The Woodland Investment Grant (TWIG)
Fe'i gelwir hefyd yn fforest law yr Iwerydd neu'r Geltiaid, ac mae'r safleoedd coetir pwysig hyn yn gartref i adar, gloÿnnod byw a phryfed prin. Maent yn hafan o fioamrywiaeth, ond credir eu bod o dan fwy o fygythiad na fforestydd glaw trofannol.
Mae Dŵr Cymru Welsh Water ac RSPB Cymru yn cydweithio ar y prosiect hwn, gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed.
Mae'r prosiect wedi derbyn cyllid gan y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG), a fydd yn ei alluogi i:
- helpu'r coetiroedd i adfywio drwy greu seilwaith ffiniau i atal defaid rhag tarfu ar gynefinoedd bregus a chyflwyno pori cynaliadwy
- gwella mynediad cyhoeddus drwy osod meinciau gorffwys, disodli camfeydd â gatiau a darparu mynediad at draciau coedwigaeth presennol
- creu byrddau gwybodaeth i annog ymwelwyr lleol i archwilio'r ardal a chynyddu eu dealltwriaeth o'r amgylchedd
- annog cyfranogiad cymunedol drwy greu grwpiau a chynnig hyfforddiant i reoli rhywogaethau coed ymledol a thirfesur bywyd gwyllt
- datblygu rhaglen o ddysgu yn yr awyr agored i ysgolion sy'n cysylltu â'r cwricwlwm cenedlaethol a phynciau STEM
- cynnal gŵyl i godi ymwybyddiaeth a dathlu Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru drwy arddangosiadau gydag artistiaid a gwneuthurwyr cymunedol lleol
Dywedodd Jennifer Newman, Rheolwr Profiad Ymwelwyr Cwm Elan, Dŵr Cymru Welsh Water: "Rydym wedi ein cyffroi i allu gweithio mewn partneriaeth ag RSPB Cymru i ddiogelu coetiroedd derw Iwerydd o bwys rhyngwladol Elan, a elwir yn Fforestydd Glaw Celtaidd, i'r dyfodol.
“Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli ac addysgol newydd i'r gymuned leol ac i ddiogelu ein bywyd gwyllt arbennig a'n bioamrywiaeth sy'n unigryw i Gwm Elan."
Mae’r cynllun grant Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) yn rhan o raglen Coedwig Genedlaethol i Gymru Llywodraeth Cymru.
Ariannu eich prosiect coetir
Darganfyddwch fwy am sut y gall cyllid gan y Grant Buddsoddi mewn Coetir eich helpu i greu, adfer a gwella coetiroedd yng Nghymru.