Cyhoeddi cyllid newydd ar gyfer prosiectau amgylcheddol mewn cymunedau yng Nghymru
Bydd y rhaglenni, sy'n werth mwy na £4miliwn, yn galluogi cymunedau lleol ledled Cymru i fod yn rhan o waith adfer a gwella natur, gan gynnwys coetiroedd.
Y ddwy raglen gymunedol newydd yw:
Dywedodd y Farwnes Kay Andrews, Dirprwy Gadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chadeirydd Pwyllgor Cymru: "Bydd yr arian newydd yma gan Lywodraeth Cymru a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn gweithio'n galed i sicrhau y gofelir am dreftadaeth naturiol bwysig Cymru, a helpu i ailgysylltu pobl â'r byd naturiol a anwybyddir yn aml ar garreg eu drws yn ogystal â diogelu'r amgylchedd am flynyddoedd i ddod.
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Mae'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cefnogi prosiectau sydd wedi'u cynllunio a'u harwain gan grwpiau a sefydliadau cymunedol i greu, adfer a gwella cynefinoedd yng Nghymru.
Mae ceisiadau ar agor ac mae grantiau'n amrywio rhwng £10,000 a £100,000. Cyfanswm y cyllid sydd ar gael yw £2.3miliwn (diweddarwyd 11 Medi 2020).
Gallai'r gweithgareddau gynnwys:
- cynyddu perllannau cymunedol, tyfu yn y gymuned a rhandiroedd
- plannu coed stryd
- lleihau'r defnydd o bedstilyddion, gwrteithiau a chompost sy'n seiliedig ar fawn
- newid defnydd tir i hyrwyddo natur a lleihau llifogydd
- cynyddu mynediad i ddŵr yfed diogel
Dysgwch fwy a sut i wneud cais.
Coetiroedd Cymunedol
Bydd y cynllun Coetiroedd Cymunedol yn gweld pobl yn cymryd rhan yn y gwaith o greu coedwig genedlaethol i Gymru, gan ddwyn ynghyd coetiroedd a gwrychoedd cysylltiedig. Bydd cymunedau'n gallu defnyddio'r arian ar gyfer prosiectau sy'n adfer, creu, cysylltu a rheoli coetiroedd yng Nghymru.
Mae'r ceisiadau ar agor nawr tan 21 Hydref 2020 a bydd y cynllun ar gael tan fis Mawrth 2022. Bydd y grantiau'n amrywio o rhwng £3,000 a £100,000. Mae cyfanswm y pot cyllid sydd ar gael yn werth £2.1 m.
Dysgwch fwy a sut i wneud cais.
Gwneud natur yn flaenoriaeth
Parhaodd y Farwnes Andrews: "Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi nodi natur a thirweddau fel blaenoriaeth yn ein Fframwaith Ariannu Strategol, gan ein bod yn credu e bod yn eithriadol o bwysig i ofalu am natur a helpu pobl i’w ddeall.
"Edrychaf ymlaen at glywed gan ymgeiswyr ac at gefnogi llawer o brosiectau newydd yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd."
"Felly, rydym wrth ein boddau ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a chefnogi'r Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a Choetiroedd Cymunedol.
"Edrychaf ymlaen at glywed gan ymgeiswyr ac at gefnogi llawer o brosiectau newydd yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd."