Parciau i Bobl: pam y dylem fuddsoddi mewn parciau?
Atodiad | Maint |
---|---|
Think piece: Parks in a pandemic - what have we learned? | 155.96 KB |
Case study: Alexandra Park | 711.31 KB |
Case study: Boultham Park | 1.85 MB |
Case study: Grosvenor and Hilbert Park | 609.57 KB |
Case study: Saughton Park | 624.47 KB |
Case study: Stafford Orchard | 1.52 MB |
Report: Why should we invest in parks? Evidence from the Parks for People programme | 1.81 MB |
Case study: Myatt's Field Park | 1.05 MB |
Rhaglen a gynigiwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a lansiwyd yn 2006 oedd Parciau i Bobl. Ei nod oedd adfywio parciau a mynwentydd hanesyddol yn y DU. Cefnogodd gyfanswm o 135 o brosiectau drwy £254miliwn o gyllid.
Adroddiad newydd
Mae adroddiad Parciau i Bobl yn werthusiad o'r rhaglen sy'n darparu tystiolaeth glir ar gyfer gwerth buddsoddi mewn parciau. Mae'n tynnu sylw at y manteision cymdeithasol lluosog y gellir eu cyflawni drwy fuddsoddi mewn parciau cyhoeddus ac yn y bobl sy'n dod â'r parciau hynny'n fyw. Gellir ei ddefnyddio i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau am fuddsoddi mewn parciau ac i gefnogi'r gwaith o ddatblygu arferion a pholisi newydd ar gyfer rheoli parciau.
Y broses werthuso
Cynhaliwyd y gwerthusiad gan y Ganolfan Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Ranbarthol (CRESR) ym Mhrifysgol Sheffield Hallam, ynghyd â chydweithwyr ym Mhrifysgol Sheffield ac Urban Pollinators Ltd.
Roedd y gwerthusiad yn seiliedig ar dystiolaeth o'r adolygiad cyflym o dystiolaeth Space to Thrive, a gyhoeddwyd gan Gronfa Dreftadaeth a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ym mis Ionawr 2020.
Yn dilyn yr ymchwil yma, archwiliodd y gwerthuswyr chwe phrosiect Parciau i Bobl, gan greu astudiaethau achos unigol ar gyfer pob un:
- Alexandra Park, Manceinion
- Boultham Park, Lincoln
- Grosvenor and Hilbert Park, Tunbridge Wells
- Myatt’s Field, Lambeth
- Saughton Park, Caeredin
- Stafford Orchard, Quorn, Swydd Gaerlŷr
Dewiswyd y chwe pharc i gwmpasu amrywiaeth o leoliadau, mathau o gymuned, a chyfnodau buddsoddi.
Manteision buddsoddi mewn parciau
Mae'r adroddiad yn astudio'r effaith y mae'r rhaglen Parciau i Bobl wedi'i chael ar gyfer y prosiectau a ddewiswyd, gan gyfeirio at chwe budd a nodwyd yn adroddiad Lle i Ffynnu. Mae'r canfyddiadau'n dangos, heb y buddsoddiad cychwynnol hwn drwy'r rhaglen, na fyddai llawer o'r manteision hyn wedi digwydd neu y byddent wedi'u lleihau'n fawr.
Iechyd a llesiant
Creodd buddsoddi mewn parciau fwy o gyfleoedd ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff, gan ddenu ystod fwy amrywiol o ddefnyddwyr. Roedd iechyd a llesiant pobl yn elwa o:
- gwahanol fathau o leoedd o fewn parciau
- cyfleoedd i wirfoddoli
- gweithgareddau i ddefnyddwyr y parc
- cysylltu â natur
Mae buddsoddiad hefyd yn rhoi cyfleoedd i bobl sy'n agored i niwed neu ar y cyrion gysylltu â chyfleusterau a gweithgareddau parciau.
Lleihau arwahanrwydd
Mae buddsoddiad parciau yn helpu i leihau unigedd ac unigrwydd. Mae'n cefnogi creu mannau lle gall pobl gyfarfod neu fod yn agos at ei gilydd, ac mae'n helpu i sicrhau dyluniad cynhwysol y dirwedd a'r adeiladau. Helpodd gweithgareddau allgymorth wedi'u targedu hefyd i gynnwys grwpiau nad ydynt fel arfer yn defnyddio parciau.
Ymgysylltu â'r gymuned
Datblygodd prosiectau Parciau i Bobl ystod eang o weithgareddau i hyrwyddo ymgysylltu â'r gymuned drwy gydol y prosiect a thu hwnt. Er bod llawer o brosiectau'n ei chael hi'n anodd cynnal hyn ar ôl i'r grant ddod i ben.
Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau
Roedd buddsoddi'n gwneud parciau'n lleoedd mwy cynhwysol, gan gynnwys drwy ddylunio cynhwysol. Roedd buddsoddi mewn gweithgareddau sy'n cefnogi cynhwysiant neu'n ceisio lleihau anghydraddoldebau o fudd i amrywiaeth o bobl ac yn helpu cymunedau difreintiedig i deimlo eu bod yn 'bwysig'.
Cysylltu â natur
Mae buddsoddiadau parciau yn ffordd wych o greu cynefinoedd naturiol newydd ac annog bioamrywiaeth, yn aml mewn mannau nad ydynt efallai wedi cefnogi bywyd gwyllt brodorol o'r blaen. Canfu trigolion lleol eu bod yn gwella eu cysylltiadau â natur a oedd yn dod â llawer o fanteision llesiant. Roedd gwirfoddoli neu ddysgu yn helpu pobl i gysylltu â natur a gofalu amdano.
Datblygiad economaidd
Mae buddsoddiad wedi cefnogi amrywiaeth o weithgareddau economaidd, o gynnal a chadw parciau i fentrau cymdeithasol sy'n gweithio ym maes addysg. Mae'r buddsoddiad wedi creu swyddi drwy'r gweithgareddau hyn ac wedi rhoi sgiliau i bobl ddod o hyd i waith. Yn bwysig, mae buddsoddi wedi cefnogi gwahanol ddulliau o ymdrin â datblygu economaidd; datblygu mentergarwch i ddiwallu anghenion pobl a'r blaned.
Parciau yn y pandemig
Cafodd defnyddwyr y parc ym Mharc Saughton, Stafford Orchard a Grosvenor a Pharc Hilbert hefyd eu cyfweld am eu profiadau o ddefnyddio'r parciau yn ystod y cyfyngiadau symud coronafeirws cyntaf (COVID-19) yng ngwanwyn 2020.
Mewn cyfnod o ansicrwydd a mwy o bryder, cynigiodd y parciau hyn lawer o bobl â'r dianc yr oedd ei angen arnynt i gefnogi eu hiechyd meddwl a'u llesiant. Roeddent hefyd yn darparu lleoedd lleol ar gyfer ymarfer corff a ffordd o gysylltu â natur yn ystod cyfnod lle'r oedd teithio'n gyfyngedig.
Dywedodd un defnyddiwr parc: "Rydyn ni'n mynd allan am dro bob prynhawn ar ôl [i ni] gwneud ein stwff ysgol ac fe aethon ni bob dydd i'r parc hwnnw. Roedd yn fednith... Roeddwn mor ddiolchgar o'r lle. Roeddwn i mor ddiolchgar."
Fodd bynnag, arweiniodd y cynnydd mewn ymwelwyr â'r parciau at gynnydd mewn traul, yn ogystal â chynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gyda llai o gapasiti staff a gwirfoddolwyr oherwydd cyfyngiadau, creodd hyn her wirioneddol i barciau.
Tynnodd sylw hefyd at lawer o anghydraddoldebau. Trodd y rhai heb fynediad i fannau gwyrdd gartref at barciau a oedd yn aml yn orlawn neu'n gyfyngedig. Cafodd llawer o grwpiau cymunedol wyneb yn wyneb eu hatal hefyd, gan adael pobl sy'n agored i niwed heb gymorth hanfodol yr oedd ei angen arnynt ac ni allant gael mynediad i fannau cymunedol a gwyrdd.
Yr achos dros fuddsoddi
Mae'r ymchwil hwn yn dangos gwerth hirdymor buddsoddi mewn parciau. Mae'n tynnu sylw at y manteision hirhoedlog niferus sy'n gwneud parciau'n bwysig i lesiant unigolion a chymunedau.
Mae gan fannau gwyrdd rôl bwysig mewn adferiad ôl-COVID-19. Mae'r ymchwil hwn yn dangos pwysigrwydd buddsoddi mewn mannau gwyrdd o ansawdd uchel yn ogystal â'r cyfleusterau a'r gweithgareddau sy'n cefnogi cymunedau i ffynnu.