
National Lottery Grants for Heritage – £250,000 to £5million
Wedi'i leoli yn nhirwedd llechi hanesyddol gogledd Cymru, sy'n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, Boston Lodge yw'r gwaith peirianneg rheilffordd hynaf yn y byd sy'n gweithredu'n barhaus. Mae Prosiect Boston Lodge yn gwahodd cymunedau lleol y tu ôl i'r llenni i ysbrydoli ac ennyn diddordeb ymwelwyr a gwirfoddolwyr newydd.

Mae hysbysfyrddau, adeiladau a theithiau newydd yn adrodd hanes gorffennol y rheilffordd, ac mae gwaith adfer ac atgyweirio'n sicrhau dyfodol y safle. Diolch i'r gwaith adnewyddu, mae gweithdai hanesyddol gan gynnwys y Gof a'r Ffowndri Haearn yn cael eu defnyddio unwaith eto. Mae gwarchod a datblygu sgiliau wrth wraidd y prosiect, sy’n creu cyfleoedd hyfforddi gan gynnwys:
- rolau a phrosiectau gwirfoddol
- lleoliad gwaith ar gyfer pobl ifanc
- hyfforddeiaethau mewn rheoli prosiectau, gweithrediadau a dehongli
- gweithdai cyhoeddus
- canolfan hyfforddi ac ymchwil newydd a enwir ar ôl Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Meddai Edwina Ball, Rheolwr y Prosiect: “Mae’r prosiect yn dod â newid sylweddol i’r rheilffordd, gan wella sut yr ydym yn adrodd ein stori ar draws y 40 milltir o reilffordd. Bydd hefyd yn helpu gwneud Boston Lodge yn safle peirianneg sy’n addas ar gyfer y dyfodol, lle gallwn arddangos ei hanes a’r sgiliau sy’n cael eu defnyddio o hyd i adeiladu a chynnal a chadw locomotifau a cherbydau.”