Hwb o £8.75miliwn i Bont Gludo Casnewydd
“Bydd y buddsoddiad yma, y trydydd mwyaf a ddyrennir erioed yng Nghymru, yn helpu i gynnal swyddi, cefnogi twf economaidd, sbarduno twristiaeth a chreu ymdeimlad o falchder yn nhreftadaeth unigryw Casnewydd.”
Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru
Mae Pont Gludo Casnewydd yn ne ddwyrain Cymru yn un o ddim ond wyth pont gludo sy'n weddill yn y byd. Wedi'i hagor yn 1906, cludodd y fferi awyr gweithwyr o orllewin Casnewydd ar draws Afon Wysg heb amharu ar draffig i borthladd prysur y dref.
Gwaith adfer
Bydd yr arian yn caniatáu i Gyngor Dinas Casnewydd atgyweirio a diogelu strwythur y bont. Bydd atgyweiriadau mawr yn cael eu gwneud ar y traphont ddwyreiniol, y gondola, trawstiau a phwyntiau angori. Bydd nodweddion pensaernïol coll yn cael eu hadfer, a bydd y bont gyfan yn cael ei hatgyweirio a'i thrin i atal cyrydu.
Fyny fry
Unwaith y bydd y gwaith adfer wedi'i gwblhau, bydd ymwelwyr yn gallu dilyn ôl troed y gweithwyr a adeiladodd y bont drwy ddringo i ben y rhodfa, 55 metr uwchben y dŵr.
O'r fan honno, byddant yn gallu mwynhau golygfeydd gogoneddus dros dde Cymru. Bydd ymwelwyr hefyd yn gallu rhyfeddu at y strwythur Edwardaidd anhygoel wrth iddynt fynd ar daith ar y gondola.
Rydym yn hynod falch i gyhoeddi rhodd o £8.75 miliwn i drwsio ac adnewyddu @NpTbridge ac adeiladu canolfan ymwelwyr newydd https://t.co/VXoy2VV9pS @NewportCouncil @HeritageFundUK @LottoGoodCauses #casnweydd #pontgludocasnewydd #DiolchIChi pic.twitter.com/KVFAOE18qD
— Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (@HeritageFundCYM) January 22, 2021
Canolbwynt i ymwelwyr
Bydd y grant hefyd yn ariannu canolfan ymwelwyr newydd, lle gall pobl ddysgu am hanes a threftadaeth y bont a'i hamgylchedd.
Wedi'i chysylltu â'r bont drwy rhodfa, bydd gan y ganolfan siop, caffi, toiledau a chyfleusterau newid a gwell cyfleusterau parcio ceir. Bydd gofod cymunedol hefyd gyda rhaglen weithgareddau helaeth.
Hwb eiconig i Gasnewydd
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:
"Mae'r bont gludo yn eicon o Gasnewydd, ac yn rhan sylweddol o stori gorffennol diwydiannol Cymru – un y mae angen i ni ei chadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol fel y gallwn adrodd straeon ein hanes unigryw. Rwyf wrth fy modd felly ein bod wedi gallu sicrhau'r arian yma gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a fydd yn ein galluogi i wneud yr union beth hwnnw.
"Mae gan ddatblygu canolfan ymwelwyr newydd y potensial i greu cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli, a gwella enw da'r ddinas fel cyrchfan i ymwelwyr, a bydd y ddau yn dod â manteision economaidd ehangach i Gasnewydd."
Buddsoddi yn nhreftadaeth Cymru
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
"Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Pont Gludo Casnewydd – un o dirnodau hanesyddol pwysicaf Cymru – wedi cael ei diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Bydd y buddsoddiad yma, y trydydd mwyaf a ddyranwyd erioed yng Nghymru, yn helpu i gynnal swyddi, cefnogi twf economaidd, sbarduno twristiaeth a chreu ymdeimlad o falchder yn treftadaeth unigryw Casnewydd.
"Rydym yn falch o'r buddsoddiad rydym wedi'i wneud yng Nghymru – mwy na £410 miliwn dros y 26 mlynedd diwethaf. Ar ôl blwyddyn o ddarparu cymorth brys i sefydliadau treftadaeth Cymru sydd wedi’u taro gan COVID-19, byddwn yn ailagor ceisiadau am grantiau prosiect y Loteri Genedlaethol cyn bo hir ac yn edrych ymlaen at ariannu llawer mwy o atyniadau treftadaeth pwysig ledled Cymru."
Dysgwch fwy am brosiectau eraill rydym wedi'u hariannu yng Nghymru a grantiau sydd ar gael i sefydliadau treftadaeth yng Nghymru.