Gwnewch gais am wobr Prosiect Cynaliadwy y Flwyddyn 2025

Gwnewch gais am wobr Prosiect Cynaliadwy y Flwyddyn 2025

Pobl yn edrych ar gypyrddau arddangos mewn oriel mesanîn
Mae Llawr Uchaf arbrofol Amgueddfa Manceinion yn cefnogi gweithredu ar y cyd mewn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol. Credyd: Amgueddfa Manceinion.
Rydym yn falch o noddi gwobr cynaladwyedd y gwobrau Amgueddfeydd a Threftadaeth, gan ddathlu prosiectau ac arddangosfeydd rhagorol sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mae'r sector treftadaeth yn chwarae rôl bwysig wrth helpu i daclo newid yn yr hinsawdd a diogelu ein byd naturiol. Rydym yn chwilio am brosiectau neu arddangosfeydd amgylcheddol gynaliadwy sy'n helpu i gyflawni hyn.

Gellir gwneud cais am y wobr am ddim ac mae ar agor tan 31 Ionawr 2025.

Rydym yn edrych ymlaen at weld eich ceisiadau ac ni allwn aros am ddathlu'r prosiectau cynaladwyedd cyffrous y mae'r sector wedi'u cyflwyno dros y flwyddyn ddiwethaf.

Alistair Brown, Pennaeth Polisi Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Mae’r wobr yn helpu i daflu goleuni ar ddulliau creadigol a all hefyd ysbrydoli eraill i ymgorffori cynaladwyedd wrth wraidd yr hyn a wnânt.

Beth rydym yn chwilio amdano

Rydym am weld prosiectau neu arddangosfeydd amgylcheddol gynaliadwy rhagorol sy'n dangos arfer gorau wrth reoli neu gyfathrebu effeithiau amgylcheddol.

Efallai bod eich prosiect wedi defnyddio, er enghraifft, mesurau effeithlonrwydd ynni, cynlluniau teithio gwyrdd i ymwelwyr neu ymagweddau unigryw at ennyn diddordeb cynulleidfaoedd yn yr argyfwng hinsawdd.

Dylai ceisiadau hefyd nodi unrhyw fanteision economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol ehangach i'r sefydliad neu'r gymuned sydd wedi deillio o 'feddwl yn gynaliadwy’.  

Rhaid i brosiectau fod wedi’u lleoli yn y DU ac wedi cael eu cyflwyno yn 2024.

Bydd hyd at ddau enillydd

  1. Un sydd wedi defnyddio dulliau syml, fforddiadwy a hawdd eu trosglwyddo.
  2. Un sy’n brosiect â chynaladwyedd amgylcheddol yn ganolog iddo.

Mynnwch ysbrydoliaeth drwy edrych ar rai o'n henillwyr blaenorol gan gynnwys The Scottish Crannog Centre a Roots and Branches yn 2024, a Food Museum a SS Great Britain yn 2023.

Dyddiadau allweddol

  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 31 Ionawr 2025
  • Cyhoeddi'r rhestr fer: canol mis Mawrth 2025
  • Cyhoeddi'r enillwyr mewn seremoni wobrwyo: 15 Mai 2025

Cefnogi adferiad byd natur a'r amgylchedd

Meddai Alistair Brown, Pennaeth Polisi Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Eleni, mae’r Gronfa Treftadaeth yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed. Ar hyd ein 30 mlynedd, rydym wedi cefnogi amgueddfeydd a sefydliadau treftadaeth i ddod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy, ac i ennyn diddordeb y cyhoedd ar faterion hinsawdd, byd natur ac amgylcheddol.

"Mae’r gwaith hwn yn fwy perthnasol nag erioed, ac rydym yn falch iawn o fod yn noddi gwobr Prosiect Cynaliadwy y Flwyddyn. Rydym yn edrych ymlaen at weld eich ceisiadau ac ni allwn aros am ddathlu'r prosiectau cynaladwyedd cyffrous y mae'r sector wedi'u cyflwyno dros y flwyddyn ddiwethaf."

Ewch i wefan y gwobrau Amgueddfeydd a Threftadaeth am ragor o wybodaeth ac i wneud cais.

Rhedeg prosiect amgylcheddol gynaliadwy

Cael gwybod beth rydym yn ei ddisgwyl gan y prosiectau a ariannwn a darganfod rhai awgrymiadau ar sut i fod yn amgylcheddol gynaliadwy:

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...