Natur yn ffynnu ym Mhen-Bre diolch i grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Mae Cyngor Tref Pem-Bre a Phorth Tywyn wedi derbyn grant o £50,000 gan y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur sydd yn cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mi fydd y rhodd yn helpu i greu lloches parhaol ar gyfer bywyd gwyllt ac yn annog bio-amrywiaeth mewn ardal drefol breswyl.
“Natur yw ein hased mwyaf, ond mae o dan fygythiad. Mae’r cynllun grantiau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cynning grantiau i gynlluniau cyfalaf yng Nghymru ar gyfer caffael, adfer a gwella natur.”
Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftdaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru
Mae Prosiect Amgylchedd Pen-Bre a Phort Tywyn yn datbygu pedwar hen barc chwarae ym Mhorth Tywyn i mewn i ardd synhwyraidd, perllan, ardal dyfu gymunedol a pharc eco.
Bydd y lleoliadau yn rhoi hwb i iechyd meddwl pobl leol ac yn denu peillwyr megis adar, gwenynod a mamaliaid bychan a rhoi cyfle i blant gael profiad o natur a dysgu am yr amgylchedd.
Datblygu hen barciau chwarae
Meddai Louise Robinson, Swyddog Datblygu Cymunedol Cyngor Tref Pen-Bre a Phorth Tywyn:
“Rwyf wrth fy modd fod y prosiect yma yn cymryd lle gan ei fod yn darparu’r rhyddhad a’r gobaith sydd ei angen ar gymuned Pen-Bre a Porth Tywyn yn ystod y pandemig COVID-19.
“Mae gan Pen-Bre a Phorth Tywyn – fel nifer o ardaloedd eraill, ambell i hen barc chwarae y’i hetifeddwyd gan y cyngor trwy drosglwyddiad asedion. Bydd y parciau nawr yn cael eu defnyddio mewn modd mwy cynhyrchiol a bydd hynny o les i’r gymuned.
“Yn ogystal, mae tipyn o drigolion lleol yn gwirfoddoli ar y safleoedd a maent wedi eu gwirioni gyda’r prosiect, ac wrth gwrs oherwydd cyfyngiadau presennol, rydym yn ei reoli yn ofalus iawn. Mae gan yr ysgolion lleol i gyd gysylltiad gyda’r safleoedd a mae’r plant wedi bod yn helpu i’w cynllunio.”
Natur yw ein hased mwyaf
Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftdaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
“Natur yw ein hased mwyaf, ond mae o dan fygythiad. Mae’r cynllun grantiau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cynning grantiau i gynlluniau cyfalaf yng Nghymru ar gyfer caffael, adfer a gwella natur.
“Mae’r datblygiad hwn wedi rhoi cyfle i dreftdaeth naturiol Porth Tywyn ffynnu a denu bywyd gwyllt fel peillwyr yn ôl i’r ardal a mae hyn o fudd i’r amgylchedd a chynefinoedd lleol. Mae creu a chadw balans fel hyn yn gwella ansawdd yr awyr a chyflwr y pridd.”
Grantiau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur mwy hael
Rydym nawr yn gallu cynnig grantiau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur mwy hael gyda nawdd o £10,000 - £100,000 ar gael i ganitau prosiectau cyfalaf yng Nghymru i gaffael, adfer a gwella natur mewn ardaloedd di-freintiedig.
Mae nifer cyfyngedig o grantiau £100,000 - £250,000 ar gael hefyd ar gyfer prosiectau natur mewn ardaleodd trefol neu rai sydd ar y ffin ag ardaloedd trefol mewn ardaloedd o ddifreintiaeth uchel.
Darganfyddwch fwy am y grantiau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur