Tirweddau, parciau a natur
Ers 1994, rydym wedi dyfarnu dros £2.1biliwn o arian y Loteri Genedlaethol a chyllid arall i fwy na 4,900 o brosiectau tir, natur a bioamrywiaeth ar draws y DU.
Diogelu'r amgylchedd yw un o'n pedair egwyddor fuddsoddi Treftadaeth 2033. Ein gweledigaeth yw i dreftadaeth gael ei gwerthfawrogi, ei gofalu a'i chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol.
Rydym yn blaenoriaethu prosiectau tirwedd a natur sy'n:
- cefnogi adferiad byd natur
- cyflwyno atebion sy'n seiliedig ar fyd natur i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd
- ailgysylltu pobl â thirweddau, amgylcheddau morol a byd natur
Yr argyfwng hinsawdd
Mae gan y sector treftadaeth rôl bwysig i'w chwarae o ran gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr a thaclo newid yn yr hinsawdd. Darganfod mwy am yr hyn yr ydym yn ei wneud i daclo’r argyfwng hinsawdd.
Yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan y prosiectau a ariannwn
Rydym eisiau i bob math o brosiectau treftadaeth, mawr a bach:
- gyfyngu ar unrhyw niwed posib i'r amgylchedd
- cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd ac yn enwedig ar fyd natur
Darllen ein harweiniad cynaladwyedd amgylcheddol.
Sut i gael eich ariannu
Mae ein rhaglen ariannu Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar agor, gan ddarparu grantiau o £10,000 hyd at £10miliwn.
Mwy o wybodaeth
Darganfod pa brosiectau a ariannwn, a'r hyn y gallech chi ei wneud gyda'n buddsoddiad i helpu amddiffyn ein byd naturiol.
Rydym yn cefnogi prosiectau sy'n gwarchod ac yn gwella cynefinoedd ac yn diogelu rhywogaethau gwerthfawr y DU.
Disgwyliwn i brosiectau llwyddiannus ddangos sut y byddant yn mynd i'r afael â'r heriau allweddol a wynebir gan dirweddau a natur y DU.
Mae parciau cyhoeddus yn wynebu gostyngiad difrifol mewn cyllid gan awdurdodau lleol. Dyma sut y gallwn helpu eich parciau a mannau gwyrdd trefol.
Mae'r DU yn fyd-enwog am ei chyfoeth o barciau a gerddi hanesyddol. Dyma sut y gall ein cyllid helpu i ofalu amdanynt.
Projects
Cysylltu â natur a gwella llesiant yn Sir Armagh
Community group An Tobar have been awarded a £61,900 National Lottery grant to help connect people with heritage in Brian’s Wood, Silverbridge.
Newyddion
Pwll Penzance yn ennill Prosiect Cynaliadwy'r Flwyddyn yng Ngwobrau Amgueddfeydd + Treftadaeth
Publications
Parciau i Bobl: pam y dylem fuddsoddi mewn parciau?
Newyddion
Disgyblion ysgol yn cael blas ar natur yng nghoedwigoedd hynafol Caerdydd
Newyddion
Ein hadroddiad newydd yn datgelu effaith argyfwng COVID-19 ar dreftadaeth
Newyddion
Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl: gwerth y man gwyrdd
Projects
Pwrpas i brosiect llamhidyddion
Mae prosiect Outreach with a Porpoise wedi derbyn nawdd o £24,600 i godi ymwybyddiaeth o lamhidyddion harbwr a bywyd môr yn nê Sîr Benfro.
Blogiau
Dyfodol Gwyrdd: darganfod beth mae natur yn ei olygu i Coventry
Newyddion
Ymunwch â ni i wneud eich #AddunedByd yr wythnos hon
Newyddion
Hwb i fioamrywiaeth mewn gorsafoedd trên yng Nghymru
Newyddion
Cyfrannu eich safbwynt at ein prosiect ymchwil a datblygu newydd
Blogiau