dydyn ni ddim yn disgwyl i brosiectau ar y lefel grant hon bara'n hwy nag un flwyddyn.

Ydy'r prosiect yn digwydd yn yr un lleoliad â chyfeiriad eich sefydliad?

[Dewiswch un o'r canlynol]

  • Ydy, mae'r prosiect yn digwydd yn yr un lleoliad â chyfeiriad fy sefydliad 
  • Nac ydy, dydy'r prosiect ddim yn digwydd yn yr un lleoliad â chyfeiriad fy sefydliad

Os nac ydy

Dewch o hyd i'ch cyfeiriad: nodi cod post > dewis cyfeiriad > golygu manylion y cyfeiriad a ddewisir.

Disgrifiwch eich syniad

Mae hyn yn helpu ni i ddeall beth mae eich prosiect eisiau ei wneud. Esboniwch ddyheadau eich prosiect, sut mae'n ymwneud â threftadaeth ac ar beth y byddwch chi'n gwario'r arian.

[Maes testun – 500 gair]

A fydd gwaith cyfalaf yn rhan o'ch prosiect?

Wrth waith cyfalaf rydyn ni'n golygu atgyweirio, cadwraeth, adeiladu o'r newydd, digideiddio, neu waith i sefydlogi cyflwr gwrthrychau.

Enghreifftiau o waith cyfalaf:

  • cadwraeth rhostir
  • atgyweiriadau i gofeb rhyfel
  • digideiddio archif o ffotograffau

Ar gyfer prosiectau sy'n ymwneud â gwaith ffisegol, er enghraifft cadwraeth ar adeilad hanesyddol neu waith adeiladu o'r newydd, darllenwch adran gofynion perchnogaeth canllaw y rhaglen grantiau £3,000 i £10,000 ac edrychwch ar y canllaw i derbyn grant

[Dewiswch un o'r canlynol]

  • Nac ydy, dydy gwaith cyfalaf ddim yn rhan o fy mhrosiect
  • Ydy, mae gwaith cyfalaf yn rhan o fy mhrosiect

Os ydy

Os yw eich prosiect yn ymwneud â gwaith cyfalaf, anfonwch arolwg cyflwr aton ni, neu ddogfen briodol arall, fel cynllun cadwraeth drafft neu amlinellol.

Mae arolwg cyflwr yn esbonio cyflwr adeilad a'r gwaith y bydd angen ei wneud arno. Fel arfer mae'n cael ei wneud gan syrfëwr siartredig.

[Uwchlwytho ffeil]

Oes angen caniatâd arnoch chi gan unrhyw un arall i wneud eich prosiect?

Enghreifftiau o'r hyn y gallai fod angen caniatâd ar ei gyfer:

  • Cydsyniad gan berchennog ased treftadaeth
  • Hawliau i fynediad gan berchennog tir
  • Caniatâd cynllunio gan y cyngor
  • Cydsyniad i recordio sain neu dynnu lluniau o unigolion

Os nad ydych chi'n gwybod a oes angen caniatâd arnoch chi ai beidio, dewiswch yr opsiwn 'Ddim yn siŵr' a rhowch fanylion.

Dewiswch un opsiwn:

  • Nac oes, does dim angen caniatâd arnaf
  • Oes, mae angen caniatâd arnaf
  • Dydw i ddim yn siŵr a oes angen caniatâd arnaf

Os oes

Rhowch fwy o wybodaeth am bwy y mae angen caniatâd ganddynt er mwyn gwneud eich prosiect.

[Maes testun – 300 gair]

Os nad ydych chi'n siŵr

Rhowch fwy o wybodaeth am bwy efallai y bydd angen cael caniatâd ganddynt er mwyn gwneud eich prosiect.

[Maes testun – 300 gair]

Pa wahaniaeth a ddaw yn sgil eich prosiect?

Dywedwch wrthyn ni ba effaith fydd gan eich prosiect ar dreftadaeth, pobl, eich cymuned a'r amgylchedd. Esboniwch sut y byddwch chi'n ymgorffori cynaladwyedd amgylcheddol yn eich prosiect.

[Maes testun – 500 gair]

Pam mae eich prosiect yn bwysig i'ch cymuned?

Esboniwch pam mae gan eich cymuned ddiddordeb yn y prosiect a pham mae'n bwysig iddyn nhw.

Dywedwch wrthyn ni a yw treftadaeth y prosiect wedi'i chynnwys mewn dogfen ffurfiol, er enghraifft, mewn cynllun datblygu lleol.

[Maes testun – 500 gair]

Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r prosiect ddod i ben?

Dywedwch wrthyn ni sut fydd y pethau rydych chi'n eu cynhyrchu'n cael eu darparu i'r cyhoedd, sut fydd y canlyniadau'n cael eu cynnal, a sut y byddwch chi'n rheoli'r dreftadaeth yn y dyfodol.

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth hon i asesu gwerth am arian ein buddsoddiad yn eich prosiect.

[Maes testun – 500 gair]

Pam mai eich sefydliad chi yw'r un gorau i gyflwyno'r prosiect hwn?

Dywedwch wrthyn ni pam y dylai eich sefydliad chi'n benodol redeg y prosiect hwn. Dangoswch eich bod chi wedi creu cysylltiadau â phrosiectau a sefydliadau perthnasol yn eich ardal.

[Maes testun – 500 gair]

Sut fydd eich prosiect yn cynnwys amrywiaeth ehangach o bobl?

Mae hwn yn ganlyniad gorfodol ar gyfer pob prosiect a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Dylai eich ateb esbonio sut y bydd proffil eich cynulleidfa neu wirfoddolwyr wedi newid rhwng dechrau a diwedd y prosiect.

Efallai y bydd yn cynnwys, er enghraifft, amrediad ehangach o oedrannau, ethnigrwydd a chefndiroedd cymdeithasol, mwy o bobl, neu grwpiau, anabl nad ydynt erioed wedi ymgysylltu â'ch treftadaeth o'r blaen.

Dylai eich ateb ddweud wrthyn ni sut y byddwch yn cyrraedd grwpiau newydd o bobl drwy eich prosiect. Dylid cynnwys tystiolaeth i gefnogi'ch cynlluniau chi.

[Maes testun – 300 gair]

A fydd eich prosiect yn cyflawni unrhyw un o'n canlyniadau eraill?

Gwiriwch y canlyniadau y byddwch chi'n eu cyflawni a disgrifiwch sut y byddwch chi'n cyflawni nhw.

  • Bydd treftadaeth mewn cyflwr gwell
  • Bydd treftadaeth yn cael ei nodi a'i hegluro'n well
  • Bydd pobl wedi datblygu sgiliau
  • Bydd pobl wedi dysgu am dreftadaeth, gan arwain at newid mewn syniadau a chamau gweithredu
  • Bydd gan bobl gwell llesiant
  • Bydd y sefydliad a ariennir yn fwy gwydn
  • Bydd yr ardal leol yn lle gwell i fyw, gweithio neu ymweld â hi
  • Bydd yr economi leol yn cael hwb

[Maes testun – 300 gair ar gyfer pob canlyniad a ddewisir]

Faint fydd eich prosiect yn ei gostio?

Mae costau prosiect yn ein helpu ni i ddeall sut rydych chi'n bwriadu rhoi eich cynllun ar waith.

Ychwanegwch gost newydd ar gyfer pob cost prosiect.

Er enghraifft, os ydych chi'n gwneud tri gweithgaredd, ychwanegwch dri math o gost gweithgaredd ar wahân, pob un â'u disgrifiad a swm eu hunain.

  • Math o gost [dewiswch o'r rhestr]
    • Staff newydd
    • Ffioedd proffesiynol
    • Recriwtio
    • Cost prynu eitemau treftadaeth
    • Gwaith atgyweirio a chadwraeth
    • Costau digwyddiadau
    • Allbynnau digidol
    • Offer a deunyddiau, gan gynnwys deunyddiau dysgu
    • Hyfforddiant ar gyfer staff
    • Hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr
    • Teithio ar gyfer staff
    • Teithio ar gyfer gwirfoddolwyr
    • Treuliau ar gyfer staff
    • Treuliau ar gyfer gwirfoddolwyr
    • Arall
    • Cyhoeddusrwydd a hyrwyddo
    • Gwerthuso
    • Swm wrth gefn
  • Disgrifiad o'r gost [Maes testun – 50 gair]
  • Swm – Gall hwn fod yn amcangyfrif [Nodwch y ffigwr]

Help gyda mathau o gostau

Costau staff newydd

Dylid cynnwys costau contractau cyfnod penodol newydd, secondiadau - sef pobl sy'n cael eu trosglwyddo dros dro i'ch sefydliad, a chost staff llawrydd i helpu datblygu eich prosiect. Peidiwch â chynnwys costau talu hyfforddeion yma.

Mae'n rhaid i chi hysbysebu pob swydd am staff y prosiect yn agored, oni bai bod gennych chi aelod staff â chymwysterau priodol ar eich cyflogres yr ydych yn ei symud i swydd yn y prosiect. Mae angen i chi ddarparu disgrifiad swydd ar gyfer y swydd hon.

Os ydych chi'n ymestyn oriau aelod staff â chymwysterau priodol ar eich cyflogres, fel y gall weithio ar y prosiect. Yn yr achos hwn byddwn ni'n ariannu cost yr oriau ychwanegol sy'n cael eu treulio ar y prosiect a bydd angen i chi ddweud wrthyn ni beth yw eu rôl.

Os ydych chi'n symud aelod staff presennol i swydd a grëir gan y prosiect, gall eich grant dalu naill ai am gost yr aelod staff hwn, neu am gost llenwi eu swydd.

Dylai pob cyflog fod yn seiliedig ar ganllawiau'r sector neu swyddi tebyg mewn sefydliadau eraill.

Ffioedd proffesiynol

Dylai ffioedd gydweddu â chanllawiau proffesiynol. Er enghraifft, dylai'r rhai ar gyfer RIBA, Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain, fod yn seiliedig ar fanyleb ysgrifenedig glir.

Recriwtio

Gall hyn gynnwys treuliau hysbysebu a theithio. Rydyn ni'n disgwyl i'ch sefydliad lynu wrth arfer adnoddau dynol da a dilyn yr holl gyfreithiau perthnasol.

Cost prynu eitemau treftadaeth

Os yw eich prosiect yn ymwneud â phrynu eitem treftadaeth, mae'n rhaid i chi gael prisiad annibynnol i helpu dangos y gellir prynu'r eitem hon am bris realistig. Os ydych chi'n unigolyn preifat neu sefydliad preifat allwch chi ddim gynnwys costau yma.

Gwaith atgyweirio a chadwraeth

Mae hyn yn cynnwys costau gwaith i atgyweirio, adfer neu gadw eitem, adeilad neu safle treftadaeth.

Costau digwyddiadau

Costau ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau, er enghraifft, bwyd a diod neu hurio ystafell.

Allbynnau digidol

Unrhyw gostau sydd eu hangen arnoch chi i greu allbynnau digidol. Allbynnau digidol yw pethau rydych chi'n eu creu mewn fformat digidol sydd wedi'u dylunio i roi mynediad i dreftadaeth. Gallen nhw hefyd helpu pobl i ymgysylltu â threftadaeth a dysgu amdani. Er enghraifft, casgliad o ddelweddau digidol neu ffeiliau sain, adnodd neu arddangosfa dreftadaeth ar-lein neu ap ffôn clyfar. 

Offer a deunyddiau, gan gynnwys deunyddiau dysgu

Er enghraifft, gwisgoedd hanesyddol, hetiau caled i roi mynediad i safle, deunyddiau celf neu daflenni a chyhoeddiadau.

Hyfforddiant ar gyfer staff a hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr

Efallai y bydd angen hyfforddiant ar staff a gwirfoddolwyr newydd i wneud eich prosiect.

Teithio ar gyfer staff a theithio ar gyfer gwirfoddolwyr

I helpu staff a gwirfoddolwyr i deithio i safleoedd. Dylai costau teithio mewn car fod yn seiliedig ar 45c y filltir.

Treuliau ar gyfer staff a gwirfoddolwyr

Gallwch chi gynnwys costau treuliau ar gyfer staff a gwirfoddolwyr er mwyn sicrhau nad ydyn nhw ar eu colled.

Arall

Defnyddiwch hyn ar gyfer unrhyw gostau nad ydynt yn cyfateb i unrhyw un o'r penynnau cost eraill. Rhowch ddisgrifiad clir o'r costau hyn.

Cyhoeddusrwydd a hyrwyddo

Gallwch chi gynnwys costau deunyddiau hyrwyddo sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch prosiect chi

Cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn cydnabod y gefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol.

Gwerthuso

Mae'r pennyn cost hwn yn orfodol. Mae'n rhaid gwerthuso pob prosiect. Ein cyngor yw cyllidebu hyd at 5% o'ch costau tuag at werthuso. Gan ddibynnu ar raddfa'r prosiect a pha mor gymhleth y mae, efallai y byddwch am gyflogi rhywun i helpu gwerthuso eich prosiect ac asesu a ydych yn gwerthuso'r canlyniadau y gwnaethoch eu nodi yn eich cais yn llwyddiannus.

Swm wrth gefn

Mae'r pennyn cost hwn yn orfodol. Mae swm wrth gefn yn cael ei ddefnyddio ddim ond i dalu am gostau annisgwyl sy'n angenrheidiol er mwyn er mwyn cyflwyno eich prosiect. Gallai'r swm wrth gefn fod hyd at 10% o gyfanswm costau'r prosiect, oni bai bod gennych chi brosiect cyfalaf arbennig o gymhleth lle y gallai fod angen swm uwch. Cofiwch sicrhau eich bod chi'n cynnwys eich swm wrth gefn gofynnol yn unig yma ac nid o fewn penynnau cost eraill y cais.

Cefnogaeth dros eich prosiect

Ydych chi'n derbyn unrhyw gyfraniadau o ran cost at eich prosiect?

Dewiswch un opsiwn

  • Ydw, rwy'n derbyn cyfraniadau mewn arian parod
  • Nac ydw, dydw i ddim yn derbyn cyfraniadau mewn arian parod

Os ydw: Ychwanegu cyfraniad arian parod

  • Disgrifiad o'r cyfraniad arian parod [Maes testun – 50 gair]
  • Swm: [Nodwch y ffigwr]

Ydy'r cyfraniad arian parod hwn wedi'i sicrhau?

Dewiswch un opsiwn

  • Ydy a gallaf ddarparu tystiolaeth
  • Ydy ond nid oes gennyf dystiolaeth eto
  • Nac ydy
  • Ddim yn siŵr

Os ydych chi'n dewis 'Ydy a gallaf ddarparu tystiolaeth': Gallai tystiolaeth fod ar ffurf llythyr gan y cyfrannwr, neu gopi o gyfriflenni banc i ddangos y cronfeydd. [uwchlwytho ffeil]

Help gyda chyfraniadau arian parod

Beth a olygwn wrth gyfraniadau arian parod?

Mae cyfraniadau arian parod yn cynnwys unrhyw gyllid ychwanegol rydych chi'n disgwyl ei dderbyn ar gyfer eich prosiect.

Oes angen cyfraniadau arian parod arna i?

Does dim angen i chi gael cyfraniadau arian parod ar y lefel grant hon, felly peidiwch â phoeni os na allwch chi ychwanegu unrhyw beth yn yr adran hon.

Fodd bynnag, os byddwch chi'n dweud wrthyn ni eich bod chi'n derbyn arian o ffynhonnell arall, bydd angen i ni weld tystiolaeth o hyn gan ei fod yn ein helpu ni gyda'n hasesiad.

Beth yw cyfraniad wedi'i sicrhau?

Wrth sicrhau, rydyn ni'n golygu bod yr arian parod yn eich cyfrif banc wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer y prosiect hwn neu fod arian grant wedi cael ei gynnig yn ffurfiol. Gallwch chi ychwanegu tystiolaeth yn nes ymlaen yn eich cais.

Eich cais am grant

Dangosir crynodeb i'r ymgeisydd o'i gais am grant, sy'n cynnwys dadansoddiad o'u cyfanswm costau prosiect, eu cyfraniadau arian parod a'r cais am grant sy'n deillio o hynny.

Ar y pwynt hwn, gallan nhw fynd yn ôl i newid eu costau neu gyfraniadau, cyn parhau â gweddill y cais.

Ychwanegu cyfraniad nad yw'n arian parod

  • Disgrifiad o'r cyfraniad nad yw'n arian parod [Maes testun – 50 gair]
  • Amcangyfrif o'r gwerth:Amcangyfrif o faint y byddai hyn wedi'i gostio os oedd angen i'ch prosiect dalu amdano. [Nodwch y ffigwr]

Beth yw cyfraniadau nad ydynt yn arian parod?

Cyfraniadau nad ydynt yn arian parod yw pethau sydd eu hangen arnoch chi ar gyfer eich prosiect nad oes angen i chi dalu amdanynt.

Er enghraifft, defnyddio ystafell mewn busnes lleol, neu ddeunyddiau a roddir gan gwmni lleol.

Gwirfoddolwyr

Dywedwch wrthyn ni beth sydd gennych yn barod i helpu gyda'ch prosiect.

Ychwanegu gwirfoddolwr

Gwirfoddolwyr yw pobl sy'n rhoi o'u hamser am ddim i helpu cyflwyno eich prosiect.

  • Disgrifiad o'r gwirfoddolwyr [Maes testun – 50 gair]
  • Oriau [Nodwch y ffigwr]

Tystiolaeth o gefnogaeth

Anfonwch dystiolaeth atom i gefnogi'r ymrwymiadau a wnaed i'ch prosiect.

Beth a olygwn wrth dystiolaeth o gefnogaeth?

Gallai tystiolaeth fod yn llythyrau, e-byst neu fideos gan bobl sy'n cefnogi eich prosiect. Er enghraifft:

  • Llythyr o gefnogaeth gan eich AS lleol
  • E-bost gan bobl sy'n ymwneud â'ch prosiect
  • Fideo gan eich ysgol leol

Ychwanegu tystiolaeth

Disgrifiwch y dystiolaeth rydych yn ei darparu [Maes testun = 50 gair]

[Uwchlwytho ffeil]

Gwirio eich atebion

Dangosir crynodeb i'r ymgeisydd o'i holl atebion, gyda'r opsiwn i fynd yn ôl a newid ateb o'r dudalen hon.

Uwchlwytho dogfen lywodraethu eich sefydliad

Cyn i ni asesu eich cais, mae angen i ni weld copi o ddogfen lywodraethu eich sefydliad.

Beth yw dogfen lywodraethu?

Mae dogfen lywodraethu yn ddogfen swyddogol sy'n amlinellu dibenion a rheolau gweithredu eich sefydliad. Mae'n ffurfioli'r llywodraethu ac yn esbonio sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud a chan bwy.

Weithiau mae'n cael ei alw'n gyfansoddiad, llyfr rheolau, cylch gorchwyl, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, neu ddatganiad o ymddiriedaeth.

Mae'r ffordd y mae'n edrych yn dibynnu ar ba fath o sefydliad yr ydych chi.

Er enghraifft: rheolau cymdeithasu grŵp neu glwb cymunedol lleol anghorfforedig, erthyglau cymdeithasu cwmni cyfyngedig trwy warant, gweithred ymddiriedaeth i sefydlu elusen.

Mae'r Comisiwn Elusennau'n darparu arweiniad ar greu dogfen lywodraethu.

Does dim angen i chi uwchlwytho eich dogfen lywodraethu os ydych chi'n:

  • sefydliad cyhoeddus, er enghraifft, awdurdod lleol,
  • elusen sy'n gofrestredig gyda Chomisiynau Elusennau Cymru, Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Os nad oes gennych chi gopi wedi'i lofnodi, gallwch gyflwyno tystiolaeth arall i ddangos bod y ddogfen lywodraethu wedi cael ei mabwysiadu, er enghraifft, cofnodion cyfarfod pwyllgor.

Mae'n rhaid i'r enw ar eich dogfen lywodraethu gyfateb i enw eich sefydliad ac mae'n rhaid rhoi llofnod a'r dyddiad arni.

[Uwchlwytho ffeil]

Uwchlwytho cyfrifon eich sefydliad

Cyn i ni asesu eich cais, mae angen i ni weld cyfrifon wedi'u harchwilio neu eu dilysu diweddaraf eich sefydliad.

Does dim angen i chi uwchlwytho eich cyfrifon os ydych chi'n:

  • sefydliad cyhoeddus. Er enghraifft, awdurdod lleol.

Os ydych chi'n sefydliad newydd ac nid oes gennych chi gyfrifon wedi'u harchwilio, gallwch ddarparu eich tair cyfriflen banc ddiwethaf, neu lythyr gan eich banc yn cadarnhau eich bod wedi agor cyfrif.

Gwnewch yn siŵr bod eich cyfrifon wedi cael eu harchwilio neu eu dilysu gan gyfrifydd yn ddiweddar.

[Uwchlwytho ffeil]

Cadarnhau'r datganiad

Gan eich bod chi nawr yn hapus gyda'ch cais, rydych chi'n barod i wneud cais am ariannu.

Rydyn ni'n cynnal ymchwil defnyddwyr ansoddol i'n helpu ni i ddatblygu ein cynhyrchion a'n gwasanaethau. Gallai hyn amrywio o arolwg 20 munud i gyfweliad 2 awr.

  • Ticiwch y blwch hwn os hoffech chi gymryd rhan yn ein hymchwil, neu i gael mwy o wybodaeth. [Blwch ticio]
  • Rwyf wedi darllen y datganiad ac rwy'n cytuno ag ef. [Blwch ticio]

Datganiad

a) Telerau Grant

Mae'n rhaid i chi ddarllen y telerau grant safonol ar gyfer y rhaglen hon ar ein gwefan.

Trwy gwblhau'r Datganiad hwn, rydych chi'n cadarnhau bod eich sefydliad yn derbyn y telerau hyn. Ar gyfer prosiectau partneriaeth, mae'n rhaid i'r holl bartneriaid gadarnhau eu bod nhw'n derbyn y telerau grant safonol drwy ychwanegu enw cyswllt ar ddiwedd y datganiad.

b) Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data

Rydyn ni'n ymroddedig i fod mor agored â phosib. Mae hyn yn cynnwys bod yn glir ynglŷn â sut rydyn ni'n asesu ac yn gwneud penderfyniadau ar ein grantiau a sut y byddwn ni'n defnyddio eich ffurflen gais a'r dogfennau eraill rydych chi'n eu rhoi i ni. Fel sefydliad cyhoeddus mae'n rhaid i ni ddilyn yr holl gyfreithiau a rheoliadau diogelu data, gan gynnwys cyfarwyddebau a rheoliadau Senedd Ewrop sy'n berthnasol ac mewn grym o bryd i'w gilydd (y 'ddeddfwriaeth Diogelu Data'). Fel y diffinnir gan y ddeddfwriaeth Diogelu Data mae Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (sy'n gweinyddu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) yn rheolydd data.

Fel rhan o'r broses ymgeisio byddwn ni'n casglu eich enw a'ch swydd yn y sefydliad rydych chi'n ei gynrychioli. Efallai y byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth hon gydag un o'r ymgynghorwyr ar ein Cofrestr Gwasanaethau Cefnogi os byddant yn cael eu penodi i roi cefnogaeth i chi ar eich prosiect. Dydyn ni ddim yn trosglwyddo data i unrhyw drydydd partïon sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r UE. Mae ein Polisi Preifatrwydd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol gan gynnwys gwybodaeth gyswllt ein Swyddog Diogelu Data. Gellir dod o hyd iddo ar wefan Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Pan fyddwch chi'n cwblhau'r Datganiad ar ddiwedd y ffurflen gais, rydych chi'n cadarnhau eich bod chi'n deall ein cyfrifoldebau cyfreithiol o dan ddeddfwriaeth diogelu data a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac nad oes gennych chi unrhyw wrthwynebiad i ni ryddhau adrannau Ynglŷn â’ch prosiect a Cefnogaeth dros eich prosiect y ffurflen gais i unrhyw un sy'n gofyn am weld nhw ar ôl i'ch cais gwblhau'r broses asesu. Os oes unrhyw wybodaeth yn y rhannau hyn o'r ffurflen nad ydych chi eisiau iddyn nhw fod ar gael yn gyhoeddus, gofynnir i chi esbonio eich rhesymau isod:

[Blwch testun]

Byddwn ni'n cymryd y rhain i ystyriaeth pan fyddwn ni'n ymateb i unrhyw gais am fynediad i'r adrannau hynny. Efallai y bydd gofyn i ni ryddhau gwybodaeth arall yr ydych yn ei darparu i ni. Byddwn ni'n ymateb i'r ceisiadau hyn ar ôl cymryd eich hawliau a'ch disgwyliadau o dan ddeddfwriaeth Diogelu Data i ystyriaeth. Yn yr achosion hynny, byddwn ni bob amser yn ymgynghori â chi'n gyntaf. Byddwn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod yr ydych yn ei ddioddef o ganlyniad i ni fodloni'r cyfrifoldebau hyn.

  • Penderfynu a fyddwn ni'n rhoi grant i chi.
  • Darparu copïau i unigolion neu sefydliadau eraill sy'n helpu ni i asesu, monitro a gwerthuso grantiau.
  • Rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda ni sydd â diddordeb dilys mewn ceisiadau a grantiau'r Loteri Genedlaethol neu raglenni ariannu penodol.
  • Cadw mewn cronfa ddata a defnyddio at ddibenion ystadegol.
  • Os byddwn ni'n cynnig grant i chi, byddwn ni'n cyhoeddi gwybodaeth amdanoch chi sy'n ymwneud â'r gweithgaredd rydym wedi'i ariannu, gan gynnwys swm y grant a'r gweithgaredd yr oedd i dalu amdano. Efallai y bydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yn ein datganiadau i'r wasg, yn ein cyhoeddiadau printiedig ac ar-lein, ac yng nghyhoeddiadau neu ar wefannau adrannau llywodraeth perthnasol ac unrhyw sefydliadau partner sydd wedi ariannu'r gweithgaredd gyda ni.
  • Os byddwn ni'n cynnig grant i chi, byddwch chi'n cefnogi ein gwaith o ddangos gwerth treftadaeth drwy gyfrannu (pan ofynnir i chi) at weithgareddau cyhoeddusrwydd yn ystod y cyfnod y byddwn yn darparu ariannu ar ei gyfer a chymryd rhan mewn gweithgareddau i rannu dysgu, y byddwn o bosib yn cysylltu grantïon eraill â chi i wneud hynny.

Efallai y byddwn ni'n cysylltu â chi o bryd i'w gilydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am waith Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

[Ticiwch y blwch os hoffech chi gael eich hysbysu am ein gwaith]

  • Cadarnhaf fod y sefydliad sydd wedi'i enwi ar y cais hwn wedi rhoi'r awdurdod i mi gwblhau'r cais hwn ar ei ran.
  • Cadarnhaf fod y gweithgaredd yn y cais yn dod o dan ddibenion a phwerau cyfreithiol y sefydliad.
  • Cadarnhaf fod gan y sefydliad y pŵer i dderbyn y grant ac i'w dalu'n ôl.
  • Cadarnhaf, os bydd y sefydliad yn derbyn grant, y byddwn ni'n glynu wrth y telerau grant safonol, ac unrhyw delerau neu amodau pellach fel y nodir yn y llythyr hysbysiad o grant, neu mewn unrhyw gontract a baratoir yn benodol ar gyfer y prosiect.
  • Cadarnhaf fod yr wybodaeth yn y cais hwn yn gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth.

Ydych chi'n ymgeisio ar ran partneriaeth?

  • Ydw [Blwch ticio]
  • Nac ydw [Blwch ticio]

Os ydw: Dywedwch wrthyn ni gyda pha sefydliad(au) y byddwch chi'n cyflwyno eich prosiect mewn partneriaeth a rhowch gyswllt ar gyfer pob sefydliad partner (enw a swydd).

[Blwch testun]


Diweddariadau tudalen

Byddwn ni'n adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydyn ni'n cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn ni'n cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosib trwy'r dudalen we hon.