#TrysorauTreftadaeth – Cymerwch ran ar 14 Ionawr 2025
Ymunwch â ni ar 14 Ionawr 2025 ar gyfryngau cymdeithasol i ddathlu eich storïau, gwrthrychau, lleoedd, a phobl treftadaeth ysbrydoledig.
Y llynedd, cymerodd miloedd ran ac ysbrydolwyd miliynau – gadewch i ni wneud 2025 hyd yn oed yn fwy a chael treftadaeth i drendio eto.
Beth fydd eich trysor treftadaeth?
Gallai fod yn eitem gasgliad ysbrydoledig, yn barc hardd, yn daith gerdded y gaeaf, eich hoff amgueddfa neu’n stori hanes lleol.
Efallai eich bod wedi mwynhau prosiect treftadaeth ar-lein anhygoel, neu efallai mai'r staff a'r gwirfoddolwyr yn eich lleoliad yw eich gwir drysorau treftadaeth.
Mae cymryd rhan yn ffordd wych o arddangos eich gwaith neu leoliad. Os ydych chi wedi cael eich ariannu, mae hefyd yn gyfle gwych i gydnabod eich grant a diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth.
Sut i gymryd rhan
Rhannwch lun, defnyddiwch yr hashnod #TrysorauTreftadaeth a thagiwch ni – @HeritageFundCYM – ar Twitter/X ac Instagram.
Rhywfaint o ysbrydoliaeth postio:
- #DiwrnodTrysorauTreftadaeth Hapus! I ddathlu gyda @HeritageFundCYM rydyn ni'n tynnu sylw at dlws treftadaeth (nodwch y lle/prosiect), gyda diolch i chwaraewyr y #LoteriGenedlaethol
- Rydyn ni'n ymuno â @HeritageFundCYM i ddathlu #TrysorauTreftadaeth! Heddiw rydyn ni'n arddangos y (nodwch y lle/prosiect) ysblennydd. (Nodwch ffaith am y lle/prosiect)
- Y Diwrnod #TrysorauTreftadaeth yma rydyn ni'n taflu goleuni ar [enw'r person], y mae ei waith gwych wedi bod yn hanfodol i'n prosiect treftadaeth - oll yn bosibl diolch i gefnogaeth gan #LoteriGenedlaethol @HeritageFundCYM
Ni allwn aros am weld eich postiadau.
I gael mwy o ysbrydoliaeth, bwrw golwg ar bostiadau #TrysorauTreftadaeth y llynedd ar Twitter/X.